Â鶹ԼÅÄ

'Nid sbrint na chystadleuaeth yw'r broses frechu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Claf ym Mangor yn cael brechiad cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

Dan Jones yn cael ei ddos cyntaf o'r brechiad cyntaf ym Mangor

Nid "sbrint na chystadleuaeth" yw'r broses o frechu'r boblogaeth rhag Covid-19, medd Prif Weinidog Cymru.

Roedd Mark Drakeford yn ymateb i gwestiwn yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Gwener.

Daw wedi i ffigyrau awgrymu bod cyfradd is o'r boblogaeth wedi cael eu dos cyntaf o'r brechiad yng Nghymru o gymharu â gweddill gwledydd y DU.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y rhaglen frechu'n cael ei gweithredu cyn gynted â phosib "i sicrhau bod y nifer uchaf o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechu yma yng Nghymru yn yr wythnosau i ddod".

Ychydig cyn y gynhadledd, daeth cadarnhad fod trydydd brechlyn, sydd wedi ei ddatblygu gan y cwmni Americanaidd, Moderna, wedi cael ei gymeradwyo yn y DU.

Mae'n gweithio yn yr un ffordd â'r brechlyn Pfizer-BioNTech - y cyntaf i gael sêl bendith - ond nid oes disgwyl i gyflenwadau gyrraedd tan y gwanwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn siarad yn y gynhadledd ddydd Gwener

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn rhannu uchelgais Prif Weinidog y DU, Boris Johnson o frechu pawb yn y prif grwpiau blaenoriaeth erbyn canol Chwefror.

Ond rhybuddiodd fod llywodraethau'n dibynnu ar gael y cyflenwadau angenrheidiol i gwrdd ag unrhyw dargedau.

Ffigyrau brechu dyddiol i ddod

Mae nifer y canolfannau brechu yng Nghymru'n cynyddu i 35, meddai. Bydd 100 o feddygfeydd teulu'n cynnig brechiadau erbyn dydd Gwener, 15 Ionawr, gan gynyddu i erbyn diwedd y mis.

Ychwanegodd fod Cymru wedi derbyn 22,000 dos o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca yr wythnos hon, bod disgwyl 25,000 yn rhagor wythnos nesaf a 80,000 yr wythnos ganlynol.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ffigyrau brechu dyddiol o wythnos nesaf ymlaen, ynghyd â chynlluniau brechu manylach.

Dywedodd Mr Drakeford mai dim ond nawr mae hynny'n digwydd gan y bu'n bwysicach yn y cyfamser fod "pobl yn treulio'u hamser yn sicrhau fod pobl yn cael eu brechu".

Nid oedd Mr Drakeford yn gallu cadarnhau nifer y brechiadau Pfizer-BioNTech sydd ar gael, ond roedd cyflenwadau mis Rhagfyr yn "sylweddol", ac mae'r niferoedd cyfredol yn uwch nag yn achos y brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Cadarnhaodd hefyd y bydd holl barafeddygon Cymru wedi cael eu dos cyntaf erbyn wythnos nesaf, a bod y rhaglen frechu'n cael ei estyn i gynnwys staff sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig a staff rheng flaen ysgolion a cholegau.

Dywedodd Mr Drakeford yn y gynhadledd ei fod wedi wynebu cwestiynau ers dechrau'r pandemig yn cymharu ymateb Cymru i rai gwledydd eraill y DU.

Roedd honiadau, meddai bod Cymru ar ei hôl hi o ran cyflenwi offer PPE a sefydlu system profi ac olrhain, ond roedd pryderon o'r fath yn ofer yn y pen draw. Yr un fath o gymharu sy'n digwydd nawr, awgrymodd wrth ddweud: "Nid sbrint na chystadleuaeth yw brechu."

Ffynhonnell y llun, PA Media

'Rhaid cael targedau'

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi galw am osod targedau, er mwyn mesur pa mor "effeithiol a chyflym" yw'r rhaglen frechu.

Dywedodd: "Mae angen gwybod yn union faint o frechlynnau sydd gyda ni, faint sy'n cael eu dosbarthu i bob bwrdd iechyd fel ein bod yn gwybod bod yna degwch ar draws Cymru, faint sy'n cael eu rhoi ym mreichiau pobl fel ein bod yn gwybod faint sy'n cael eu darparu i bob un o'r grwpiau blaenoriaeth."

Mae targedau, meddai, yn bwysig oherwydd "mae pobl yn cael neges 'arhoswch adref, fe ddaw am eich tro' ond mae pobl angen ffydd fod pethau yn gweithio'n dda."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ei fod "wedi synnu bod Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi cynllun manwl a chynhwysfawr o ran brechu", a hwythau'n "gwybod fod brechlynnau ar y gorwel ers yr hydref".

Ychwanegodd Paul Davies, bod angen gwybod pryd a sut bydd y brechlynnau'n cael eu darparu, a phwy fydd yn eu derbyn.

"Mae pobl angen gwybod yr atebion i'r cwestiynau hyn oherwydd mae pobl angen hyder fod Llywodraeth Cymru'n gwneud y peth cywir o ran brechu," meddai, gan hefyd alw am fwy o fanylion ynghylch lleoliadau'r canolfannau brechu newydd.