Â鶹ԼÅÄ

'Dim trafodaethau' am wersi yn ystod gwyliau'r haf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dydy ysgolion yng Nghymru heb ailagor ers cyn y Nadolig wrth i lefelau Covid-19 gynyddu dros y wlad yn wythnosau cyntaf y flwyddyn.Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed undeb addysg nad oes unrhyw drafodaethau wedi bod "o gwbl, ar unrhyw lefel" am ddychwelyd rhai disgyblion i'r ysgol yn ystod gwyliau'r haf.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru na fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd rhai plant ysgol gynradd yn dychwelyd yn raddol ar ôl hanner tymor mis Chwefror os yw cyfraddau Covid yn parhau i ostwng.

Er eu bod yn "gefnogol yn fras" i'r cynllun, dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Choleg Cymru (ASCL) eu bod eisiau gwybod mwy am ba effaith y gallai dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb ei gael ar ledaeniad y feirws mewn ysgolion a'r "gymuned ehangach".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r "dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf" yn "arwain trafodaeth" a phenderfyniadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y gallai disgyblion ieuengaf yr ysgol gynradd yn y cyfnod sylfaen ddychwelyd i'r dosbarth o 22 Chwefror.

Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y gallai disgyblion hŷn a myfyrwyr coleg a oedd yn gorfod gwneud arholiadau galwedigaethol hefyd ddychwelyd yn raddol ar ôl hanner tymor.

Ond rhybuddiodd y gallai pethau newid o hyd, gan ychwanegu "gallai pethau nad ydym yn gwybod amdanynt heddiw ddod i'r amlwg, hyd yn oed cyn hanner tymor".

Dywedodd hefyd ei fod yn "deall y pryderon" a allai fod gan staff addysgu wrth ddychwelyd yn ôl i'r ystafell ddosbarth.

Diffyg trafod yn 'siomedig'

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych ar yr opsiwn o rai disgyblion yn mynd yn ôl i'r ysgol yn gynnar o wyliau'r haf.

Ond dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr ASCL, wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales nad yw hynny wedi cael ei drafod "o gwbl, ar unrhyw lefel".

"Mae ymdrech aruthrol wedi bod [gan athrawon] ac maen nhw eisoes wedi rhoi llawer iawn o amser ac egni ac ymdrech emosiynol i sicrhau bod ysgolion - sydd ddim ar gau wrth gwrs - yn y sefyllfa maen nhw heddiw," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ysgolion uwchradd a cholegau gau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ei fod yn "siomedig" nad oedd swyddogion wedi trafod y posibilrwydd o seibiant byrrach yn yr haf.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod angen i ni gael y sgyrsiau hynny nawr ac mae angen i ni ddechrau cynllunio ymlaen llaw.

"Yn rhy aml yn ystod y pandemig hwn rydyn ni wedi bod ar y droed gefn. Mae'n bryd mynd ar y droed flaen a dechrau cynllunio ymlaen llaw.

"Mae'n rhoi cyfle go iawn i ni wneud pethau ychydig yn wahanol. Rydyn ni'n rhy sownd yn ein ffyrdd, rwy'n credu, ym myd addysg ac mae angen i ni dorri rhai o'r rhwystrau hyn."

Cyhoeddiad posib mewn dyddiau

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales, croesawodd ASCL y "dull gofalus" o ddychwelyd.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn yr wythnos i ddod rhwng swyddogion y llywodraeth, yr undebau, awdurdodau addysg lleol a'r comisiynydd plant cyn cyhoeddiad posib tuag at diwedd yr wythnos.

Dywed y prif weinidog ei fod am roi "pythefnos o rybudd clir" ynglŷn â chynlluniau ar gyfer dychwelyd fesul cam.

Yn ogystal â gostyngiad yn niferoedd achosion Covid-19, dywedodd Eithne Hughes ei bod am weld modelu manylach o'r wyddoniaeth.

Ychwanegodd: "Yr hyn nad ydym ei eisiau yw plant.. yn ei wasgaru ymhellach yn y cymunedau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein dull graddol a hyblyg yn caniatáu inni ystyried yr holl dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, a fydd wrth gwrs yn arwain trafodaeth a gwneud penderfyniadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

"Dylid nodi hefyd bod tystiolaeth ryngwladol gynyddol ac arfer da - ledled Gogledd America ac Ewrop yn benodol - o ailagor ysgolion yn ddiogel.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n holl bartneriaid addysg."