Â鶹ԼÅÄ

Ffigyrau Covid-19 Môn yn 'frawychus' ac yn 'achos pryder'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi yn dweud bod y sefyllfa ar yr ynys yn "argyfyngus"

Mae pryder cynyddol fod nifer yr achosion positif o Covid-19 ar gynnydd ar Ynys Môn gyda phrif weithredwr y sir yn dweud fod y sefyllfa yn un "hynod bryderus".

Bythefnos yn ôl y sir oedd â'r nifer isaf o achosion yng Nghymru - erbyn hyn hi sydd â'r bedwaredd raddfa uchaf gyda 141.3 ar gyfer pob 100,000.

Ym mis Ionawr roedd 440 o achosion, y nifer uchaf mewn mis ers dechrau'r pandemig.

Cred swyddogion fod y cynnydd o ganlyniad i drosglwyddiad rhwng cartrefi dros yr wythnosau diwethaf, gyda theuluoedd neu ffrindiau'n ymweld â'i gilydd yn gymdeithasol.

Dywedodd y prif weithredwr Annwen Morgan fod y sefyllfa yn wahanol i ardaloedd eraill Cymru ers dechrau'r cyfnod clo diweddaraf.

"Llai na phythefnos yn ôl, roedd gan Ynys Môn y nifer isaf o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru.

"Mae'r sefyllfa wedi newid yn gyflym iawn.

"Ddoe yn unig, cofnododd ein tîm Profi, Olrhain, Amddiffyn (TTP) gyfanswm brawychus o 35 achos positif."

"Mae'r coronafeirws yn amlwg ym mhob rhan o'r ynys wrth i achosion gael eu cadarnhau mewn pobl o bob oed - hen ac ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Bellach, dim ond siroedd Wrecsam, Fflint a Chaerfyrddin sydd â chyfraddau uwch fesul pologaeth nag Ynys Môn

Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Llinos Medi fod y lefelau diweddaraf yn "frawychus."

"Mae'r nifer uchel o achosion yn rhoi pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd ac, yn anffodus, rydym yn deall bod mwy o drigolion Môn wedi marw."

Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd ei bod wedi "gorfod dilyn be' sy'n dod i lawr o uwch fy mhen", a'i bod o'r farn bod "camgymeriadau mawr wedi digwydd".

"Unwaith 'da ni'n cau lawr, y drafodaeth gynta' ydy pryd 'da ni'n ailagor - yn lle fod y drafodaeth ynglŷn â'r ffaith bo' ni ddim yn ailagor tan bo' ni 'di gwasgu hwn allan o gymdeithas."

Ysgolion ar gau 'os nad yda' ni'n gyfforddus'

Gyda disgwyl cyhoeddiad am ailagor ysgolion i rai disgyblion yn ddiweddarach, ychwanegodd yr arweinydd na fyddai'n agor ysgolion oni bai bod hynny'n ddiogel.

"Dwi'n gobeithio bod y sector addysg yn gweld be 'naethon ni yr haf flwyddyn diwetha' 'efo be' ddigwyddodd yn y ffatri yn Llangefni.

"'Naethom ni ddim agor yr un pryd a gweddill Cymru oherwydd hynny. A mi fydda i yn neud yr union 'run fath y tro hwn.

"Os nad yda' ni'n gyfforddus bod niferoedd [Covid-19] yn saff i 'neud yn Ynys Môn, fydda' ni ddim yn agor yr ysgolion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething fod 13 achos o'r amrywiolyn Covid-19 De Affrica wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Ddechrau'r wythnos daeth cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod 13 achos o'r amrywiolyn Covid-19 De Affrica bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Yn wreiddiol dywedodd swyddogion iechyd fod 10 â chysylltiadau amlwg â De Affrica neu deithio dramor, ond doedd dim tystiolaeth amlwg am y tri arall - gan gynnwys un ar Ynys Môn.

Ond ddydd Iau dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng achos Môn â theithio dramor- gan adael dim ond dau heb esboniad.