Â鶹ԼÅÄ

Brechlyn: Prif swyddog meddygol yn tawelu meddyliau

  • Cyhoeddwyd
Frank AthertonFfynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Dr Frank Atherton yn un o gynadleddau'r wasg y llywodraeth

Mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi pwysleisio fod brechlyn Covid-19 yn cael ei "wthio allan" i'r byrddau iechyd, ac nad yw'n cael ei ddal yn ôl.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi tynnu nyth cacwn i'w ben trwy ddweud bod y brechlyn Pfizer yn cael ei oedi am y tro gan fod yn rhaid i gyflenwad Cymru bara tan fis Chwefror.

Mewn cyfweliad ar raglen Wales Live ar y Â鶹ԼÅÄ nos Fawrth, gofynnwyd i Dr Atherton os oedd o'n ymwybodol o unrhyw strategaeth i ddal y brechlyn yn ôl.

"Roedd yna broses yn y dyddiau cynnar, o ddal rhai dosiau yn ôl oherwydd y bwriad gwreiddiol oedd fod pawb yn cael eu brechu gyda dwy ddos o'r brechlyn o fewn pedair wythnos, ac wrth gwrs fe newidiodd hynny o gwmpas y Nadolig...

"A'r sefyllfa ar hyn o bryd yw nad ydym yn dal y brechlyn yn ôl am y rheswm hynny.

"Nid yw'r brechlyn yn cael ei ddal yn ôl, mae'r brechlyn yn cael ei wthio allan i'r byrddau iechyd," meddai.

Ailagor ysgolion

Gofynnwyd iddo hefyd os hi'n ymarferol i ysgolion ailagor ar ôl hanner tymor, a dywedodd fod y drafodaeth honno'n dal i fynd ymlaen.

"Y dasg yn awr yw edrych ble'r ydan ni yn nhermau trosglwyddo'r haint, ac wrth i'r raddfa drosglwyddo leihau, mae'n dod yn fwy derbyniol i feddwl am agor ysgolion.

"Mae'n rhaid pwyso a mesur peryglon tymor byr haint coronafeirws, y risg i'r GIG a'r risgiau tymor hir i ddyfodol pobl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbytai dan bwysau eithriadol yn sgil ail don y pandemig

Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw amheuaeth fod y bobl oedd yn gweithio i'r GIG angen seibiant.

"Mae'n rhaid i ni gyrraedd sefyllfa lle nad ydy'r pwysau ar y GIG mor ddrwg fel bod pobl yn gallu gwneud hynny."

"Mae'n galonogol fod pobl yn dal yn frwdfrydig - maen nhw'n ymdopi'n anhygoel o dda dan y pwysau."

Gallwch wylio cyfweliad Wales Live ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer.

Pynciau cysylltiedig