Dechrau rhoi brechlyn Covid o ddydd Mawrth ymlaen

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n fwriad i ddechrau brechu pobl rhag coronafeirws yng Nghymru o ddydd Mawrth nesaf, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod disgwyl i'r cyflenwadau cyntaf gyrraedd "yn y diwrnod neu ddau nesaf", a bod staff wedi cael eu hyfforddi i roi'r brechlyn.

"Rydym yn gobeithio bod hwn yn nodi trobwynt yn y pandemig, ac yn ein rhoi ar yr hyn fydd yn llwybr hir yn ôl i normalrwydd," meddai yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies wedi galw am benodi gweinidog penodol gyda chyfrifoldeb am frechu.

Dywedodd: "Beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n gweld y brechlyn yn cael ei ddosbarthu cyn gynted â phosib, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru gael gweinidog penodol... i sicrhau bod y brechlyn yn mynd ar draws Cymru dros y misoedd nesaf."

Ffigyrau dyddiol

Ychydig wedi'r gynhadledd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 33 yn rhagor o farwolaethau gyda Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf. Bellach mae 2,671 o bobl wedi marw yng Nghymru gyda'r haint.

Dros yr un cyfnod fe gafodd 1,471 o achosion newydd o coronafeirws eu cadarnhau yma, gan fynd â'r cyfanswmi 85,432.

O'r achosion newydd roedd 199 yng Nghaerdydd, 171 yn Abertawe, 141 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 121 yn Rhondda Cynon Taf a 110 yng Nghaerffili.

Yn y gynhadledd, ychwanegodd Mr Drakeford: "Rydym yn dechrau'r broses o gynnig profion rheolaidd i bob aelod staff iechyd a gofal cymdeithasol.

"Bydd pawb yn cael cynnig prawf canlyniad cyflym ddwywaith yr wythnos, gan ddechrau gyda phobl yn ardaloedd risg uwch wyneb yn wyneb â chleifion.

"Bydd y profi ar gael i bawb o fewn iechyd a gofal cymdeithasol erbyn Ionawr."

Rhybuddiodd Mr Drakeford: "Tra bo'r brechlyn yn cynnig gobaith at y dyfodol, mae'r sefyllfa heddiw yng Nghymru yn parhau'n ddifrifol iawn."

Dywedodd bod y cyfraddau heintio dros saith niwrnod yn o leiaf 150 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth mewn bron dau draean o awdurdodau lleol Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sefyllfa'n dal yn "ddifrifol iawn" yng Nghymru, medd Mark Drakeford ddydd Gwener

Mae yna dros 400 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth erbyn hyn yn siroedd Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.

Ychwanegodd bod y cyfraddau ar gynnydd ymhob ardal trwy Gymru oni bai am ddau, a bod canran y canlyniadau coronafeirws positif hefyd yn codi.

"Wedi cwymp yn sgil y clo tân, rydym yn gweld cynnydd digamsyniol yn y coronafeirws unwaith yn rhagor," meddai.

"Dyma'r patrwm hefyd wrth i ni edrych ar achosion yn y grwpiau oedran dan 25 a thros 60."

Nadolig

Roedd gan Mr Drakeford un ychwanegiad i'r rheolau dros gyfnod y Nadolig yn ogystal.

Y rheol wreiddiol oedd y byddai tri chartref yn gallu ymuno gyda'i gilydd i ffurfio un 'swigen' neu aelwyd estynedig rhwng 23-27 Rhagfyr.

Mae nawr wedi ychwanegu y gall un person unigol ymuno gyda'r swigen os fyddai peidio gwneud yn golygu y byddai'r person yna ar ben eu hunain ar ddydd Nadolig.

Disgrifodd Mr Drakeford hyn fel "ychwanegiad pwysig i drefniadau'r Nadolig" er mwyn sicrhau na fyddai pobl felly'n "cael eu gadael allan".