Â鶹ԼÅÄ

Anelu at ddosbarthu 150,000 o ffiolau brechlyn y dydd

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd Boris Johnson yn ymweld â'r ffatri ddydd Llun

Mae ffatri fferyllol yng ngogledd Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech i ddarparu brechlyn coronafeirws i boblogaeth y Deyrnas Unedig.

Yn yr wythnosau diwethaf, mae staff cwmni CP Pharmaceuticals yn Wrecsam - is-gwmni Wockhardt UK - wedi bod yn paratoi'r gwaith o drosglwyddo brechlyn o danciau mawr i ffiolau dos unigol.

Ymwelodd Prif Weinidog y DU â'r safle yn Wrecsam dydd Llun, ble y bydd brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn cael ei gynhyrchu yna os fydd yn pasio'r asesiadau perthnasol.

Dywedodd Boris Johnson y gallai'r brechlyn fod yn barod o fewn wythnosau "os ydyn ni'n lwcus".

Mae gan y ffatri yn Wrecsam y gallu i gynhyrchu tua 300 miliwn dos o'r brechlyn y flwyddyn.

Dywed cynrychiolydd undeb fod y cwmni wedi cyflogi 40 o staff yn ychwanegol i ddelio gyda'r galw tebygol am y brechlyn.

Yn ôl Dave Griffiths, y nod yw cynhyrchu 150,000 o ffiolau'r dydd, bum niwrnod yr wythnos.

Dywedodd fod y gwaith wedi dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd, a gwaith paratoi danfoniadau sy'n digwydd ar benwythnosau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn cael ei wneud yn labordy CP Pharmaceuticals - is-gwmni Wockhardt

Pan gyhoeddwyd y cytundeb ym mis Awst, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wockhardt UK, Ravi Limaye eu bod "yn falch eithriadol" o gael eu dewis ar gyfer y cynllun a "chwarae rhan arweiniol ym mrwydr y wlad yn erbyn y pandemig Covid-19".

Ychwanegodd bod gan y cwmni "adnodd cynhyrchu di-haint soffistigedig a gweithlu hynod fedrus" a'u bod yn rhagweld gallu dechrau dosbarthu dosau cyntaf y brechlyn cyn diwedd Tachwedd.

Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd brechlyn yn barod i'w ddefnyddio yng Nghymru o fewn wythnos i gael sêl bendith swyddogol.

Mae Gweinidog Iechyd y DU, Matt Hancock, wedi cadarnhau bod brechlyn cwmnïau Pfizer a BioNTech yn cael ei asesu ar frys, gan awgrymu'r posibilrwydd o ddechrau ei ddosbarthu ym mis Rhagfyr pe bai'r cais yn llwyddiannus.