Â鶹ԼÅÄ

Allyriadau Cymru'n gostwng yn arafach na gweddill y DU

  • Cyhoeddwyd
nwyonFfynhonnell y llun, PA

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn gostwng yn arafach na gweddill y DU, ac nid yw ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged presennol o leihau allyriadau, yn ôl pwyllgor annibynnol dylanwadol.

Dywed y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) sy'n cynghori llywodraethau'r Deyrnas Unedig, mai'r 2020au yw'r "ddegawd dyngedfennol" yn yr ymdrechion i leihau allyriadau.

Mae'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru "ddeddfu targedau uchelgeisiol" er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.

Dywedodd gweinidog yr amgylchedd ei bod yn falch o'r gydnabyddiaeth o'r gwaith sydd wedi ei gyflawni, ond bod mwy i'w wneud.

Mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31% ers 1990, o'i gymharu â 41% ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Cafodd targed i leihau allyriadau 95% erbyn 2050 ei argymell gan y CCC a'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn 2019.

Ond mae Deddf yr Amgylchedd 2016 yn gosod targed cyfreithiol o ostyngiad o 80% yn unig.

Dywed yr adroddiad na fydd hyd yn oed y targed hwnnw'n cael ei gyflawni heb weithredu llym.

Mae'n ychwanegu y dylid cynyddu'r targed i allyriadau sero net erbyn 2050, gan adlewyrchu polisiau llywodraeth y Deyrnas Unedig.

'Angen deddfu'

Yn ei adroddiad ddiweddaraf, dywed y pwyllgor fod gweinidogion Cymru yn cymryd yr her o fynd i'r afael â newid hinsawdd o ddifrif, gyda llawer o gamau sy'n haeddu canmoliaeth fel cyfraddau ailgylchu uchel ac ymrwymiad i drafnidiaeth werdd.

Er ei fod yn tynnu sylw at ostyngiad o 20% mewn allyriadau rhwng 2016-18 gyda chau'r unig orsaf bŵer sy'n llosgi glo yng Nghymru, Aberddawan, mae'n dweud na all hynny ganiatáu i weinidogion feddwl nad oes angen newidiadau ehangach i economi Cymru.

Ffynhonnell y llun, Christopher R Ware
Disgrifiad o’r llun,

Mae unig orsaf bŵer sy'n llosgi glo yng Nghymru, Aberddawan, wedi cau

Mae'r adroddiad yn dweud bod y gostyngiad mewn allyriadau o gynhyrchu trydan wedi bod yn gyfrifol am 85% o'r lleihad ers 2016, gyda'r symudiad o danwydd ffosil i gynhyrchu adnewyddadwy.

Ond dywed bod swm y trydan adnewyddadwy newydd a gynhyrchir wedi gostwng bob blwyddyn ers 2015.

Mewn sectorau eraill, yn enwedig trafnidiaeth, mae allyriadau wedi aros yn wastad, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd cerbydau.

Er mwyn cyrraedd y nod sero net, mae'r adroddiad yn awgrymu llwybr deddfwriaeth, gan gynnwys "cyllidebau carbon" sy'n gosod targedau lleihau allyriadau carbon.

Byddai cyflawni sero net yn gofyn am ddat-garboneiddio'r sector pŵer yn llawn, "newid llawn i werthu cerbydau trydan" a gosod systemau gwresogi carbon isel mewn cartrefi, yn ôl yr adroddiad.

Mae'r CCC yn dweud, er mwyn cyflawni'r targedau, y byddai angen "cynnydd parhaus mawr mewn buddsoddiad" - tua £3bn bob blwyddyn erbyn 2030.

Mae pedwar maes allweddol yn cael eu nodi yn yr adroddiad:

Lleihau'r galw am weithgareddau sy'n garbon-ddwys, yn cynnwys symud dietau "i ffwrdd o gig a chynnyrch llaeth", lleihau gwastraff a llai o deithio awyr. Byddai effeithlonrwydd cerbydau a gwresogi yn lleihau allyriadau carbon hefyd.

Gallai atebion carbon isel wneud 40% o'r arbedion allyriadau. Dylai pob car a fan newydd a boeleri newydd fod yn garbon isel erbyn dechrau'r 2030au, a cherbydau nwyddau trwm erbyn 2040. Yn ôl yr adroddiad, dylai ardaloedd diwydiannol yng Nghymru symud i ffwrdd o ddefnydd danwydd ffosil "a/neu osod dal a storio carbon" erbyn y 2030au.

Dim ond trydan drwy ddulliau carbon isel ddylai gael ei gynhyrchu erbyn 2035, yn ôl yr adroddiad. Dylid defnyddio hydrogen mewn ardaloedd sy'n llai addas i drydaneiddio.

Trawsnewid y tir drwy blannu 43,000 hectar cronnol o goetir cymysg yng Nghymru erbyn 2030, gan gynyddu i gyfanswm o 180,000 hectar erbyn 2050. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod yn rhaid mabwysiadu arferion ffermio carbon isel yn eang.

Er nad yw'n bosibl rhagweld effaith lawn pandemig Covid-19, mae'r adroddiad yn dweud y bydd yn cael effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol ac y bydd yn brif ffocws polisïau am y dyfodol agos.

Ond mae'n canmol penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnwys "egwyddorion adfer gwyrdd" yn eu hymateb cychwynnol i'r pandemig.

Mae'n dweud bod prisiau olew isel a chyfraddau llog is yn cynnig cyfle i lywodraethau'r DU a Chymru ysgogi buddsoddiad oddi wrth ddiwydiannau carbon uchel.

Mae'n dweud y bydd y rhan fwyaf o'r gostyngiad byd-eang mwyaf erioed a welwyd mewn allyriadau - a ddigwyddodd yn ystod y pandemig - yn cael ei wyrdroi wrth i economïau'r byd ddychwelyd i'r arfer.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths ei bod yn falch o'r gydnabyddiaeth o'r gwaith sydd wedi ei gyflawni.

"Ond rydyn ni a'r CCC yn cydnabod bod angen gwneud mwy", meddai.

Ychwanegodd: "Byddwn ni nawr yn ystyried cyngor y CCC ochr yn ochr gyda'r wybodaeth arall cyn diweddaru ein deddfwriaeth amgylcheddol yn gynnar y flwyddyn nesaf."

Pynciau cysylltiedig