Â鶹ԼÅÄ

Undeb arall yn galw am gau ysgolion yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
An empty classroom and woman in maskFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad yr rhan fwayf o awdurdodau lleol yw i ysgolion gau ar 18 Rhagfyr

Mae undeb sy'n cynrychioli prifathrawon wedi anfon llythyr yn galw am gau ysgolion Cymru o ddydd Gwener ar gyfer gwyliau'r Nadolig,

Dywed Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, ei bod hefyd yn gobeithio cwrdd â'r gweinidog addysg Kirsty Williams ddydd Iau fel "mater o frys".

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn parhau i gynnal trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol a'r undebau "fel rydym wedi ei wneud drwy gydol y pandemig".

"Y flaenoriaeth o hyd yw sicrhau parhad addysg ar gyfer pob plentyn, gyda'r anrhefn leiaf posib."

Mae teuluoedd gyda phlant wedi clywed y dylid ystyried ynysu gartref am 10 diwrnod cyn Nadolig os oes ganddynt gynlluniau i gwrdd â pherthnasau oedrannus.

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dweud y dylai ysgolion barhau ar agor tan 18 Rhagfyr.

Ond fore Iau, cyhoeddodd cyngor Wrecsam mai dim ond gwersi ar-lein fydd ar gael ar gyfer disgyblion uwchradd yr wythnos nesaf.

Bydd disgyblion cynradd y sir hefyd yn troi at wersi ar-lein ar gyfer dau ddiwrnod olaf y tymor.

Eisoes mae undeb UCAC wedi galw am gau ysgolion yn gynnar.

Nawr mae'r NAHT wedi ychwanegu eu pwysau.

"Rwy'n meddwl y cawn drafodaethau y pnawn 'ma, a dwi'n obeithiol y byddai'r gweinidog sydd hyd yma wedi gweithredu yn ôl canllawiau iechyd a diogelwch, yn gweithredu ar y canllawiau heddiw," medd Ms Doel.

"Rwy'n credu y bydd nifer o rieni yn penderfynu drostynt eu hunain, beth bynnag."

Yn dilyn adroddiad gan y Grŵp Ymgynghori Llywodraeth Cymru (TAG) ddydd Mawrth, fe wnaeth yr NAHT Cymru ysgrifennu at Kirsty Williams, yn galw am i blant gael addysg ar-lein neu yn rhannol ar-lein ar gyfer yr wythnos olaf (14-18 Rhagfyr).

Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau Cymru yn bwriadu cau eu hysgolion ar 18 Rhagfyr, fe wnaeth disgyblion Blaenau Gwent gael eu gwersi olaf yn y dosbarth ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Pryder UCAC ydy y gallai disgyblion orfod hunan-ynysu dros ddydd Nadolig

Mae cyngor Pen-y-bont yn bwriadu dilyn Caerffili a Rhondda Cynon Taf, gan gau ysgolion ar 16 Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian AS: "Mae'r cyngor diweddaraf gan y Cell Cyngor Technegol i Llywodraeth Cymru wedi amlygu'r peryglon ynglwm â cadw ysgolion ar agor, a mae'n rhaid i'r cyngor yma cael ei ystyried o ddifri.

"Ddylai Llywodraeth Cymru roi caniatad i ysgolion gau wythnos nesaf ac annog i bawb sy'n gallu i gadw eu plant adref - ond rhaid fod cnewllyn o staff ar gael ym mhob ysgol i edrych ar ol y rhai sydd dal angen mynd i'r ysgol."

Mae'r gweinidog iechyd Vaughan Gething yn y gorffennol wedi dweud fod niwed wedi ei wneud i rai plant pan oedd yr ysgolion wedi eu cau yn ystod y cyfnod clo cyntaf - gan gyfeirio at les iechyd meddwl.