Â鶹ԼÅÄ

Ton gyntaf Covid wedi cael effaith fawr ar gefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llangollen, DenbighshireFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llangollen yn un o'r llefydd lle cafwyd mwy o farwolaethau na'r disgwyl o Covid yn ystod y don gyntaf

Mae dadansoddiad o'r marwolaethau o Covid yn ystod y don gyntaf wedi dangos sut cydiodd yr haint, yn annisgwyl, mewn ardaloedd gwledig.

Yn ôl arbenigwyr nid amddifadedd economaidd, oed ac ethnigrwydd sydd i gyfrif am bob marwolaeth.

Mae'r astudiaeth gan y Swyddfa Ystadegau (ONS) yn dweud bod angen mwy o waith ymchwil ar ffactorau fel teithio a swyddi risg uchel.

Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn olrhain 2,000 marwolaeth o'r feirws yng Nghymru gan ganolbwyntio ar 400 o ardaloedd lleol tan ddiwedd Awst.

Gan bod y profi yn brin yn ystod wythnosau cyntaf yr haint - dim ond ffigyrau ysbyty a marwolaethau all roi darlun o ledaeniad yr haint tan yr hydref.

Fe wnaeth yr astudiaeth edrych ar ffactorau fel tlodi, oed a chefndir ethnig a dod i'r casgliad nad oes eglurhad am nifer o achosion o'r haint.

Er bod nifer uchel o farwolaethau mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn ddifreintiedig - mannau fel cymoedd y de - roedd yna nifer uwch na'r disgwyl o farwolaethau mewn ardaloedd gwledig llai yn siroedd Powys, Gwynedd a Môn.

Mae'r gwaith yn awgrymu fod ffactorau megis teithio, galwedigaethau, byw a gweithio mewn lleoliadau gwahanol a symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig wedi cyfrannu at nifer yr achosion.

Ffynhonnell y llun, ONS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clystyrau glas tywyll ar y map yn dangos ardaloedd sydd wedi dioddef cyfraddau uchel o'r haint

Mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod marwolaethau o Covid wedi parhau am gyfnod hir mewn rhai ardaloedd gwledig yng Nghymru.

"Er mai cyfradd isel o farwolaethau oedd mewn ardaloedd gwledig yn ystod y don gyntaf yr hyn oedd yn syndod oedd eu wedi para am gyfnod hir - o fis Mawrth i fisoedd Mai a Mehefin," medd Jordan Parker, un o'r cyd-awduron.

Fe astudiodd y dadansoddiad ardaloedd Caerffili, Casnewydd a chymoedd Gwent lle roedd nifer y marwolaethau yn uchel ar ddechrau'r pandemig ond roedd yna nifer o ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd wedi cael colledion - gan gynnwys cymunedau ym Mhowys a chanolfannau dinesig fel Caerdydd ac Abertawe.

- yn dangos, er enghraifft, bod cymunedau fel Llandyrnog a Llanarmon-yn-Iâl yn Sir Ddinbych neu Abergwili, Llanegwad a Charmel yn Sir Gaerfyrddin, ymysg ardaloedd sydd wedi gweld "cyfraddau uchel o'r haint yn para am gyfnod hir".

Ymhlith ardaloedd eraill sydd wedi gweld cyfradd uchel o'r haint mae Llangelynnin yng Ngwynedd ond doedd y cyfraddau uchel ddim yn gyson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau diweddaraf yr ONS yn dangos mai Rhondda Cynon Taf oedd â'r nifer uchaf o farwolaethau mewn ysbytai ledled Cymru

'Rhaid i ni gyd gymryd gofal'

Dywed y Cynghorydd Bobby Feeley o Ruthun bod yr haint wedi effeithio ar y rhan fwyaf o bobl yn yr ardal mewn ryw ffordd ac yn ystod y don gyntaf roedden ni gyd mewn sioc a ddim yn gwybod beth oedd wedi'n taro.

"Mae pobl bellach yn edrych ar y manylion ond lle bynnag mae'n digwydd boed mewn ardaloedd gwledig neu drefol mae'n rhaid i ni gyd fod yn ofalus," meddai.

Nodwyd bod Rhuthun yn ardal oedd yn agos i gymunedau oedd â chyfraddau uchel o'r haint ond nad oedd llawer wedi marw yn y dref ei hun.

"Byddwn i wedi meddwl y byddai llai o achosion mewn ardaloedd gwledig," ychwanegodd Ms Feeley.

Mae'r dadansoddiad yn nodi bod angen gwaith ymchwil pellach - gan gynnwys edrych ar daith y feirws o gwmpas y wlad. Nodir hefyd bod angen astudio grwpiau penodol o alwedigaethau a'r mathau o deuluoedd sydd wedi bod yn gysylltiedig a niferoedd uchel o'r haint.

Mae profi pobl sydd â symptomau ar raddfa ehangach yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru - ac ystadegwyr - yn gallu olrhain hynt a lledaeniad yr haint yn well ac hefyd yn gallu canfod ardaloedd lle mae achosion o'r haint yn uchel.

Ymhlith ardaloedd sydd wedi cofnodi nifer uchel o achosion yn ystod y dyddiau diwethaf mae Wrecsam a dywed yr awdurdod iechyd lleol bod mwy o bobl yn cael gofal dwys yn yr ysbyty lleol ar hyn o bryd nag ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig.

Dywed yr ONS y byddan nhw'n dadansoddi marwolaethau lleol yn ystod y don gyntaf yn fanylach ac yna yn cymharu gyda ffigyrau yr ail don o'r haint.

Pynciau cysylltiedig