Yr her o adfywio cefn gwlad wedi'r pandemig Covid-19

  • Awdur, Iola Wyn
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd adfywio cefn gwlad wedi'r pandemig yn her a hanner, medd criw sy'n trefnu digwyddiadau cymunedol.

Mae pryder y gallai hi gymryd blwyddyn arall cyn i weithgareddau ailgydio o ddifri'.

Yn byw yn Llanglydwen, Sir Gaerfyrddin, mae Eurfyl Lewis yn gadeirydd y papur bro, yn weithgar gyda chymdeithas yr Hoelion Wyth, y capel, ac yn arwain cyngherddau.

"Hyd yn oed ar ôl i'r llywodraeth lacio'r cyfyngiade, bydd rhaid i ni bwyllo, a pheidio rhoi'r cart o flaen y ceffyl," meddai.

"Dwlen i drefnu cyngerdd ar y cyfle cynta', ond dwi ddim yn gweld hynny'n digwydd tan o leia'r gaeaf neu wanwyn yn y flwyddyn nesaf.

"Unwaith chi'n colli rhywbeth, shwt y'ch chi'n mynd i ailafael mewn pethe? Yn enwedig nawr 'da Zoom.

"Dwi'n ddiolchgar iawn am Zoom cofiwch - mae e wedi bod yn gyfrwng buddiol a hanfodol.

"Ond pan ddaw'r gaea' hyd yn oed falle ar ôl y pandemig, bydd pobl yn dweud 'Pam so ni'n cwrdd dros Zoom?' Ond i fi, ma' pendraw ar Zoom hefyd!"

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Eurfyl Lewis nad yw'n rhagweld y bydd modd trefnu digwyddiadau "tan o leia'r gaeaf neu wanwyn yn y flwyddyn nesaf"

Heb fywyd cymdeithasol bywiog a phrysur - mae'n fyd rhyfedd i Winnie James-Phillips o Grymych.

"Chi'n codi yn y bore, chi'n edrych pa ddiwrnod yw hi, troi'r wireless 'mlaen wedyn a chael y dyddiad," meddai.

"Lawr wedyn i'r gegin, a chi'n meddwl, s'dim byd 'da fi i wneud - dim ond gweithio bwyd. 'Na hen beth diflas yw e.

"Cwrdd pobl, cael sbri a chwerthin - 'na be' sy' 'di cadw fi i fynd ar hyd yr amser.

"Dwi ddim ar y pethe modern yma fel Zoom. Ma' well da fi weld person, a siarad ag e yn gyfforddus."

Disgrifiad o'r llun, Mae Winnie James-Phillips yn gweld eisiau ei chymuned arferol

Dyw Winnie ddim yn hyderus i ailafael yn yr holl weithgareddau cymdeithasol yn fuan.

"Gobeithio y byddwn ni o'r hyn i'r Dolig yn medru cael rhyw concert," meddai.

"Dwi'n credu y bydde hynny'n well na bo' ni'n mynd i gal pryd o fwyd, achos o leia' bydde 'da ni fwgwd dros ein pennau."

'Cymysgu yn rhan o fywyd'

Yng nghanol y nerfusrwydd ac ansicrwydd, fydd hi ddim yn rhwydd ailafael yn y patrwm arferol yn ôl yr ymgynghorydd iaith a'r cynghorydd yn Sir Gaerfyrddin, Cefin Campbell.

"Mae'r reddf a'r rheidrwydd i gymysgu yn rhan annatod o fywyd cefn gwlad," meddai.

"Duw a ŵyr faint o amser mae'n mynd i gymryd i ailafael yn y patrwm hwnnw o fywyd dyddiol ac wythnosol.

"Dwi'n ofni falle na fydd rhai o'n siopau gwledig ni, tafarndai gwledig, a falle ein capeli ni hyd yn oed - efallai y byddan nhw ddim yn gallu aros ar agor."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Cefin Campbell yn credu y bydd angen arian er mwyn adfywio cymunedau cefn gwlad

Yn ôl y Cynghorydd Campbell, bydd angen chwistrelliad o arian ar gefn gwlad yn benodol.

"Ma' cefn gwlad yn ddibynnol ar wirfoddolwyr - ry'n ni'n bobl sy'n licio arfer â phatrwm," meddai.

"Pan ma' hwnna'n cael ei dorri, mae'n anodd iawn ailgydio yn y patrymau yna.

"Dwi'n meddwl, yn yr un ffordd â mae'r llywodraeth yn buddsoddi ar gynlluniau adfer i'n cael ni mas o'r pandemig yma, dwi'n meddwl fod falle angen edrych yn benodol ar gefn gwlad achos mae'r patrymau a'r rhwydweithiau yna mor unigryw.

"Dwi'n meddwl falle bod angen cefnogaeth ariannol - nid bod angen yr incentive ariannol - ond ma' angen rhyw fath o strwythur i dynnu pobl nôl at ei gilydd unwaith eto."

'Magu hyder pobl'

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae cronfa gwerth £26.5m wedi ei ddatblygu i gynorthwyo elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn ystod y pandemig, gyda'r bwriad o gryfhau isadeiledd y sector.

Mae'r llywodraeth yn pwysleisio y bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol wrth ailadeiladu Cymru wedi'r pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Mae Robert James yn hyderus y gall busnesau cefn gwlad oroesi er gwaethaf y pandemig

Yn Efailwen, mae Caffi Beca yn ganolbwynt y pentref, gydag ystafell gyfarfod ar gyfer pob math o weithgareddau yn yr ardal.

"Bydd rhaid i ni fagu hyder pobl," meddai'r perchennog, Robert James.

"Y cam cynta' yw'r brechiad wrth gwrs, i roi hyder mewn misoedd gobeithio - ond ar y cyfan, dwi'n teimlo y daw pobl 'nôl."

'Angen ailddechrau mewn ffordd'

Ond mewn cymuned fechan, glos, bydd Caffi Beca wedi'r pandemig yn wahanol hefyd, meddai Mr James.

"Mae pobl wedi marw dros y flwyddyn ddiwethaf oedd yn gwsmeriaid da - dim oherwydd Covid yn angenrheidiol, ond oherwydd eu hoedran," meddai.

"Dwi'n teimlo falle bydd angen i ni ailddechrau mewn ffordd, wrth hysbysebu'r busnes."