Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: 10.7% o boblogaeth Cymru wedi'i brechu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
A woman walking on a pathFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 336,071 o bobl wedi derbyn y dos cyntaf o frechlyn coronafeirws yng Nghymru - 10.7% o'r boblogaeth - yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Ond ychydig dros hanner o bobl dros 80 oed oedd wedi eu brechu erbyn diwedd y penwythnos, gan fethu targed y llywodraeth o 70%.

Mae peth oedi i'r ffigyrau swyddogol, ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 113,598 o bobl dros 80 - 62.1% - wedi derbyn dos cyntaf erbyn hyn.

Mae'r ffigyrau'n cofnodi 56 o farwolaethau pellach yn gysylltiedig â'r coronafeirws, a 750 o achosion newydd.

Cyfanswm y marwolaethau ydy 4,666 yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chyfanswm o 190,394 o achosion yng Nghymru erbyn hyn.

Mae nifer yr achosion ymhob 100,000 person wedi gostwng ymhellach i 190 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Wrecsam a Sir y Fflint y mae'r cyfraddau uchaf o achosion

Roedd 50.6% o'r boblogaeth dros 80 oed wedi derbyn eu brechiad cyntaf erbyn diwedd y penwythnos, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mae hyn yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 70% erbyn dydd Sul, er i'r eira effeithio ar y rhaglen frechu mewn rhai ardaloedd.

Gwnaeth bron i ddau draean dderbyn eu dos cyntaf yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ond derbyniodd llai na 40% y brechlyn yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Cafodd cyfanswm o 277,690 o bobl eu brechlyn cyntaf erbyn dydd Sul.

Mae hyn 7% yn fwy na'r cyfanswm dyddiol a gafodd ei awgrymu'n wreiddiol, sy'n pwysleisio'r oedi yn y data sy'n cael ei gyhoeddi oherwydd gwaith gwirio a safoni.

Os yw'r brechu'n parhau ar yr un cyflymder, mae disgwyl i'r targed o frechu'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror gael ei gyflawni.

Mae'r achosion newydd sydd wedi eu hadrodd yn cynnwys 106 yn Wrecsam, 88 yn Sir y Fflint, 57 yng Nghaerdydd a 35 yn Sir Gaerfyrddin.

Wrecsam sy'n parhau i gael y nifer uchaf o achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth gyda 477.4, ac yna Sir y Fflint gyda 369, Sir Ddinbych gyda 241.4 a Chasnewydd gyda 214.6.

Mae 12,007 o brofion pellach wedi cael eu cwblhau yn y 24 awr ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Diweddaru'r strategaeth frechu

Bydd technolegau newydd a gwell ddealltwriaeth o'r feirws yn y misoedd nesaf yn cyfrannu at leihau achosion a chodi cyfyngiadau, medd Llywodraeth Cymru wrth ddiweddaru ei strategaeth brofi.

Mae'n cynnwys mwy o brofi cymunedol, a phrofi mwy o gleifion a gweithwyr rheng flaen.

Hefyd mae treialon wedi cychwyn i geisio cadarnhau a all pobl heb symptomau barhau i fynd i'r gwaith neu'r ysgol yn ddiogel ar ôl dod i gysylltiad â chlaf Covid-19.

Mae Heddlu De Cymru'n rhan o'r arbrawf, sy'n pwyso a mesur os yw'n bosib profi person yn ddyddiol am 5-7 diwrnod wedi i'r gwasanaeth olrhain gysylltu â nhw, gan osgoi'r angen i hunan-ynysu am 10 diwrnod.

Bydd yna fwy o sylw i gymunedau anodd eu cyrraedd a llefydd gyda niferoedd uchel o achosion, a bydd disgwyl i awdurdodau lleol nodi wardiau, ysgolion a busnesau lleol sydd angen camau penodol neu gefnogaeth ychwanegol.

Ond dyw'r strategaeth ddim yn nodi pa bryd fydd y camau hyn yn dechrau na nifer y bobl maen nhw'n gobeithio i'w cyrraedd.

Pynciau cysylltiedig