Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Nifer y marwolaethau'n gostwng eto yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pier LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Unwaith eto, roedd y nifer fwyaf o farwolaethau - fesul bwrdd iechyd - yn y gogledd

Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi gostwng am y bedwaredd wythnos yn olynol yng Nghymru.

Roedd 216 o farwolaethau yn ymwneud â'r feirws yn yr wythnos hyd at 12 Chwefror, gan gyfrif am 28.4% o'r holl farwolaethau, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd hyn 98 yn llai o farwolaethau nag a gofrestrwyd yn ystod yr wythnos flaenorol.

Roedd marwolaethau ar y cyfan hefyd yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol am y 14eg wythnos yn olynol ond ar gyfran is nag unrhyw le yn Lloegr.

Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 12 Chwefror, roedd y nifer fwyaf o farwolaethau - o fewn ardaloedd byrddau iechyd - yng ngogledd Cymru, a hynny am y bedwaredd wythnos yn olynol.

Bu 59 marwolaeth ar draws Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda 41 yn yr ysbyty a 14 mewn cartrefi gofal.

Mewn rhannau eraill o Gymru, bu 36 o farwolaethau ym myrddau iechyd Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro.

Hefyd roedd 13 ymhlith 32 o farwolaethau Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gleifion o Gaerffili.

Roedd y cwymp wythnosol mwyaf mewn marwolaethau yn ardal Bae Abertawe.

Beth am farwolaethau 'gormodol'?

Mae'r ffigyrau'n dangos, am y cyfnod rhwng dechrau'r pandemig fis Mawrth diwethaf a 12 Chwefror eleni, y bu 36,534 o farwolaethau o bob achos yng Nghymru.

O'r rhain, soniodd 7,228 o farwolaethau (19.8%) am Covid ar y dystysgrif marwolaeth. Roedd hyn 6,067 o farwolaethau yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

O edrych ar farwolaethau o gymharu â'r hyn y gallem fel arfer ddisgwyl ei weld, o flynyddoedd blaenorol - mae marwolaethau "gormodol" yn cael ei ystyried yn fesur dibynadwy.

Mae cyfanswm y marwolaethau sy'n cynnwys Covid hyd at 12 Chwefror, pan fydd cofrestriadau yn y dyddiau canlynol yn cael eu cyfrif, bellach yn 7,296.

Mae'r rhain yn farwolaethau lle mae Covid naill ai'n cael ei amau ​​neu ei gadarnhau gan feddygon, fel ffactor cyfrannol. Ond y gred ydy mai'r feirws ydy'r achos sylfaenol mewn tua 90% o'r marwolaethau yma.

Yn wahanol i'r cipolwg dyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ffigyrau gan yr ONS hefyd yn cynnwys yr holl farwolaethau mewn cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl.

Pynciau cysylltiedig