Gosod targed cyfreithiol i nwyon newid hinsawdd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Erbyn 2018 roedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 31% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o gymharu â lefelau 1990
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd targedau cyfreithiol newydd i gael gwared ar y nwyon sy'n achosi newid hinsawdd o economi a ffordd o fyw Cymru yn cael eu cyflwyno gan y llywodraeth.

Mynnu nad yw parhau â "busnes fel arfer" yn opsiwn, mae gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Mae patrymau tywydd eithafol eisoes yn "achosi hafog", a gweithredu ar frys yw'r "peth iawn i'w wneud i'n plant a'n hwyrion", medden nhw.

Wrth newid y gyfraith mae Cymru bellach yn cyd-fynd ag ymgyrch y DU i sicrhau 'allyriadau sero net' erbyn 2050.

Dywedodd gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths ei bod am "gyrraedd yno'n gynt".

Mae'n gam fydd yn gorfodi newid enfawr, o gyfnewid cannoedd ar filoedd o foeleri nwy yng nghartrefi pobl, i'r posibilrwydd o orfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot heb losgi glo.

Ond bydd y broses yn arwain at swyddi gwyrdd newydd, a gwelliannau i iechyd pobl tra'n bodloni ymrwymiadau rhyngwladol i geisio osgoi cynnydd peryglus yn nhymheredd y byd, meddai'r llywodraeth.

Bydd yn cyhoeddi cynllun newydd i amlinellu sut mae cyrraedd y nod cyn prif gynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.

Eisoes mae'r corff annibynnol sy'n cynghori'r llywodraeth ar newid hinsawdd, y CCC, wedi rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau presennol, llai heriol i leihau allyriadau.

Disgrifiad o'r llun, Mae trafnidiaeth yn un o'r sectorau sy'n cyfrannu'n helaeth at allyriadau Cymru

Erbyn 2018, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei gyfer, roedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 31% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o gymharu â lefelau 1990.

Bydd targedau cyfreithiol newydd yn gorfodi gostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040, gyda Chymru'n cyrraedd 'sero net' - toriad o 100% i bob pwrpas - erbyn 2050.

Byddai angen i unrhyw nwyon sy'n dal i gael eu cynhyrchu bryd hynny fod yn gyfyngedig iawn a chael eu rheoli'n llym, drwy eu sugno yn ôl yn llwyr drwy dechnolegau dal carbon, coed neu fawndiroedd.

'Degawd hollbwysig'

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn derbyn yr argymhellion a wnaed gan y CCC mewn adroddiad i weinidogion ym mis Rhagfyr.

Roedd y corff wedi disgrifio'r 2020au fel "degawd hollbwysig" os ydy'r targedau'n i gael eu cyflawni.

Mae'r adroddiad yn dweud bod dyfodol sero net yn bosibl drwy gymryd camau i gyflymu defnydd cerbydau a bwyleri carbon isel, tra bod angen i ddiwydiannau yn ne Cymru weithio gyda'i gilydd i symud oddi wrth danwydd ffosil neu osod technoleg dal a storio carbon erbyn canol y 2030au.

Disgrifiad o'r llun, Mae targed wedi ei osod i gymru'n cyrraedd 'sero net' erbyn 2050

Bydd angen cynnydd mewn cynhyrchu trydan carbon isel o 27% ar hyn o bryd i 100% erbyn 2035, a gwell insiwleiddio o dai fel bod llai o bŵer yn cael ei ddefnyddio a'i wastraffu.

Erbyn 2030, rhaid plannu 43,000 hectar o goetir cymysg, gan gynyddu i 180,000 hectar erbyn 2050 - i amsugno allyriadau.

Roedd angen gweithredu ar lefel y DU a Llywodraeth Cymru, yn ôl y CCC.

'Gweithredu yn fuan sydd yn bwysig'

Dywedodd Nick Pidgeon, athro seicoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd bod y cyhoeddiad yn "hynod arwyddocaol".

Roedd diwydiant, trafnidiaeth, tai ac amaethyddiaeth i gyd yn cyfrannu'n helaeth at allyriadau Cymru, meddai a byddai angen "sylw parhaus dros y blynyddoedd nesaf".

"Ac mae angen iddo ddechrau nawr - er ein bod ni'n meddwl am darged 2050... mae allyriadau nwyon tÅ· gwydr yn aros i fyny yn yr atmosffer am amser maith."

"Felly gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau ar y daith honno i sero net - oherwydd byddwch wedyn yn gollwng llai o allyriadau i'r atmosffer dros yr 20 i 30 mlynedd nesaf."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Yr hyn sy'n cael ei wneud dros y ddegawd nesaf sy'n bwysig er mwyn atal tywydd eithafol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, meddai Haf Elgar

Er yn croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear mai'r hyn sy'n cael ei wneud dros y pump i ddeng mlynedd nesaf "fydd yn cael yr effaith yna, yn gosod ni ar y trywydd cywir".

Ar Dros Frecwast, dywedodd: "Ni yn gweld effeithiau newid hinsawdd yn barod, y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy yng Nghymru, llifogydd dro ar ôl tro, a thywydd eithafol felly bydden ni yn dweud mai gweithredu yn fuan sydd yn bwysig yn hytrach na chanolbwyntio ar 2050."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai'r newidiadau yn fuddiol i'r amgylchedd ond hefyd i fywydau dyddiol pobl:

"'Da ni'n sôn am bethau fel 'neud yn siŵr bod bob tŷ yng Nghymru yn ynni effeithiol erbyn 2030 a dyle hynny gael gwared ar dlodi tanwydd a 'neud biliau yn rhatach hefyd.

"Ac mae pethe fel newid y system drafnidiaeth er mwyn gwella y llygredd aer fydd yn well i iechyd, a gobeithio annog pobl i gerdded a beicio rhagor a gwneud ein pentrefi a'n dinasoedd yn llefydd mwy braf i fedru gwneud hynny."

'Rhagolygon difrifol'

Dywedodd Lesley Griffiths fod y rhagolygon hinsawdd byd-eang yn "ddifrifol", ac "fel gyda Covid, bydd [hyn] yn effeithio ar bob un ohonom."

"Er hynny, y cymunedau mwyaf bregus fydd yn cael eu taro galetaf," meddai.

"Trwy Covid rydym wedi dangos ymdrech Tîm Cymru sydd wedi achub bywydau ac wedi diogelu ein GIG, ac rwy'n galw ar bawb i ddefnyddio'r un ysbryd i adeiladu'r Gymru rydyn ni ei heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a'r dyfodol, Delyth Jewell, mae "geiriau gwag" y llywodraeth wedi eu dilyn gan "ychydig iawn o weithredu".

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru'n gwario £6bn ar greu bron i 60,000 o swyddi gwyrdd drwy drydaneiddio'r rheilffyrdd ac addasu cartrefi, petai mewn grym.