Â鶹ԼÅÄ

Amrywiad Covid yn cynyddu achosion ymhlith plant Môn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YnysFfynhonnell y llun, Getty Images

Yr amrywiad newydd o goronafeirws sydd yn gyfrifol am y cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ymhlith plant ar Ynys Môn, meddai'r cyngor lleol.

Roedd 32 achos rhwng 1 a 17 Ionawr - mwy na dwbl yr 14 gafodd eu cofnodi am yr un cyfnod ym mis Rhagfyr.

Er nad yw'r niferoedd yn hynod o uchel, fe rybuddiodd yr awdurdod lleol ei bod yn "hanfodol" nad oedd plant yn cymysgu y tu allan i'w cartrefi neu swigod penodol.

Yn ystod yr holl achosion ym mis Ionawr, roedd 28, neu 87.5%, o ganlyniad i drosglwyddo mewn cartrefi.

Yn ystod mis Rhagfyr roedd pedwar achos, neu 28.6%, yn gysylltiedig â throsglwyddo mewn cartrefi a chwech achos, neu 43%, yn gysylltiedig â throsglwyddo yn yr ysgol.

Gofynnwyd i gyngor Ynys Môn sut y trosglwyddwyd gweddill yr achosion.

"Mae'r straen newydd o coronafeirws wedi gweld cynnydd mewn achosion cadarnhaol ymysg plant ar Ynys Môn," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Mewn llawer o achosion, mae plant ar yr aelwyd wedi datblygu symptomau ar ôl i oedolyn sy'n byw yno brofi'n bositif.

"Mae'n hanfodol bod plant yn osgoi cymysgu â phlant eraill y tu allan i'w cartref neu swigen gefnogol.

"Mae hyn yn berthnasol i rai dan 11 oed yn ogystal â phlant dros 11 oed, a lle mae plant yn yr un swigen ysgol neu ddosbarth."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyngor Sir Ynys Môn #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyngor Sir Ynys Môn #DiogeluCymru

Dywedodd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru, nad yw'n "hawdd" delio â phlant yn ystod pandemig.

Dywedodd Dr White, oedd yn arfer gweithio ar Ynys Môn: "Yn gyffredinol, nhw yw'r fectorau afiechyd gorau.

"Efallai nawr eu bod yn cael eu heintio yn haws [oherwydd bod yr amrywiad newydd yn lledaenu'n haws], a mae gwyliau'r Nadolig wedi bod, lle mae pobl wedi bod yn cymysgu mwy nag arfer.

"Ac mae'n ynys sydd â phoblogaeth sefydlog, gyda ffiniau sefydlog, felly os ydych chi'n cael achosion mae'n haws iddyn nhw gynyddu.

"Rwy'n teimlo bechod dros y plant - mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn."

Pynciau cysylltiedig