Â鶹ԼÅÄ

Manylion am asesiadau disgyblion i ddod yn Ionawr

  • Cyhoeddwyd
School class testFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y penderfyniad i beidio cynnal arholiadau yn haf 2021 ei wneud ym mis Tachwedd

Mae'r dyn sy'n gyfrifol am lunio'r system asesu arholiadau ar gyfer disgyblion flwyddyn nesaf yn gobeithio y bydd dysgwyr ac athrawon yn cael eglurder erbyn mis Ionawr.

Yn ôl yr ymgynghorydd addysg, Geraint Rees, bwriad y grŵp mae'n ei gadeirio yw sicrhau tegwch i fyfyrwyr a chreu cymwysterau sydd ag "hygrededd".

Yng Nghymru bydd arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yn cael eu disodli gan asesiadau yn 2021 oherwydd effeithiau'r pandemig.

Dywedodd Mr Rees y bydd yn rhaid i'r graddau TGAU a Safon Uwch sy'n cael eu dyfarnu flwyddyn nesaf fod yn rhai "teilwng i bob dysgwr, ac sydd yn dal dŵr".

Mae'r cyn-brifathro yn gadeirydd y grŵp dylunio a darparu, wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ac sydd â'r dasg o ffurfioli manylion yr asesiadau.

Ffynhonnell y llun, Geraint Rees
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Rees yw cadeirydd y grŵp dylunio a darparu

Fis diwetha' penderfynodd y gweinidog addysg, Kirsty Williams, i gael gwared ar arholiadau yn 2021 oherwydd ofnau na fyddai yna chwarae teg i ddysgwyr.

Mae penaethiaid ysgolion a phenaethiaid colegau hefyd yn rhan o'r grŵp o 15 o bobl mae Mr Rees yn ei gadeirio.

Dywedodd Mr Rees bod y gweinidog addysg wedi cymryd penderfyniad i edrych ar y system i sicrhau bod disgyblion yn cael "cymwysterau ar y diwedd sydd yn rhai teilwng i bob dysgwr, sydd yn dal dŵr cyn belled â bod y prifysgolion a chyflogwyr yn y cwestiwn."

"Does neb yng Nghymru ishe i ni gyrraedd pwynt haf nesa lle ma' unrhyw amheuon dros y graddau fydd wedi eu cyrraedd - felly ma' 'da ni rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru sy'n gorfod neud penderfyniadau pwysig, ma' 'da ni fwrdd arholi sydd â'i hygrededd ei hunan a ma' 'da ni'n penaethiaid a phenaethiaid colegau sy'n aelodau o'r grŵp sydd wir ishe neud yn siŵr bod hygrededd," ychwanegodd.

"Dyna yw'r jobyn - yw neud yn siwr bod dim un brifysgol yn amau integrity ein system ni yng Nghymru - ni'n gorfod cael e'n iawn.

Mae'n gobeithio bydd y grŵp wedi cyflwyno'i argymhellion i Kirsty William erbyn diwedd y mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams yn cyfarfod myfyrwyr TGAU ym mis Awst

Ei neges i ddysgwyr ifanc oedd bod yn rhaid bwrw mlaen gyda'r gwaith.

"Mae'r cyrsiau yno, mae'r adnoddau dysgu yno, mae'r athrawon yno , mae angen gweithio i ddatblygu'r ystod o wybodaeth a sgiliau achos cam ynghanol bywyd yw hwn i symud mlaen i'r pethau nesa a pheidiwch colli'r cyfle i ddatblygu'ch sgiliau a mwynhewch ddysgu," meddai.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain ddoe y byddai mesurau ychwanegol yn cael eu defnyddio i "hybu tegwch a chefnogi myfyrwyr" TGAU a Safon Uwch yn Lloegr.

Fe fydd arholiadau yno dal yn digwydd and mae yna addewid i raddio'n fwy hael yn Lloegr, rhoi rhybudd ymlaen llaw o bynciau arholiad a sicrhau arholiadau "ail gyfle" fis Gorffennaf.

Dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod yn parhau i "weithio'n agos" gyda rheoleiddwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu "buddiannau dysgwyr yng Nghymru."

Dywedodd y cyn is-ganghellor ac ymgynghorydd addysg, Syr Deian Hopkin, nad oedd yn teimlo y byddai unrhyw wahaniaethau rhwng y cenhedloedd yn effeithio ar gyfleoedd myfyrwyr yn y brifysgol.

"Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod prifysgolion yn mynd i dderbyn myfyrwyr o Gymru yn union fel sydd wedi digwydd o'r blaen," meddai.

"Mae prifysgolion yn cystadlu am fyfyrwyr. Mae niferoedd y myfyrwyr wedi gostwng ac mae Brexit ar fin ein taro.

"Y realiti yw bod prifysgolion yn falch iawn o gael cymaint o fyfyrwyr ag y gallant ac felly rwy'n credu y bydd myfyrwyr Cymru yr un mor ddeniadol iddyn nhw - arholiad ai peidio."