Â鶹ԼÅÄ

Plaid Cymru'n addo buddsoddi £6bn i greu miloedd o swyddi

  • Cyhoeddwyd
MerthyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod cynllun Plaid Cymry ydy ailadeiladu wrth i'r wlad adfer yn dilyn y pandemig

Mae Plaid Cymru'n dweud y byddai'n buddsoddi £6bn ar brosiectau a chreu miloedd o swyddi fel rhan o becyn i adfer yr economi yn dilyn y pandemig, os mai nhw fydd yn llywodraethu wedi etholiadau'r Senedd eleni.

Fe allai'r prosiectau "gwyrdd" gynnwys miloedd o gartrefi cymdeithasol newydd, mwy o fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a gosod mwy o bwyntiau gwefru i gerbydau trydan.

Pe bai mewn pŵer erbyn diwedd eleni mae'r blaid hefyd yn dweud y byddai'n cynnig benthyciadau hirdymor heb unrhyw log er mwyn "cael busnesau yn ôl ar eu traed".

Rhan o'r cynllun i dalu am y fath becyn ydy gofyn i Lywodraeth y DU gynyddu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru.

Ond os ydy'r Trysorlys yn gwrthod y cais byddai Plaid Cymru'n defnyddio pwerau cynghorau i fenthyca arian o fanc isadeiledd newydd y DU er mwyn ariannu'r cynlluniau.

Byddai "Plan B" y blaid hefyd yn cynnwys defnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) - cynllun gafodd ei ddatblygu gan lywodraeth bresennol Cymru ble mae partneriaid preifat yn gallu cael cytundebau i adeiladu a chynnal a chadw asedau cyhoeddus.

'Uchelgeisiol ond cyraeddadwy'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod y syniadau yn "uchelgeisiol ond cyraeddadwy", ac y byddai'n creu bron i 60,000 o swyddi.

"Gallai'r rhain gynnwys adeiladu miloedd o gartrefi cymdeithasol newydd, adnewyddu cartrefi presennol, ymestyn a thrydaneiddio'r rheilffyrdd a chael y band eang cyflymaf i bob rhan o Gymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price y byddai'r blaid yn defnyddio polisi "lleol yn gyntaf" er mwyn rhoi blaenoriaeth i fusnesau bach a chanolig

Mae'r cynllun £6bn yn seiliedig ar waith gafodd ei gomisiynu gan Gyngres Undebau Llafur Cymru, sy'n awgrymu y dylid cyflawni 16 o brosiectau isadeiledd dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae'r gwaith hwnnw yn awgrymu y gallai'r cynllun greu 59,000 o swyddi - 45,500 o swyddi uniongyrchol a 13,500 yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi.

Mae Plaid Cymru hefyd yn addo buddsoddi £50m er mwyn sicrhau bod pob person ifanc 16-24 oed yn "derbyn y Cyflog Byw fel isafswm".

Ychwanegodd Mr Price y byddai'r blaid hefyd yn defnyddio polisi "lleol yn gyntaf" er mwyn rhoi blaenoriaeth i fusnesau bach a chanolig, gyda'r nod o greu hyd at 46,000 o swyddi.