Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod 2021: Penderfyniad erbyn diwedd Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf ei chynnal yn Llanrwst yn 2019

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud bod "dim sicrwydd o gwbl" y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn 2021.

Cafodd Eisteddfod eleni yn Nhregaron ei gohirio oherwydd y coronafeirws.

Dywedodd Betsan Moses y bydd rhaid dod i benderfyniad cyn diwedd mis Ionawr am Eisteddfod 2021.

"Does dim sicrwydd o gwbl, 'da ni mewn trafodaethau cyson gyda'r llywodraeth," meddai wrth raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru.

Ychwanegodd: "Wrth gwrs y brechlyn fydd y gobaith ar gyfer 2021, ond gyda'r straen newydd mae'n bryderus iawn o ran y goblygiadau i ni.

"Mae'n rhaid penderfynu yn y flwyddyn newydd o ran a fydd Eisteddfod arferol.

"Mae ganddo ni opsiynau eraill dros ben ac wrth gwrs mi fydd na fodd eu gwireddu nhw, ond o ran tegwch i'r cyflenwyr mi fydd yn rhaid gwneud penderfyniad yn y flwyddyn newydd, a hefyd o ran ymarferoldeb paratoi gŵyl o'r maint yma mi fydd angen chwe mis o leiaf ar gyfer gwireddu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Betsan Moses y bydd yn rhaid gwneud penderfyniad ddechrau'r flwyddyn

Mae'r Urdd eisoes wedi cyhoeddi na fydd Eisteddfod yr Urdd 2021 yn mynd yn ei blaen oherwydd sefyllfa coronafeirws.

Dywedodd Ms Moses y byddai gohirio'r brifwyl eto yn dod â goblygiadau anferth i bawb ynghlwm â'r digwyddiad.

"Mae'n rhaid i ni gofio fod nifer fawr o bobl yn dibynnu ar yr Eisteddfod ar gyfer eu gwaith nhw, pobl llawrydd, hefyd artistiaid a bob dim, mae 'na filoedd yn cymryd rhan, ond hefyd o ran y celfyddydau ar lawr gwlad achos mae pobl yn cychwyn paratoi ym mis Ionawr ar gyfer cystadlu a bob dim."

Gŵyl wahanol eto?

Cafwyd gŵyl ar-lein eleni i lenwi'r bwlch yn y cyfnod pan fyddai'r Eisteddfod wedi ymweld â Cheredigion, ac fe all rhywbeth tebyg fod yn opsiwn eto yn 2021.

Dywedodd Ms Moses: "Mi greon ni AmGen eleni, mae'n bosib mynd yn ddigidol neu fwy, neu efallai bod lle i greu swigen o Eisteddfod?

"Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn yn gadarnhaol, ond gyda'r straen newydd mae rhywun yn bryderus.

"Fe alla i sicrhau i bawb mi fydd na ffurf o Eisteddfod flwyddyn nesa', fe fydd na fodd i bobl gymryd rhan, fe fydd na fodd i bobl diwnio mewn ac mi fydda ni yn gweithio gyda'n partneriaid ni i edrych ar yr opsiynau yna."