Â鶹ԼÅÄ

Cymeradwyo ail frechlyn i'w ddefnyddio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechlynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r brechlyn coronafeirws sydd wedi'i ddylunio gan wyddonwyr Prifysgol Rhydychen wedi cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi archebu 100 miliwn dos gan y cwmni sy'n cynhyrchu'r brechlyn - AstraZeneca - sy'n ddigon i frechu 50 miliwn o bobl.

Dyma'r ail frechlyn i gael ei gymeradwyo gan wyddonwyr yn y DU, yn dilyn brechlyn Pfizer-BioNTech, sydd eisoes wedi'i roi i dros 25,000 o bobl yng Nghymru.

Bydd brechlyn Oxford-AstraZeneca yn dechrau cael ei ddosbarthu yng Nghymru yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru y gallwn ni weld bywyd yn "dechrau dod yn ôl i normal erbyn y Pasg dwi'n gobeithio" yn sgil y datblygiad.

Haws i'w greu a'i storio

Cafodd y brechlyn ei ddylunio ym misoedd cyntaf 2020 cyn dechrau cael ei brofi ar bobl ym mis Ebrill, ac ers hynny mae wedi cael ei dreialu ar filoedd o bobl er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Y gred yw y bydd y brechlyn hwn yn gweld llawer mwy o bobl yn cael eu brechu yn gynt, gan ei fod yn rhad ac yn hawdd cynhyrchu llawer ohono.

Yn allweddol, yn wahanol i frechlyn Pfizer-BioNTech gellir ei gadw mewn oergell arferol, sy'n golygu y bydd yn llawer haws i'w ddosbarthu mewn cartrefi gofal neu feddygfeydd.

Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn dau ddos, rhwng pedair a 12 wythnos ar wahân.

Mae cwmni CP Pharmaceuticals yn Wrecsam yn un o'r cwmnïau sy'n cynhyrchu'r brechlyn, a cafodd llawer o'r treialon arno eu gwneud yn ne Cymru.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd effeithiau'r brechlyn i'w gweld yn genedlaethol "am fisoedd lawer", a bod yn rhaid i bawb barhau i ddilyn y canllawiau Covid-19 sydd mewn grym.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

'Rhaid bod yn realistig'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y cyhoeddiad yn "gam sylweddol ymlaen", ond na fydd yn lleddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.

"Rydym yn deall bod disgwyliadau uchel a chyffro am yr ail frechlyn yn cyrraedd ond bydd yn cymryd amser i gyrraedd pawb ac nid yw hwn yn ateb ar unwaith - ni fyddwn yn derbyn yr holl ddosys ar unwaith ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â graddfa a chyflymder y ddarpariaeth," meddai.

"Ni fyddwn yn gweld effaith y brechlyn am rai misoedd a bydd y pwysau ar y GIG yn parhau yn ystod y gaeaf hwn.

"Mae'n hanfodol o hyd ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan a dilyn y rheolau i warchod ein gilydd.

"I helpu'r GIG, arhoswch i gael eich gwahodd i gael eich brechu."

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford: "Mi fydd bywyd yn dechrau dod yn ôl i normal erbyn y Pasg dwi'n gobeithio ond i fynd yn ôl i'r bywydau oedd ganddon ni cyn y coronafeirws dwi'n siŵr bydd yr haf yn fwy tebygol."

Ychwanegodd: "Mae pethau yn fwy gobeithiol ond mae lot o waith gyda ni i neud yn y cyfamser."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brechlyn wedi cael ei ddylunio gan wyddonwyr Prifysgol Rhydychen

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart bod y newyddion yn "ein cymryd gam yn nes at ein bywydau arferol".

"Fel y brechlyn Pfizer-BioNTech, mae Llywodraeth y DU wedi talu am filiynau o ddosau o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca ar gyfer pob rhan o'r DU, a gyda'r gwaith o greu'r brechlyn yn cael ei wneud yng ngogledd Cymru bydd yn rhoi llwyfan byd-eang i Gymru yn y frwydr yn erbyn Covid-19," meddai.

Ychwanegodd cadeirydd rhaglen frechu Covid-19 Cymru, Dr Gillian Richardson fod y brechlyn wedi'i gymeradwyo "yn seiliedig ar yr un safonau uchel ag a ddefnyddir gyda phob meddyginiaeth a brechlyn".

Pa mor effeithiol ydy'r brechlyn yma?

Mae 'na dri ffigwr gwahanol wedi cael eu crybwyll o ran effeithiolrwydd brechlyn Oxford-AstraZeneca - 62%, 70% a 90%.

Roedd data cynnar yn awgrymu bod 70% o'r rheiny gafodd eu brechu wedi cael eu diogelu rhag Covid-19, ac ni wnaeth unrhyw un o'r 30% arall ddatblygu symptomau difrifol.

62% oedd y ffigwr pan oedd pobl yn derbyn dau ddos llawn o'r brechlyn, a 90% pan yn derbyn hanner dos i ddechrau, ac yna dos llawn.

Mae corff rheoleiddio meddyginiaethau'r DU, MHRA wedi cymeradwyo dau ddos llawn o'r brechlyn gan nad oedd digon o dystiolaeth i gymeradwyo'r syniad o roi hanner dos i ddechrau, ac yna dos llawn.

Ond mae data newydd yn awgrymu bod gadael mwy o fwlch rhwng y ddau ddos yn cynyddu effeithiolrwydd y brechlyn.

Mae disgwyl i'r ddau frechlyn sydd wedi cael eu cymeradwyo i fod yr un mor effeithiol yn erbyn y straen newydd o Covid-19 sy'n lledaenu ar draws y DU a thu hwnt.