Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi cylchgrawn cyntaf dwyieithog LGBTQYMRU

  • Cyhoeddwyd
Cylchgrawn @LGBTQymruFfynhonnell y llun, @LGBTQymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae clawr y cylchgrawn gan Nathan Wyburn yn dangos wyneb y rhai sydd wedi cyfrannu i'r rhifyn cyntaf

Mae'r cylchgrawn LGBTQ+ dwyieithog cyntaf yn cael ei lansio yng Nghymru ddydd Gwener.

Gyda'r arwyddair 'Yma i ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LGBTQ+ Cymru' mae'r argraffiad cyntaf o LGBTQYMRU yn cynnwys straeon gan aelodau o gymuned LGBTQ+ a'r rhai sy'n ymgyrchu am fywyd gwell i bobl LGBTQ+.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan LGBTQYMRU

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan LGBTQYMRU

Mae'r cylchgrawn newydd yn swmpus - dros 80 tudalen yn cynnwys 28 erthygl.

Daeth y syniad o gael cylchgrawn wedi i'r pandemig ei gwneud hi'n amhosib cynnal Pride Cymru yn ei ffurf arferol yn 2020.

Yn ystod 2020 cafodd LGBTQymru ei ffurfio yng Nghaerdydd a dyma sydd wedi rhoi i'r cylchgrawn ei enw.

LGBTQymru hefyd a fu'n gyfrifol am drefnu y Pride cyntaf ar-lein yn ystod haf 2020.

Nod y digwyddiad cynhwysol oedd sicrhau bod presenoldeb gweledol gan bobl LHDT, er gwaetha diffyg y digwyddiadau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 15,000 o bobl i Å´yl Pride Cymru yng Nghaerdydd yn 2019

Dywedodd Craig Stephenson, un o olygyddion y cylchgrawn, bod y tîm yn teimlo eu bod wedi llenwi bwlch pwysig wrth gynnal y Pride rhithiol cyntaf a bod y digwyddiad wedi peri iddyn nhw feddwl beth arall oedd ei angen ar y gymuned LGBTQ+ yng Nghymru yn ystod y pandemig.

"Un o'r pethau ni wedi canolbwyntio arno," meddai Craig Stephenson, "yw sicrhau bod y gymuned yn gallu parhau i gysylltu ag eraill yn ystod y cyfnod clo ac wrth gwrs mae hynna'n parhau ar ôl y cyfnod clo hefyd."

Ychwanegodd Mr Stephenson hefyd bod cynrychioli Cymru gyfan yn holl bwysig.

'Unigrwydd yn aml yn broblem'

"Y tuedd yw ffocysu ar ddinasoedd mawr a dim gymaint ar drefi a phentrefi bach lle mae unigrwydd yn gallu bod yn broblem.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n bwysig iawn canolbwyntio ar Gymru gyfan,' medd Craig Stephenson - un o olygyddion y cylchgrawn

"Mae hi mor bwysig i'r gymuned LGBTQ+ wybod bod yna rywun arall mas yna - rhywun sy'n rhannu yr un teimladau a rhywun mae modd cysylltu â nhw - yn enwedig yn ystod y pandemig.

"'Da ni'n gwybod bod stwff eisoes yn mynd ymlaen mewn llefydd eraill a 'dan ni eisiau tynnu sylw atyn nhw, rhoi platfform iddyn nhw," ychwanegodd Craig Stephenson.

Mae'r cylchgrawn yn cynnwys pedair adran: bywyd, iechyd a lles, cymuned a diwylliant.

Mae rhan fwyaf o'r gohebwyr yn wirfoddolwyr a dywed y golygydd eu bod wedi bod yn "ymchwilio i storïau ar draws Cymru".

Mae clawr y cylchgrawn, sydd wedi'i gynllunio gan Nathan Wyburn, yn dangos wynebau y rhai sydd wedi cyfrannu i'r rhifyn cyntaf a'r rhai sy'n ymgyrchu am fywyd gwell i bobl LGBTQ+.

Mae wedi ennyn cryn ddiddordeb ac ymhlith y rhai sy'n falch i fod yn rhan ohono mae dau wleidydd blaenllaw sef Adam Price, arweinydd Plaid Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Jeremy Miles

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Jeremy Miles

Ymhlith y pynciau sy'n cael eu trafod yn y rhifyn cyntaf mae deddf cydnabod rhywedd, dillad, celf, datblygiad Pride yng Nghymru a'r gyfres It's a Sin.

Mae yna deyrnged hefyd i Jan Morris, yr awdur a'r newyddiadurwr toreithiog a fu farw ddiwedd Tachwedd 2020.

Mae dros ugain o bobl wedi cyfrannu i'r rhifyn cyntaf - yn eu plith Lisa Power sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol ac Alun Saunders sydd wedi bod yn portreadu y cymeriad drag Connie Orff.