Â鶹ԼÅÄ

'Cymru'n barod i frechu ar gyfradd llawer uwch'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 49,403 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf hyd at ddydd Sul diwethaf

Mae "golau ar ddiwedd y twnnel" oherwydd brechlynnau Covid-19 ond rhaid aros yn ddiogel yn y cyfamser, medd y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd Cymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y gwasanaeth iechyd mae dros 2,700 o gleifion coronafeirws yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd.

Ond mae tri brechlyn yn erbyn y feirws wedi cael eu cymeradwyo yma bellach - Pfizer-BioNTech, Oxford-AstraZeneca a Moderna.

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes bod y sefyllfa yn "wirioneddol ddifrifol ar y funud".

Beth ydy'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Pan gyhoeddwyd y ffigyrau diweddaraf ddydd Iau, roedd 1,700 o bobl gyda Covid-19 yn cael eu trin yn ysbytai Cymru.

Roedd 1,000 o gleifion eraill mewn ysbytai yn adfer o'r feirws. Mae'r ddau ffigwr yma ar eu lefelau uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mae nifer y cleifion Covid-19 sydd mewn unedau gofal dwys hefyd ar ei lefel uchaf ers mis Ebrill.

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 62 o farwolaethau yn rhagor ddydd Sadwrn, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig i 3,919.

Cafodd 2,373 o achosion newydd eu cofnodi hefyd, sy'n golygu bod 168,094 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach.

Dywedodd Mr Hughes wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales fore Sadwrn bod unedau gofal dwys yn gweithredu ar 165% o'i gapasiti arferol.

Disgrifiodd y broses o frechu pawb yng Nghymru fel "tasg enfawr" i staff sydd eisoes dan bwysau sylweddol o ganlyniad i'r pandemig.

"Os ydych chi'n edrych ar y ffigyrau, mae Cymru ychydig y tu ôl i rannau eraill o'r DU, ond mae'n bwysig cofio bod y brechlyn yn cael ei roi gan staff iechyd," meddai.

"Rwy'n deall y bydd pethau'n cyflymu o ran faint o'r brechlyn fydd yn cael ei yrru yma, o tua 25,000 i niferoedd llawer mwy yn yr wythnosau nesaf.

"Rydyn ni'n barod i frechu ar gyfradd llawer uwch unwaith mae'r brechlynnau ar gael.

"Mae golau ar ddiwedd y twnnel gyda'r brechlynnau ond plîs gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gadw eich hunain a'ch teulu yn ddiogel fel bod modd i'r GIG ofalu am bawb."

Galw am fwy o dryloywder

Ond mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi galw am fwy o eglurder ar y rhaglen frechu er mwyn "meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd".

Mae Mr ap Iorwerth yn codi "pryderon gwirioneddol" ynghylch cyflymder, tryloywder a chyfathrebu'r rhaglen, ac yn dweud bod y cyhoedd "eisiau gwybod pryd y gallen nhw ddisgwyl y brechlyn".

Mae'n galw hefyd am gael "dangosfwrdd o wybodaeth a fyddai'n caniatáu i'r cyhoedd weld cynnydd drostynt eu hunain, gan gynnwys nifer y dosau a ddarperir ac a weinyddir gan y bwrdd iechyd a fesul grŵp blaenoriaeth".

Amrywiolyn newydd ar gynnydd

Yn y cyfamser, mae adroddiad newydd i Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod "niferoedd sylweddol" o'r straen newydd o Covid-19 yn lledaenu yng ngogledd Cymru, yn enwedig Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod tua dau draean o'r holl achosion ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o'r math yma.

Mae awgrym hefyd bod yr amrywiolyn newydd yn cynyddu yn ne Cymru hefyd, yn enwedig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

"Os ydy'r amrywiolyn newydd yn tyfu yng Nghymru yn yr un modd a'r hyn sydd wedi digwydd yn Llundain, a de-ddwyrain Lloegr, bydd yn arwain at gyfnod o bwysau sylweddol yn ychwanegol ar y GIG," meddai'r adroddiad.