Covid-19: Bydd pwysau ar ysbytai yn 'gwaethygu'n sylweddol'

Ffynhonnell y llun, Nick Mason

Mae disgwyl i'r pwysau ar ysbytai yn sgîl Covid-19 "waethygu'n sylweddol" yn ôl ymgynghorydd meddygol blaenllaw.

Dr Simon Barry, sy'n arbenigwr ar y frest yng Nghaerdydd, yw'r meddyg mwyaf blaenllaw yng Nghymru ar glefydau anadlu.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru fod y pwysau gwaith mewn ysbytai yn "eithriadol o brysur ac yn llawer gwaeth nag yn ystod y don gyntaf".

Rhybuddiodd fod salwch a'r angen i nyrsys gofal dwys hunan-ynysu yn broblemau mewn ysbytai.

Daw wrth i fyrddau iechyd Hywel Dda a Chwm Taf Morgannwg gymryd camau brys i geisio ymdopi a'r pwysau, gan flaenoriaethu achosion brys.

Ysbytai'n llawn

Mae 2,231 o gleifion coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae unedau gofal dwys yn trin y nifer uchaf o gleifion coronafeirws ers mis Ebrill.

Mae Dr Barry yn rheoli ward Covid yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sy'n delio gyda'r cleifion mwyaf anghenus.

Disgrifiad o'r llun, Mae prinder nyrsys gofal dwys yn broblem ar draws y wlad, meddai Dr Barry

"Mae'n deg dweud, ac mae hon yn gred sy'n cael ei hadlewyrchu gan fy nghydweithwyr mewn rhannau eraill o Gymru, ei bod hi'n eithriadol o brysur ac yn llawer gwaeth nag yn ystod y don gyntaf", meddai.

Ychwanegodd: "Rydym yn gweld llawer mwy o gleifion nawr. Mae mwy o gleifion Covid, ond nid yn unig hynny, mae'r ysbytai'n llawn - yn llawn o gleifion meddygol cyffredinol."

"Y gwahaniaeth nawr yw bod y ddwy ffrwd yn brysur ac mae mwy o gleifion Covid felly nid yw'r capasiti gennym yn yr ysbytai."

'Galw digynsail am wasanaethau'

Mae byrddau iechyd Hywel Dda a Chwm Taf Morgannwg yn cymryd camau brys i geisio ymdopi a'r pwysau, gan flaenoriaethu achosion brys.

Byddant yn blaenoriaethu clinigau cleifion allanol, ymchwiliadau endosgopi, ymyriadau therapiwtig a llawdriniaeth ar gyfer achosion canser brys a'r angen clinigol mwyaf.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud bod 500 o gleifion coronafeirws yn derbyn triniaeth ganddyn nhw, a bod "galw digynsail" ar wasanaethau.

Disgrifiad o'r llun, Mae uned gofal dwys Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont yn llawn cleifion Covid-19

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod meddygon "yn trin y nifer uchaf o gleifion mewnol sydd wedi cael cadarnhad o Covid-19 ers dechrau'r pandemig", a bod "rhaid i ni gymryd camau brys i leddfu'r pwysau hyn a lliniaru'r risgiau posibl i ansawdd a diogelwch y gofal a ddarparwn i gleifion".

"Byddwn yn gohirio asesiadau a thriniaethau dros dro i gleifion â chyflyrau llai brys", ychwanegodd y llefarydd.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cymryd camau tebyg.

Cyfradd Covid-19 Cymru - 530.2 achos i bob 100,000 o bobl - ydy'r gwaethaf yn y DU dros yr wythnos ddiwethaf.

O'r cyfraddau gwaethaf dros y DU, mae wyth o'r 10 ardal sydd â'r cyfraddau uchaf yng Nghymru.

Yn yr wythnos hyd at 13 Rhagfyr, Merthyr Tudful, Pen-y-bont a Blaenau Gwent oedd ar frig y rhestr honno.

Ychwanegodd Dr Simon Barry y gallai hynny waethygu: "Yn gyffredinol mae'r cleifion sy'n dod ar fy ward yn tueddu i fod yn hÅ·n. Dydy pob un ddim yn hen ond fel arfer maent dros 50 oed.

"A phan ofynnwch chi iddyn nhw sut maen nhw'n credu eu bod wedi dal Covid mae'r rhan fwyaf yn dweud eu bod wedi bod yn arbennig o ofalus.

"Fe gawsom hyfforddwr personol ifanc a ddaliodd yr haint mewn campfa er bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yno ac er bod mesurau priodol eraill yn y gampfa.

"Os gofynnwch chi i eraill maent yn dweud 'dwi ddim yn gwybod - mi es i siopa ac efallai fy mod wedi ei ddal yn y siop, ond roedd pobl yn gwisgo mygydau'."

Salwch staff yn cael effaith

Dywedodd Dr Barry bod cynnydd yn y Rhif R - cyfradd lledaeniad yr haint - "heb amheuaeth" yn cydfynd gyda mwy o gleifion yn yr ysbytai.

"Yn gyffredinol dwi'n credu fod pobl wedi ymddwyn yn addas a rhesymol, ond yr ieuengaf yr ydych chi yna mae'r haint yn cylchdroi ar lefel mwy asymptomatig.

"Felly os oes gennych ysgolion ar agor, a phrifysgolion ar agor, yna mae'n mynd i gylchdroi yn yr amgylcheddoedd hynny."

Wrth i ysbytai lenwi mae salwch a hunan-ynysu ymhlith staff hefyd yn cael effaith ar y gofal y gellir ei roi.

Mae prinder nyrsys gofal dwys yn broblem ar draws y wlad, meddai Dr Barry.

"Gyda gofal dwys mae llawer o nyrsys yn sâl neu'n ynysu. Mae'n rhaid cael nyrsio ar raddfa un-i-ddau, ac nid yw'n bosib cyflawni hynny.

"Hefyd os ydych chi'n edrych ar ôl cleifion ar ward anadlol lle mae pobl yn sâl, mae hi i bob pwrpas yn ward dibyniaeth uchel, ac nid oes digon o nyrsys, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu ymhob ysbyty yng Nghymru."