Â鶹ԼÅÄ

Covid yn ffactor mewn 40% o farwolaethau wythnosol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau'n dangos y nifer uchaf o farwolaethau yng ngogledd Cymru ers dechrau'r pandemig

Roedd Covid-19 yn ffactor mewn 41.5% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf - y gyfradd uchaf ers dechrau'r pandemig.

Roedd y coronafeirws wedi cyfrannu at 447 o farwolaethau yn ystod yr wythnos hyd at 22 Ionawr.

Mae cyfanswm y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 bellach wedi codi i 6,473, yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Maent hefyd yn dangos mai hon oedd yr wythnos waethaf o ran marwolaethau yng ngogledd Cymru ers dechrau'r pandemig.

Mae ffigyrau'r ONS yn cael eu casglu mewn ffordd wahanol i ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ddydd Mawrth fe wnaethon nhw gofnodi saith marwolaeth yn rhagor gyda Covid-19 a 614 o achosion newydd o'r haint ar draws Cymru.

Y darlun fesul ardal:

Gyda 102 o farwolaethau, hon oedd yr wythnos waethaf eto i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd.

Roedd 75% o'r marwolaethau yn y gogledd-ddwyrain, ac roedd y nifer yn cynnwys 47 mewn ysbytai, a 40 mewn cartrefi gofal.

Yn ardal Wrecsam yn unig roedd 25 marwolaeth mewn cartrefi gofal ac 17 mewn ysbytai.

Roedd 20 o farwolaethau mewn ysbytai yn Sir y Fflint.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhondda Cynon Taf yn un o'r ardaloedd gyda'r nifer uchaf o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr

Yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg bu 78 o farwolaethau, yn cynnwys 20 mewn ysbytai ac 19 mewn cartrefi gofal ym Mhen-y-bont.

Cofnodwyd 18 o farwolaethau ysbyty yn ardal Rhondda Cynon Taf, a phump ym Merthyr Tudful.

Yn ogystal, roedd 29 o farwolaethau ysbyty yng Nghaerydd, 25 yng Nghaerffili, a 24 yn Abertawe.

Cofnododd pob sir o leiaf un farwolaeth Covid-19.

Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o farwolaethau Covid-19, gydag 802, ac mae Caerdydd yn ail gyda 708 hyd at yr wythnos ddiweddaraf.

Marwolaethau ychwanegol

Mae marwolaethau ychwanegol - sy'n cymharu marwolaethau cofrestredig gyda blynyddoedd blaenorol - yn parhau i fod yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Yng Nghymru, bu gostyngiad yng nghyfanswm yr holl farwolaethau o 1,170 i 1,077, ond roedd hynny'n dal 265 marwolaeth (32.6%) yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr wythnos gyfatebol.

Rhwng 3 Ionawr 2020 hyd at 22 Ionawr 2021, bu 41,238 o farwolaethau yng Nghymru, sy'n 4,962 yn fwy na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Cyfradd Ynys Môn yw'r isaf

O edrych ar gyfraddau marwolaethau Cymru a Lloegr mae pedair ardal yng Nghymru yn y 10 uchaf, gyda Rhondda Cynon Taf (332.4 marwolaeth fesul 100,000 o bobl) a Merthyr Tudful (305) ymhlith yr uchaf. Mae Pen-y-bont a Blaenau Gwent hefyd yn uchel.

Mae Ceredigion, a oedd â'r raddfa isaf ond un ar un adeg, bellach yn 26ain yn y tabl gyda 100.4 fesul 100,000.

Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru gyda 65.7 marwolaeth ym mhob 100,000.

Mae ffigyrau'r ONS yn seiliedig ar farwolaethau cofrestredig lle mae meddygon naill ai wedi cadarnhau neu'n amau Covid-19 fel achos y farwolaeth, ac yn ei gynnwys ar y dystysgrif marwolaeth. Yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal, mae'r ystadegau'n cynnwys marwolaethau mewn hosbisau neu dai preifat.