Covid: 'Un o bob 10 yng Nghymru' gyda gwrthgyrff fis Rhagfyr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu y byddai un o bob 10 unigolyn mewn cartrefi yng Nghymru wedi bod gyda gwrthgyrff Covid-19 yn ystod mis Rhagfyr petai profion torfol wedi eu cynnal.

Roedd hyn yn gynnydd o'r amcangyfrif o un ymhob 19 ar gyfer mis Tachwedd.

Byddai bodolaeth gwrthgyrff yn awgrymu fod yr unigolion wedi eu heintio gyda Covid-19 yn y gorffennol.

Ar hyd a lled Prydain, roedd amcangyfrif o nifer y bobl fyddai wedi profi'n bositif am wrthgyrff i'r haint wedi bron a dyblu rhwng Hydref a Rhagfyr 2020.

Dywed y Swyddfa Ystadegau fod un o bob 10 o bobl yn y DU wedi datblygu gwrthgyrff ar gyfer yr haint ym mis Rhagfyr - gydag un ymhob wyth yn Lloegr, sef tua 12% o boblogaeth y wlad honno - neu 5.4m o bobl dros 16 oed.

Yn yr Alban, y gred yw fod un ymhob 11 o bobl y wlad wedi datblygu gwrthgyrff, tra bod y ffigwr isaf yng Ngogledd Iwerddon, sef un ymhob 13, neu 7.6% o'r boblogaeth.

Marwolaethau wythnosol

Roedd 454 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru yn ôl y ffigurau wythnosol diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn 144 yn fwy nag a gofrestrwyd yr wythnos flaenorol - ac roedd yn cyfrif am bron i 38% o'r holl farwolaethau.

Er mai hwn yw'r ffigwr wythnosol uchaf sydd wedi ei gofnodi ystod y pandemig, dywed y Swyddfa Ystadegau fod angen gofal wrth ddehongli'r cynnydd sydyn yn y ffigurau, o achos gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, fyddai wedi effeithio ar amseru cofrestru marwolaethau.

Cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru lle mae Covid-19 yn cael ei grybwyll hyd at ac yn cynnwys 8 Ionawr oedd 5,417.

Mae'r nifer yn cynyddu i 5,599 pan mae marwolaethau gafodd eu cofrestru dros y dyddiau canlynol yn cael eu cyfrif.

Byrddau iechyd

Fe welodd ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda eu nifer uchaf o farwolaethau Covid - sef 105, 109 a 72 o farwolaethau.

Roedd 45 o farwolaethau yn ymwneud â Covid wedi'u cofrestru yn Rhondda Cynon Taf, gyda 43 yng Nghaerdydd a 41 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yng Nghymru, cododd nifer y marwolaethau o bob achos o 727 i 1,198 yn ystod yr wythnos ddiweddaraf - sydd 442 o farwolaethau (58.5%) yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd am yr wythnos dan sylw.

Roedd cyfran uchaf y marwolaethau 'gormodol' yn Llundain - sef 84.8%.