Ystyried profi am amrywiolyn De Affrica yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae naw achos o amrywiolyn Covid-19 De Affrica bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru, gyda phedwar achos arall yn debygol o fod yn gadarnhaol.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu nifer y profion yng Nghymru er mwyn ceisio atal yr amrywiolyn rhag lledaenu.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru bod naw achos o'r amrywiolyn wedi cael eu cadarnhau a bod pedwar arall yn debygol o fod yn gadarnhaol hefyd.

"Mae gan ddeg o'r rhain gysylltiad teithio â de'r Affrica, ac mae ymchwiliadau'n parhau ar weddill yr achosion."

Mae mwy o brofion yn cael eu gwneud mewn rhai ardaloedd o Loegr ar ôl i bryderon gynyddu bod yr amrywiolyn yn lledaenu yn y gymuned yno.

Galwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ar y llywodraeth i ystyried "profi o ddrws i ddrws".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wrth y Senedd fod pryder y byddai brechlynnau'n llai effeithiol yn erbyn amrywolion Kent Plus a De Affrica.

"Nid yw hynny'n golygu na fydd y brechlynnau'n effeithiol o gwbl," meddai.

"Fe fyddan nhw'n dal i gynnig lefel dda o amddiffyniad, ac mewn gwirionedd mae'n cryfhau'r angen i fwrw 'mlaen yn gyflym gyda'n rhaglen frechu."

Pan ofynnwyd iddo os oedd y gallu gan gan y llywodraeth i adnabod achosion o'r fath drwy brofion, dywedodd Mr Gething ei fod yn hyderus y byddent.

Mae'r ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru yn dod ar ôl i'r prif swyddog gwyddonol Dr Rob Orford ddweud yr wythnos ddiwethaf fod 10 achos wedi'u canfod yng Nghymru.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n deall bod wyth achos wedi'u cadarnhau bryd hynny, gyda dau arall yn debygol o fod yn achosion o'r amrywiolyn.

Beth yw'r amrywiolyn newydd?

Mae pob feirws, gan cynnwys Covid-19, yn esblygu mewn i fersiynau newydd o'r amrywiolyn.

Mae'r newidiadau bach geneteg yma'n digwydd wrth i'r feirws wneud copïau newydd o'i hun i ledaenu a ffynnu.

Mae'r rhan fwyaf yn ddi-drafferth, a gall rhai hyd yn oed fod yn niweidiol i oroesiad y feirws, ond mae rhai amrywiolion yn gallu gwneud y feirws yn fwy heintiedig neu'n fwy bygythiol i bobl.

Erbyn hyn mae yna filoedd o amrywiolion o'r feirws yn mynd oddi amgylch. Ond mae arbenigwyr yn poeni am amrywiolyn De Affrica, neu 501.V2.

Hefyd yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething y byddai modd i'r rhaglen frechu fynd yn gynt, ond bod nifer y brechlynnau sydd ar gael yn ei ddal yn ôl.

Dywedodd bod disgwyl i'r llywodraeth frechu'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.

Byddai'r brechu'n cyflymu eto'r wythnos hon, meddai, ond mai'r cyfyngiad ar hynny yw sawl dos o'r brechlyn sydd ar gael.

"Dwi'n meddwl ymhob rhan o'r DU, yn sicr yma yng Nghymru, gallwn ni roi mwy o frechlynnau petai mwy o gyflenwad, yn enwedig petai mwy o gyflenwad AstraZeneca achos mae'n haws i'w ddefnyddio."

Ystyried profi

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ystyried a oes angen trefniadau cynyddol, allai gynnwys profi.

"Rydyn ni'n parhau i edrych am achosion drwy'r trefniadau cwarantin a phrofi sydd mewn lle ar hyn o bryd, yn ogystal â thrwy ein rhaglen o wyliadwriaeth geneteg.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda'r DU yn ehangach er mwyn cadw golwg, datgelu ac ymchwilio amrywiolion newydd o'r feirws."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru os ydy unrhyw un o'r achosion newydd neu'r achosion o dan ymchwiliad wedi'u cysylltu â lledaeniad o fewn y gymuned.