Â鶹ԼÅÄ

Gŵyl AmGen yn denu miloedd 'ar draws Cymru a thu hwnt'

  • Cyhoeddwyd
Logo cynllun Eisteddfod AmGenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae yna arwyddion fod Gŵyl AmGen wedi denu cynulleidfaoedd o du hwnt i'r ardaloedd traddodiadol Gymraeg, gan barhau â'r gwaith o ymestyn apêl yr Eisteddfod Genedlaethol yn yn ôl Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Brifwyl.

Fe drefnodd Â鶹ԼÅÄ Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yr ŵyl ar-lein i lenwi'r bwlch diwylliannol yn y cyfnod y byddai'r Brifwyl wedi ymweld â Cheredigion.

Mae'n cynnwys y math o drafodaethau a pherfformiadau sydd i'w disgwyl ar faes yr Eisteddfod, gan eu dangos ar , Radio Cymru, gwasanaeth Hansh S4C a Cymru Fyw.

Dywedodd Ashok Ahir wrth Post Cyntaf: "Mae'r ffigyrau diweddaraf sydd gen i yn dangos ein bod ni wedi cyrraedd dros 400,000 o bobl ar sianeli'r Eisteddfod - sydd ddim yn cynnwys y bobl sydd wedi gwrando ar raglenni, er enghraifft, ar Radio Cymru.

"Wrth gwrs mae rhai pobl yn gwylio mwy nag un waith, ond o ran views ni wedi cyrraedd dros 400,000 yn barod."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwyno digwyddiadau trwy Zoom a YouTube yn help i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, medd Ashok Ahir

"'Da ni'n gallu gweld faint ohonyn nhw sydd ddim yn dod o ardaloedd sydd fel arfer yn rhan o'r Eisteddfod, a dim jest pawb o Geredigion, neu Gaerdydd neu Gwynedd sy'n rhan o'r ffigyrau sydd yn gwylio.

"Ni'n gweld ffigyrau ar draws Cymru, ar draws Prydain ac ar draws y byd.

"Bydd mwy o waith ar ôl gorffen y prosiect AmGen i weld faint ohonyn nhw oedd yn unigryw, a faint oedd yn dod o ardaloedd annisgwyl."

'Cadw momentwm'

Wrth gael ei ethol yn Llywydd y Llys y llynedd, fe bwysleisiodd Mr Ahir fod denu cynulleidfaoedd newydd o wahanol gymunedau ar hyd Cymru a thu hwnt yn rhan fawr o ddyfodol yr iaith a dyfodol y Brifwyl.

"Ers Eisteddfod Caerdydd, pan o'n i'n gadeirydd y pwyllgor lleol, 'da ni wedi bod yn trio cadw momentwm o ran y math o Steddfod 'da ni'n trio ei greu," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo, Seren Jones, Josh Nadimi - llywyddion "annisgwyl" Gŵyl AmGen

"Ry'n ni ar fin lansio strategaeth newydd pum mlynedd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, gan fod ymestyn y 'Steddfod - nid yn unig o ran y diwylliant a'r iaith, ond i gymunedau gwahanol dros Gymru -yn hollbwysig.

"Felly mae cael pobl doedd pobl ddim yn ei ddisgwyl fel llywydd y dydd wedi bod yn hollbwysig a ma' cyfraniad nhw wedi bod yn wych.

"Mae wedi creu dadlau, nid yn unig ar y cyfryngau cymdeithasol ond ar y radio ac ar y teledu hefyd, ac rydyn ni eisiau hynny barhau.

"Mae'n rhan fawr o ddyfodol yr iaith, mae'n rhan fawr o ddyfodol y 'Steddfod."