Â鶹ԼÅÄ

Ail don coronafeirws: £800m i brynu offer diogelwch

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cronfa gwerth £800m i baratoi ar gyfer ail don posib o coronafeirws yn y gaeaf wedi ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd mwyafrif yr arian yn cael ei wario ar gyflenwadau o Offer Diogelu Personol (PPE) i'r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i gadw rhai ysbytai maes a bydd £11.7 m yn mynd i ariannu ymgyrch ffliw enfawr.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ei bod yn hyderus y byddai'r cyhoeddiad yn rhoi'r "sefydlogrwydd sydd ei angen ar y GIG i ymateb i'r pandemig".

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw bellach wedi darparu dros £1.3bn o gyllid i sefydliadau'r GIG mewn ymateb i Covid-19.

"Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol a'r heriau a wynebir ar draws y sector cyhoeddus ac rydym yn gwneud popeth posibl i liniaru'r rhain," meddai Ms Evans.

"Rydyn ni hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sylweddol y maen nhw'n eu hwynebu a'u blaenoriaethau fel y gallwn ni roi rhagor o gymorth iddyn nhw."

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd Â鶹ԼÅÄ Cymru, Owain Clarke

Heb os nac oni bai mae pecyn ariannol gwerth £800m i "sefydlogi" y Gwasanaeth Iechyd yn arian sylweddol, ond yn adlewyrchu addewidion sydd eisoes wedi cael eu gwneud yn Lloegr.

Roedden ni eisoes yn gwybod fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael £675m o ganlyniad i wariant gan Lywodraeth y DU ar lenwi storfeydd o gyfarpar diogelwch.

Fe fydd cyfran helaeth o'r £800m yn cael ei wario yng Nghymru ar hynny hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dod o hyd i ddigon o offer diogelwch yn broblem yn wythnosau cynnar y pandemig

Ond does neb yn amau y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu heriau aruthrol yn ymdopi â'r hyn sy'n debygol o fod y gaeaf anoddaf yn ei hanes.

Fe fydd angen paratoi nid yn unig ar gyfer ail don posib o Covid-19, ond hefyd delio â phwysau'r fliw a'r afiechydon eraill allai fod yn lledaenu ar yr un pryd - ac mae'r rheiny yn aml iawn mewn gaeaf 'arferol' yn achosi straen aruthrol.

Fe fydd angen hefyd i'r Gwasanaeth Iechyd fynd ati i daclo'r rhestrau aros sydd wedi bod yn tyfu yn dilyn y penderfyniad i ohirio sawl triniaeth yn ystod ton gyntaf coronafeirws.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies na fyddai'r cyhoeddiad yng Nghymru yn bosib heb "becyn cyllid hanesyddol" Llywodraeth y DU.

"Mae angen i'r arian yma gynyddu'r mynediad at ddarpariaeth iechyd, sydd wedi cau neu leihau yn sylweddol ers dechrau'r pandemig Covid-19," meddai.

"Fel ry'n ni wedi'i weld gyda nifer y marwolaethau canser, mae'n hanfodol bod y llwybrau at driniaethau yn cael eu hailagor cyn gynted â phosib er mwyn cadw nifer y marwolaethau cynamserol mor isel â phosib."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod angen "nawdd ychwanegol sylweddol i ddelio gydag ail don neu fwy".

"Ond bydd delio yn effeithiol gydag ail ddyfodiad y feirws yn golygu'r angen am reolaeth dda gan y llywodraeth a'r byrddau iechyd hefyd, am ein bod ni y tro yma angen i waith allweddol a gwaith arferol y GIG barhau, gwaith wnaeth stopio i raddau helaeth yn ystod y don gyntaf."