Sut beth yw cael Covid-19 yn dy ugeiniau?

Dydy Caitlin McKee ddim yn gwybod sut iddi ddal Covid-19 - ond mae hi'n gwybod mor ofnadwy mae'r feirws yn gwneud i chi deimlo.

Nid yn gymaint o ran ei hiechyd, ond am ba mor euog roedd hi'n ei deimlo am ddod â'r feirws adre a pheryglu ei theulu.

"Pan dethon ni mas o'r lockdown cynta' o'n i'n gwthio'r ffinie os dwi'n onest," medd Caitlin, 29, wrth raglen Dros Frecwast.

"O'n i wedi cwrdd â mwy o bobl na ddylsen i."

'Teimlad o fod yn untouchable'

Roedd Caitlin yn mwynhau bywyd yn y brifddinas cyn i'r pandemig daro. Hyd yn oed pan roedd cyfyngiadau cymdeithasol mewn grym, roedd yn cwrdd â'i ffrindiau.

Dim ond yn yr awyr agored y byddai'n gwneud hynny, gan feddwl ei fod yn fwy diogel, ond ni wnaeth ei hatal rhag cael ei heintio.

"Odd 'na deimlad o fod ychydig yn untouchable a bo' fe ddim yn mynd i effeithio ni," meddai.

Pobl "hen a sâl" oedd yn cael y feirws, roedd hi'n meddwl, ond fe ddaeth i wybod ei bod hi'n anghywir pan gyrhaeddodd e-bost a neges destun "i ddweud bo fi'n bositif".

Ffynhonnell y llun, Empics

Disgrifiad o'r llun, Mae Caitlin McKee wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cân I Gymru

Bu'n rhaid i Caitlin hunan-ynysu yn syth a chadw ar wahân i weddill ei theulu.

Byddai ei rhieni'n gadael prydau iddi tu fas y drws ar blatiau papur i osgoi lledu'r haint. Ei phryder mwyaf oedd y gallai heintio ei mam, sydd â chyflwr MS.

"Ni ddim yn siŵr sut bydde cyflwr fel MS yn cael ei effeithio gan Covid," meddai Caitlin.

"Fi sy wedi dod â'r salwch mewn i'r tŷ ac os o'dd unrhyw beth yn digwydd i unrhyw un, basen i ddim yn gallu maddau i fy hunan."

'Beth os yw mam yn mynd yn sâl?'

Wedi torri'r rheolau, roedd Caitlin yn teimlo bron fel ei bod yn cael ei chosbi. Roedd hi'n unig, yn gweld eisiau bwyd ar blatiau go-iawn, a bu'n rhaid iddi dreulio diwrnod Nadolig yn ei 'stafell ar ei phen ei hun.

"Sai'n credu byddai'n anghofio'r Nadolig yma am amser hir. Ma' nhw'n sôn am y salwch ti'n cael o Covid, ond i fi, yr ochr feddyliol sy' 'di bod yn real straen.

"Jyst bod ar ben dy hun gyda dy holl feddylie - o beth os ydw i wedi rhoi hwn i weddill y teulu, i beth os yw mam yn mynd yn sâl yn enwedig?"

Am hanner nos, nos Calan daeth y cyfnod hunan-ynysu i ben. Roedd hawl gadael y tÅ· unwaith yn rhagor, ac fe gafodd rannu anrhegion Nadolig gyda'i theulu.

Ond ar ddechrau 2021 roedd Caitlin wedi colli ffydd yn y gymdeithas.

"Fi'n meddwl mae'r salwch yma wedi 'neud i fi sylweddoli faint fi ddim yn trystio pobl," meddai. "Ti jyst wir ddim yn gwybod pwy sy' 'da fe neu beidio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Un o strydoedd Caerdydd yn ystod y cyfnod clo byr cyn y Nadolig

Cafodd chwaer Caitlin ei heintio hefyd, ond er pryder mawr i Caitlin, ni chafodd ei chwaer unrhyw symptom o gwbl.

Roedd yr holl deulu yng nghwmni ei gilydd am dridiau cyn iddi gael canlyniad prawf positif, ond chafodd eu rhieni mo'u heintio.

"Diolch byth, mae'r ddau yn negyddol," medd Caitlin, "ond mae jyst yn dangos pa mor gyfrwys a slei yw'r salwch 'ma'."

Gobaith Caitlin nawr yw y bydd rhannu ei stori'n rhybudd i'w chyfoedion bod Covid-19 yn effeithio ar bobl ifanc yn fwy nag oeddan nhw'n ei gredu.

"Fi 'di wedi dysgu bo fi ddim yn invincible. O'dd 'da fi'r meddylfryd bo fe ddim yn mynd i effeithio arna' i.

"A 'odd hwnna'n ffordd really anghywir i feddwl. Ma'r salwch 'ma yn real ac mae e'n really, really scary."