Â鶹ԼÅÄ

Cyfradd achosion Covid-19 yn gostwng ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfradd yr achosion coronafeirws yng Nghymru wedi gostwng i lai na 300 i bob 100,000 o'r boblogaeth "am y tro cyntaf mewn cyfnod hir," yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething bod "gostyngiadau gwirioneddol... ar draws Cymru, gan gynnwys y gogledd".

Ychwanegodd fod "cynnydd da" o ran cyrraedd y nod o gynnig brechiad i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol Chwefror.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 175,816 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf yn erbyn y feirws hyd yn hyn, ac mae 370 wedi derbyn dau ddos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfradd achosion yn gostwng ymhob rhan o Gymru, medd y Gweinidog Iechyd

Cafodd 44 o farwolaethau yn rhagor yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi yn y cyfnod 24 awr ddiweddaraf, sy'n dod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 4,346.

Cafodd 1,283 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 183,882 o bobl bellach wedi cael prawf Covid-19 positif.

'Brechu saith person bob munud'

Dywedodd Mr Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher bod yna "ddechrau da" i'r rhaglen frechu, meddai, yn y chwe wythnos ers cymeradwyo'r brechlyn Pfizer, a thros 5% o boblogaeth Cymru wedi'u brechu.

"Mae dros 10,000 y diwrnod yn derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn," dywedodd. "Mae hynny'n gyfystyr â brechu saith person bob munud yng Nghymru, a gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, mae mwy o bobl yn derbyn y brechlyn."

Mae'r bobl hynny, pwysleisiodd, yn cynnwys "yr holl staff iechyd a gofal rheng flaen, pawb sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, pawb sy'n 70 oed a throsodd, a'r 130,000 o bobl sydd yn y grŵp eithriadol o fregus yn glinigol".

Bydd nifer y canolfannau brechu yn codi o'r 28 presennol i 45, ac mae'n fwriad i gynyddu'r nifer o feddygfeydd sy'n darparu brechlynnau o 100 i 250 yn y pythefnos nesaf.

Ychwanegodd Mr Gething: "Mae naw allan o 10 o'r canolfannau brechu ar agor saith diwrnod yr wythnos a bydd clinigau dan arweiniad meddygon teulu hefyd ar agor gyda'r nosau ac ar benwythnosau."