'Cyfle mawr' i sbarduno newid amgylcheddol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Rhaid i Gymru fanteisio ar y ffaith bod cynhadledd newid hinsawdd fawr y Cenhedloedd Unedig yn digwydd ar ei stepen drws eleni, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Yn ôl Sophie Howe fe ddylai'r achlysur sbarduno ymdrechion i dorri allyriadau tŷ gwydr.

Bydd COP26 - sy'n denu arweinwyr o bedwar ban byd - yn cael ei gynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu swyddogion yn cydweithio yn agos gyda threfnwyr y gynhadledd.

'Yn nwylo Cymru'

Yn ôl Ms Howe mae 'na "gyfleoedd sylweddol" i Gymru arddangos arloesedd wrth frwydro newid hinsawdd "ar blatfform byd eang".

Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Dros Frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, fe ddatgelodd bod "lot o drafodaethau'n cael eu cynnal" ynglÅ·n â sut i wneud hyn - allai arwain at gynnal digwyddiadau ymylol yn ystod y gynhadledd.

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae ei rôl hi - fel pencampwr cenhedloedd y dyfodol - yn cael ei weld fel un unigryw ar draws y byd. Felly hefyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru - sy'n gorfodi'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i ystyried sgil-effeithiau eu penderfyniadau ar y blaned.

Byddai safle Cymru mewn tablau cyrhaeddiad rhyngwladol o ran ailgylchu - ail yn Ewrop a thrydydd drwy'r byd - yn rywbeth i "floeddio amdano" hefyd.

"Yr hyn ry'n ni wedi ei weld ar draws y byd yw taw'r taleithiau neu barthau llai sy'n gwneud y pethau mwyaf diddorol," meddai Ms Howe.

"Dyna'r lefel lle mae nifer o'r dulliau ar gyfer taclo newid hinsawdd yn bodoli - hynny yw mesurau'n ymwneud â thrafnidiaeth, ffermio, bwyd, ein tai."

"Mae'r dylanwad dros rheini oll yn nwylo Llywodraeth Cymru a dyma yw eu cyfle nhw i floeddio ynglŷn â'r hyn maen nhw'n ei wneud, ond hefyd i ddysgu wrth eraill o ran mynd i'r afael â'r meysydd lle nad y'n ni'n llwyddo cystal."

Ar y cyfan, mae'r ymdrech i leihau lefelau o nwyon tÅ· gwydr wedi bod yn rhy araf, pwysleisodd, gyda "heriau sylweddol" yn wynebu'r wlad wrth gyrraedd targedau llym yn ystod y degawdau nesaf.

Yn flaenorol, mae wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio clustnodi digon o gyllid i'r mater, a gwario ar isadeiledd sydd ddim yn garbon niwtral heb fod angen.

Dangosodd y ffigyrau diweddara' bod Cymru wedi gweld cwymp o 31% yn yr allyriadau sy'n achosi newid hinsawdd ers 1990, ond mae'r corff sy'n cynghori'r llywodraeth am weld gostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040.

Ffynhonnell y llun, Cardiff council

Disgrifiad o'r llun, Gyda rheolaeth dros feysydd fel trafnidiaeth, tai a bwyd, mae Ms Howe yn gweld cyfle i Gymru allu taclo newid hinsawdd

Gyda chynllun allyriadau newydd i'w gyhoeddi cyn diwedd eleni, ac etholiad y Senedd ar y gorwel hefyd - dweud y dylai'r amgylchedd fod yn ganolog i'r ymgyrchu gwleidyddol o hyn ymlaen, mae Ms Howe.

"Dwi'n credu os nad yw pleidiau gwleidyddol yn gosod mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur reit ar frig eu hagenda yn y maniffestos yna fe fyddan nhw'n gwneud cam â chenedlaethau presennol a dyfodol Cymru."

Cynhadledd fel 'pnawn y cadeirio yn Steddfod'

Mae Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru yn credu bod y ffaith bod COP26 yn cael ei gynnal yn Yr Alban yn hytrach na Llundain yn golygu y bydd 'na "fwy o ddiddordeb nag erioed o'r blaen ar weithredu ar lefel y gwledydd datganoledig a chymunedau hefyd".

Gallai cymariaethau gael eu gwneud rhwng ymdrechion Yr Alban a Chymru, meddai - gan annog y llywodraeth nesa' ym Mae Caerdydd i gyhoeddi Cynllun Cyflawni Carbon Isel "uchelgeisiol iawn" i fynd gyda nhw i Glasgow.

Disgrifio bwrlwm y gynhadledd fel "pnawn y cadeirio yn Steddfod am ddeg diwrnod" mae Keith Jones, arbenigwr newid hinsawdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac un sydd wedi bod i sawl COP yn y gorffennol.

"Pan dwi wedi bod yno yn cynrychioli ymddiriedolaethau cenedlaethol ar draws y byd dwi'n aml yn cyfeirio nôl at waith sy'n digwydd yng Nghymru - yn enwedig ar y lefel cymunedol."

"Mae pawb yno'n chwilio am atebion a mae gyda ni dipyn go lew o bethau bychain yn digwydd. Pan da chi'n rhoi nhw gyd at ei gilydd mae'n stori cry' iawn," meddai.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, fod ei swyddogion y "gweithio yn agos iawn gyda swyddogion Llywodraeth y DU i sicrhau e bod yng nghanol yr holl beth.

Cyfeiriodd at gynllun ar gyfer coedwig genedlaethol i Gymru ac ymdrechion i rwystro ffracio a chynlluniau i dynnu tanwydd ffosil o'r ddaear.

Ychwanegodd mai Senedd Cymru oedd y cyntaf yn y byd i gyhoeddi argyfwng hinsawdd.