Â鶹ԼÅÄ

Addysg myfyrwyr prifysgol i aros ar-lein tan y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Myfyriwr ym Mhrifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd mwyafrif y myfyrwyr prifysgol yng Nghymru yn parhau i dderbyn eu haddysg ar-lein tan y Pasg.

Yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r sector, Prifysgolion Cymru, drwy wneud y penderfyniad nawr y bwriad yw "i roi sicrwydd i fyfyrwyr ar gyfer yr wythnosau nesaf".

Mae rhai myfyrwyr ar rai cyrsiau wedi dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb - y mwyafrif o'r rheiny lle mae gofynion ymarferol yn gysylltiedig â'r cwrs neu eu bod ar leoliad.

Dywed Prifysgolion Cymru eu bod yn parhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ac y byddan nhw'n trosglwyddo gwybodaeth am unrhyw gynlluniau diwygiedig i fyfyrwyr a staff.

Mewn datganiad dywedodd Prifysgolion Cymru: "Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i bawb. Mae lles myfyrwyr a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i brifysgolion yng Nghymru.

"Mae'r dull cydweithredol a fabwysiadwyd rhwng y llywodraeth, prifysgolion, myfyrwyr a staff wedi ein helpu i reoli'r amgylchiadau anodd iawn hyn hyd eithaf ein gallu."

Dywedodd y corff eu bod yn rhagweld y bydd nifer fach o fyfyrwyr ychwanegol yn dychwelyd i gampysau cyn y Pasg er mwyn cwblhau cyrsiau neu fodloni canlyniadau dysgu, ac y bydd cyfleusterau ac adnoddau'n parhau ar gael iddyn nhw.

Daw'r cyhoeddiad gan brifysgolion Cymru ddiwrnod wedi i Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL) ddweud eu bod eisiau gwybod mwy am ba effaith y gallai dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb ei gael ar ledaeniad y feirws mewn ysgolion a'r "gymuned ehangach".

Roedden nhw'n ymateb i sylw gan y gweinidog addysg a ddywedodd na fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r "dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf" yn "arwain trafodaeth" a phenderfyniadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig