Â鶹ԼÅÄ

Cynllun adfer yn rhoi pwyslais ar wella canol trefi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SiopaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Lafur Cymru ei bod am ffocysu ar ffyniant canol trefi

Bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei sylw ar ffyniant y stryd fawr wrth geisio adfer yr economi ar ôl Covid, yn ôl datganiad bwriad.

Dywed y llywodraeth fod y pandemig wedi cyflymu'r newidiadau oedd eisoes ar droed yng nghanol ein trefi, gan wneud i bobl werthfawrogi'r gwasanaethau sy'n bwysig iddynt o ddydd i ddydd - fel siopau trin gwallt, band eang neu ein system iechyd a gofal.

Yn ogystal â hyn dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn awyddus i sicrhau buddsoddiad gan gwmnïau mawr, ond fod y cwmnïau hyn yn derbyn cymorth yn sgil eu haddewidion i leihau eu hôl troed carbon a bod yn gyflogwyr teg.

Dywed dirprwy weinidog yr economi a thrafnidiaeth, Lee Waters fod economi Cymru wedi cael ergyd drom yn sgil y pandemig, a nawr fod agen ailadeiladu nid yn unig yn gryfach ond hefyd yn fwy teg.

Yn ystod y pandemig dywedodd Mr Waters fod pobl wedi dod i arfer yn fwy gyda'r term "gweithwyr allweddol".

Cyn hyn meddai, doedd y dirprwy weinidog ddim yn credu fod y swyddi hyn yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn.

Beth ydy'r syniadau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod £270m yn ychwanegol ar gyfer cronfa buddsoddi Banc Cymru fel modd o ariannu cynlluniau tymor hir cwmnïau sydd am ehangu.

Mae'r stryd fawr mewn sawl ardal wedi gweld newid mawr, gyda siopau fel Debenhams a Topshop yn cau eu drysau.

Dywed Llywodraeth Cymru fod sawl un o'u hadrannau yn cydweithio i sicrhau fod gan ein trefi ddyfodol newydd, gan ddod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer adeiladau.

Maent hefyd yn annog sefydlu canolfannau hwb, lle gallai pobl weithio yn agosach i'w cartrefi yn hytrach na gorfod teithio i'w gwaith.

Maent yn credu y bydd y bobl sy'n gweithio yn y canolfannau yma yn fwy tebygol o wario eu harian yn lleol, a byddant hefyd yn fwy gweithgar o fewn eu cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru yn honni fod mynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig a Brexit wedi erydu'r cynnydd a fu yn y degawd diwethaf wrth leihau diweithdra a segurdod economaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r targedau yw ceisio sicrhau fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru

Dywed y llywodraeth fod y pandemig wedi cael effaith penodol ar bobl ifanc, merched, pobl anabl a chymunedau ethnig o ran diswyddiadau a lleihad o ran oriau gwaith.

Yn eu dogfen 'Ail-greu ar ôl Covid-19: yr heriau a'r blaenoriaethau' mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu eu gweledigaeth ynglŷn ag adfer yr economi.

Mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £6bn y flwyddyn, a'r gobaith yw sicrhau fod mwy o'r arian yma yn cael ei wario yng Nghymru.

Er enghraifft mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario tua £22m y flwyddyn ar fwyd, gyda 48% o hyn yn cael ei roi i fusnesu y tu allan i Gymru.

Y nod yw sicrhau fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru er mwyn creu swyddi a ffyniant.

'Methu targedau'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Helen Mary Jones AS: "Mae 20 mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghymru yn cael ei nodweddu gan fethiant wrth geisio cwblhau eu haddewidion.

"Mae cyflogau wedi aros yn eu hunfan yn y sector iechyd, ac mae targedau ym meysydd iechyd, addysg a'r amgylchedd wedi eu methu, ac mae hyn wedi cael oblygiadau mawr o ran safon byw.

"Mae cynllun y llywodraeth yn cymharu'n wael gyda'r cynllun gwyrdd gwerth £6bn gafodd ei gyhoeddi gan Blaid Cymru - cynllun fyddai'n trawsnewid yr economi a chreu 60,000 o swyddi."

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George AS bod yr arian i'w groesawu, ond bod Llywodraeth Cymru yn araf iawn i leddfu cyfraddau busnes.

"Rydyn ni nawr yn wynebu her enfawr i ailadeiladu Cymru wedi'r pandemig, ac mae record warthus y Llafur wedi atal twf economaidd, gyda gweinidogion yn cyfaddef nad ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud gyda'r economi," meddai.