Â鶹ԼÅÄ

Rhywun yn cael ei frechu 'bob pum eiliad' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CynhadleddFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ

Wrth agor cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mark Drakeford bod y cynllun brechlynnau wedi mynd o nerth i nerth.

"Rydyn ni'n dod yn gyflymach ac yn gyflymach gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio", meddai Mr Drakeford.

"Mae mwy na 362,000 o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf dros yr wythnos ddiwethaf, mae rhywun wedi cael ei frechu bob pum eiliad yng Nghymru", meddai

Yn y cyfamser mae 29 yn fwy o farwolaethau oherwydd Covid-19 wedi eu cofnodi, yn ôl ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a 546 o achosion newydd.

Dywedodd Mr Drakeford wrth newyddiadurwyr bod 400 o feddygfeydd teulu yn cynnal clinigau brechu, 34 o ganolfannau brechu torfol gydag addewid am ragor, a bod 17 ysbyty yn darparu brechlynnau o amgylch Cymru.

"Mae hon yn ymdrech anhygoel," meddai Mr Drakeford, "gallwn fod yn haeddiannol falch o'r hyn y mae ein gwasanaeth iechyd yn ei gyflawni yng Nghymru."

Mae'r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn gwella, medd y Prif Weinidog.

"Mae yna ostyngiad cyson o achosion. Mae'r achosion wedi bod yn 600 ymhob 100,000 o bobl ar eu huchaf ond heddiw mae'r nifer wedi gostwng i 175.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ystadegau uchod gan Lywodraeth Cymru yn dangos y cynnydd yn nifer y brechiadau yng Nghymru o gymharu gyda gwledydd eraill y DU

"Mae hyn oherwydd aberth pawb yn ystod y chwe wythnos diwethaf ond er hynny mae'r nifer yn parhau i fod yn uchel ac mae mwyafrif o'r achosion presennol yn achosion o'r straen newydd," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd bod nifer y rhai sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty yn sefydlogi ond bod y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i wynebu cryn bwysau.

Dysgu wyneb yn wyneb 'yn flaenoriaeth'

Wrth droi ei sylw at addysg dywedodd Mr Drakeford yn y gynhadledd i'r wasg mai ei flaenoriaeth yw "cael pobl ifanc yn ôl i'r ysgol a'r coleg ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb".

"Yn anffodus, nid oes gennym y gallu i wneud hyn eto", meddai. "Cyn gynted ag y gwnawn, rydym am i ysgolion a cholegau ddechrau ailagor."

"Os yw heintiau yn parhau i ostwng, rydym am i blant allu dychwelyd i'r ysgol ar ôl hanner tymor - o 22 Chwefror - gan ddechrau gyda'r plant ieuengaf yn ein hysgolion cynradd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd mai'r bwriad, drwy ryddhau'r wybodaeth yma ddydd Gwener, yw "rhoi digon o rybudd i rieni, athrawon a disgyblion."

Ychwanegodd ei fod yn "awyddus iawn" i roi "pythefnos o rybudd clir" am gynlluniau ar gyfer dychwelyd rhai plant ysgolion cynradd i'r ysgol yn raddol o 22 Chwefror.

"Byddwn yn treulio'r wythnosau nesaf yn gweithio gydag athrawon, awdurdodau lleol ac undebau a byddwn yn sicrhau bod rhieni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf", meddai Mr Drakeford.

"Byddwn hefyd yn gweithio ar gynlluniau i ddisgyblion hŷn a mwy o fyfyrwyr coleg ddychwelyd i ysgolion a cholegau mewn ffordd raddol a hyblyg ar ôl hanner tymor."

Dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn deall pryderon staff addysgu am ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth."

Fe wnaeth gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib i gydweithio gydag athrawon ac undebau i ddarparu gweithle "mor ddiogel â phosib" cyn eu bod yn dychwelyd i'r ysgol.

"Rhaid i ni weithio ar yr agenda yma - mae gennym un nod yn gyffredin sef adfer y difrod sydd wedi ei wneud i addysg plant yn ystod y 12 mis diwethaf," meddai.

1,300 angen triniaeth barhaol

Ychwanegodd Mark Drakeford bod 1,300 o bobl mor sâl gyda'r haint fel eu bod angen triniaeth barhaol yn yr ysbyty.

"Mae'n rhy gynnar eto i ddod â'r cyfnod clo i ben a chodi cyfyngiadau.

"Fe fyddwn felly yn parhau ar gyfyngiadau lefel pedwar am dair wythnos arall," meddai.

"Y cyngor yw i'r rhai sy'n fregus - y rhai sy'n cysgodi yw peidio mynd i'r ysgol neu y tu allan i'r cartref tan Mawrth 31.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rhaid i ni gyd aros adref - a gweithio o adref - am ychydig o amser eto."Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i ni ddod â'r sefyllfa o dan reolaeth a gostwng cyfradd yr achosion ymhellach wrth i'r brechlyn gael ei ddosbarthu i fwy o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth."

Ychwanegodd: "Byddwn yn cymryd camau graddol o ran llacio'r cyfyngiadau - fel ag a wnaethom gyda'r clo cyntaf.

"Os ydym yn symud yn rhy gloi mae peryg go iawn y bydd nifer yr achosion yn codi eto a bydd aberth pawb yn ystod y gaeaf yn ofer.

"Ond fe fyddwn yn gwneud dau newid pwysig heddiw a fydd gobeithio yn sylfaen ar gyfer yr hyn sydd i ddod yn fuan," medd y Prif Weinidog.

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod y data diweddaraf o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod y cwymp yn nifer yr achosion o Covid yn arafu.

Dywedodd: "Rhaid i ni fod yn ofalus iawn, iawn. Mewn gwirionedd fe ddylen ni fod yn ystyried beth allan ni wneud i leihau'r niferoedd eto fyth.

"Enghraifft o hynny fyddai cynorthwyo pobl i hunan-ynysu yn iawn drwy gael y lefel cywir o arian i bobl. Mae gormod o bobl yn cael eu gwrthod am gefnogaeth ariannol i gefnogi hunan-ynysu fel y bydden nhw'n dymuno gwneud."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod Cymru wedi bod mewn cyfnod clo am fwy o amser na rhannau eraill o'r DU.

"Mae llawer o bobl yn chwilio am fymryn o oleuni ym mhen draw'r twnnel," meddai.

Ystadegau dyddiol

Yn y cyfamser mae 29 yn fwy o farwolaethau oherwydd Covid-19 wedi eu cofnodi, yn ôl ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd 546 o achosion newydd eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod 24 awr.

Daw hynny â chyfanswm y marwolaethau i 4,695 yng Nghymru a 190,940 o achosion o'r haint.

O ran brechu mae cyfanswm o 362,253 o bobl wedi derbyn y dos cyntaf a 717 wedi derbyn ail ddos ​​o'r brechlyn.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 66.9% o bobl dros 80 oed wedi cael eu brechu.

Pynciau cysylltiedig