Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Ysbyty Gwynedd yn ceisio atal lledaeniad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty Gwynedd

Mae'r awdurdodau yn Ysbyty Gwynedd yn ceisio rheoli lledaeniad o Covid-19 sydd wedi effeithio cleifion mewn pum ward.

Mae yna 75 claf yn derbyn triniaeth ar gyfer yr haint, ac o'r rhain mae 49 yn gysylltiedig â'r clwstwr newydd.

Dywedodd Dr Karen Mottart, cyfarwyddwr meddygol yr ysbyty, fod yr haint yn effeithio ar bump o wardiau oedolion.

"Mae profion yn cael eu cynnal ar staff a chleifion. Bydd pob claf sy'n profi'n bositif yn cael ei ynysu.

"Wrth i ni barhau i gynnal profion rydym yn disgwyl dod o hyd i fwy o achosion mewn cleifion a staff sydd ar hyn o bryd heb ddangos symptomau."

Dywedodd Dr Mottart fod yna fwy o gleifion Covid yn cael triniaeth yn yr ysbyty nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Betsi Cadwaladr

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Betsi Cadwaladr

"Mae yna risg sylweddol y gallai claf brofi'n negyddol i Covid tra bod yr haint yn ddof yn y corff, ac yna profi'n bositif ar ôl cael mynediad i'r ysbyty," meddai.

"Mae pob un ysbyty yn wynebu'r her o gydbwyso'r risg o ledaenu'r haint, wrth gynnig gofal i'r sawl sydd ei angen."

Ychwanegodd y dylai pobl ond dod i'r ysbyty pe bai hynny'n gwbl angenrheidiol.

"Plîs helpwch ni i leihau'r risg drwy ond mynychu pe bai'n gwbl angenrheidiol.

"Mae cyfyngiadau ar ymweld, heblaw ar amgylchiadau cyfyngedig yn parhau.

"Ond fe ddylai cleifion dal fynychu ar gyfer apwyntiadau oni bai eu bod yn clywed i'r gwrthwyneb."

Pynciau cysylltiedig