Â鶹ԼÅÄ

Cau ysgolion yn 'esgeulustod systematig' o blant

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Armando Di-Finizio, prifathro Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Armando Di-Finizio bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion yn "tyfu"

Mae cadw ysgolion ar gau yn ystod y pandemig yn arwain at "esgeulustod systematig" o ddisgyblion difreintiedig, yn ôl un pennaeth.

Yn ôl Armando Di-Finizio, pennaeth Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd, bu "cryn dipyn o drawma" i blant oherwydd y gwahanol gyfnodau clo.

Dywedodd un arbenigwr fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn cwympo ymhellach ar ei hôl hi yn academaidd, gyda'r bwlch cyrhaeddiad yn ehangu am fod ysgolion ar gau.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi sicrhau y gallai plant bregus barhau i fynychu'r ysgol.

Galw am 'gydbwysedd'

Cyn y pandemig roedd cyfran y disgyblion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim a gyflawnodd bump TGAU neu fwy 32% yn is na'r ffigwr ar gyfer disgyblion eraill yng Nghymru.

Yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain mae 47% o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Dywedodd Mr Di-Finizio fod heriau'r cyfnod clo yn fwy i ddisgyblion nad ydyn nhw efallai â'r gefnogaeth a'r strwythur gartref i barhau i ddysgu pan mae ysgolion ar gau.

"Mae hyn yn ymwneud â chael y cydbwysedd rhwng y rhai sy'n wirioneddol fregus i'r feirws a phobl ifanc sy'n agored i niwed a thelerau lles a'u cynnydd academaidd," meddai wrth raglen Wales Live Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Dwi ddim yn credu bod gennym ni'r cydbwysedd hwnnw'n iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bron hanner disgyblion Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn derbyn prydau ysgol am ddim

Ychwanegodd: "Rwy'n credu y gallen ni fod wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o fynd i'r afael â hyn oherwydd ein bod ni'n gweld myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd ac mae'r bwlch cyrhaeddiad yn ehangu yn y genhedlaeth hon.

"Mae bron fel esgeulustod systematig o bobl ifanc sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis ac mae'n rhaid i ni dynnu hyn yn ôl rywsut oherwydd tybed un diwrnod, sut fydd y plant yn edrych yn ôl ac yn ein barnu ein hymatebion i ni?"

Dywedodd nid yn unig fod plant ar ei hôl hi, ond bod nifer yr achosion amddiffyn plant yn ei ysgol wedi dyblu ers i'r pandemig ddechrau.

"Bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd - ac nid wyf am swnio'n ddychrynllyd - i ni ddad-bigo'r trawma y mae pobl ifanc yn mynd drwyddo oherwydd nad ydym yn gwybod eto beth yn union fydd yr effaith barhaol hon ar y bobl ifanc, ond mae gen i ofn am rai ohonyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd y mwyafrif helaeth o ysgolion a cholegau Cymru eu dysgu arlein ym mis Rhagfyr

Mae Prif Arolygydd Ysgolion Cymru, Meilyr Rowlands, wedi dweud o'r blaen bod tystiolaeth eisoes o ehangu anghydraddoldeb mewn perfformiad o ganlyniad i'r pandemig.

Dywedodd yr Athro Gwyddorau Cymdeithasol, Chris Taylor, o Brifysgol Caerdydd, fod y bwlch hwn yn parhau i ehangu.

"Mae cau ysgolion, wrth gwrs, yn datgelu ac yn pwysleisio'r anfantais ddofn sydd gan lawer o deuluoedd ledled Cymru yn y gwahanol amgylchiadau y maen nhw ynddynt," meddai.

"Gan symud i'r amgylchedd dysgu gartref, rydym yn lleihau gallu ysgolion i ddarparu'r chwarae teg hwnnw ar gyfer cyfleoedd addysgol.

"Yn lle hynny rydyn ni'n dibynnu ar yr hyn y gall teuluoedd ac aelwydydd ei gynhyrchu a'i ddarparu i gefnogi'r dysgu hwnnw."

'Unioni rhai o'r cyfleoedd a gollwyd'

Ychwanegodd yr Athro Taylor y byddai rhai plant yn "teimlo fel eu bod wedi gadael yr ysgol yn 14 neu 15 oed yn lle 18" o ran eu dysgu, ac y dylai'r ffocws ar gyfer y plant hyn fod yn paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu haddysg yn hytrach nag arholiadau nad ydyn nhw'n mynd i ddigwydd yr haf hwn.

Dywedodd y dylai rhai disgyblion a allai fod wedi bod yn bwriadu gadael yr ysgol yn 16 oed aros mewn addysg nes eu bod yn 18 oed i "unioni rhai o'r cyfleoedd a gollwyd", ac y dylid cynnig ysgol haf a gweithgareddau eraill i helpu i fynd i'r afael ag unigedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Chris Taylor fod dysgu o adref yn lleihau'r gallu i sicrhau fod pob plentyn yn cael yr un tegwch

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Trwy gydol y pandemig, rydym wedi sicrhau y gallai plant bregus, yn ogystal â phlant gweithwyr beirniadol, barhau i fynychu'r ysgol.

"Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol ac rydym wedi darparu mwy na 130,000 o ddyfeisiau [electronig] ers dechrau'r pandemig.

"Rydyn ni hefyd wedi recriwtio mwy na 1,000 o staff addysgu a chymorth i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr a allai fod wedi methu cael addysg oherwydd y pandemig."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros addysg, Siân Gwenllian: "Mae bwlch digidol mewn addysg, a'r hiraf y bydd addysg yn parhau i fod oddi ar safle'r ysgol, mae risg i rai plant gael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ôl.

"Mae'r plant hynny mewn ardaloedd mwy difreintiedig wedi bod dan anfantais ddwbl - mae coronafeirws wedi bod yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd hyn, sy'n golygu y byddant wedi colli mwy o ysgol cyn y cyfnod clo, ac mae'r plant hyn yn llai tebygol o fod â'r modd i gael mynediad at ddysgu ar-lein.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Adfer Addysg a Lles i egluro'n fanwl sut y dylid cynorthwyo pob disgybl a myfyriwr i fynd i'r afael ag addysg goll."

Wales Live, Â鶹ԼÅÄ One Wales am 22:35 nos Fawrth.

Pynciau cysylltiedig