Dychwelyd i'r ysgol yn raddol dan ystyriaeth

Mae cynllun i ddychwelyd disgyblion i ysgolion yn raddol yn cael ei ystyried gan y Gweinidog Addysg.

Disgyblion ifanc a'r rhai sy'n gwneud arholiadau fyddai'r cyntaf i fynd yn ôl i'r dosbarth, meddai Kirsty Williams.

Yn siarad ar Wales Live, dywedodd ei bod yn "edrych ar y blaenoriaethau ac os allwn ni gael ein disgyblion ieuengaf yn ôl".

Dywedodd Ms Williams hefyd na fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd.

Dydy ysgolion yng Nghymru heb ailagor ers cyn y Nadolig wrth i lefelau Covid-19 gynyddu dros y wlad yn wythnosau cyntaf y flwyddyn.

Dywedodd Ms Williams bod y llywodraeth yn deall bod dysgu o adref "yn fwy heriol i'r disgyblion ieuengaf", a'i bod yn "anodd iawn gwneud y cyfnod sylfaen drwy sgrin gyfrifiadurol".

Ychwanegodd ei bod yn edrych ar y posibilrwydd o gael disgyblion blynyddoedd 11 a 13 - sy'n astudio at gymwysterau TGAU a Safon Uwch - yn ôl.

"Rydyn ni'n edrych ar yr holl senarios a faint o le i symud sydd yn y Rhif R er mwyn cynyddu nifer y plant all fynd yn ôl," meddai.

Dywedodd bod angen cynllun "hyblyg", a symud i ffwrdd o'r syniad bod pob disgybl i mewn neu adref.

Pan ofynnwyd a fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd, dywedodd ei bod yn "fodlon trafod pob posibilrwydd" er mwyn mynd i'r afael â gwersi sydd wedi eu colli.

"Dyna pam dwi'n siarad gyda'r undebau am bob posibilrwydd ynghylch rotas, am ddychwelyd yn raddol achos... dwi am i gymaint o blant â phosib gael y fantais o ddysgu wyneb yn wyneb."

Wales Live, Â鶹ԼÅÄ1 am 22:35 ac ar iPlayer.