Â鶹ԼÅÄ

Argymell dileu arholiadau TGAU am asesiadau yr haf nesaf

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Ysgol Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau dan drefn anarferol yn ystod mis Awst eleni

Mae Cymwysterau Cymru wedi argymell y dylid dileu arholiadau TGAU o blaid asesiadau ar sail gwaith cwrs ag asesiadau yr haf nesaf.

Mae'r corff hefyd yn cynnig bod rhai arholiadau Safon Uwch yn parhau i gael eu cynnal yn 2021, ond fe fyddai'r meini prawf ar gyfer myfyrwyr TGAU ac AS yn wahanol.

Dywedodd Cymwysterau Cymru mai dyma'r ffordd orau o sicrhau tegwch i ddisgyblion wrth gynnig sicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd mewn cyfnod ansicr.

Ochr yn ochr â chyngor Cymwysterau Cymru bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams hefyd yn ystyried awgrymiadau gan Banel Annibynnol, a sefydlwyd i adolygu cymwysterau yn 2020 a chynghori ar ystyriaethau ar gyfer 2021.

Wrth siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast dywedodd un disgybl chweched dosbarth ei bod yn teimlo y dylai arholiadau Lefel A gael eu canslo hefyd, gydag asesiadau dosbarth a gwaith cwrs yn cael eu defnyddio yn lle hynny.

"'Dan ni ddim jyst yn wynebu'r un problemau â Blwyddyn 13 llynedd, 'dan ni'n delio efo effaith Covid-19 a pheidio sefyll ein arholiadau AS y llynedd," meddai Sian Williams o Langollen.

"'Dan ni wedi methu dros chwe mis o addysg rŵan felly dwi'n teimlo y byddai o'n annheg iawn i ofyn i fyfyrwyr Lefel A eistedd arholiadau eleni."

Ymchwiliad annibynnol

Mewn adroddiad interim, mae'r panel, dan gadeiryddiaeth Louise Casella, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi argymell y dylid dyfarnu pob cymhwyster yn 2021 "ar sail asesiad cadarn a chymedrol a wneir mewn ysgolion a cholegau".

Mewn datganiad, dywedodd Ms Casella fod "y panel yn credu'n gryf y byddai bwrw ymlaen ag unrhyw fath o gyfres arholiadau yn 2021 yn annheg i bobl ifanc Cymru."

Bydd Kirsty Williams yn ystyried eu cyngor a chyngor Cymwysterau Cymru, ac mae disgwyl iddi gyhoeddi penderfyniad ar 10 Tachwedd.

Trodd tymor arholiadau'r haf hwn yn draed moch ar ôl i brofion gael eu canslo oherwydd Covid-19.

Dyfarnwyd graddau gan algorithm dadleuol cyn cael ei ddileu a'i ddisodli gan asesiadau athrawon yn y pen draw.

Ffynhonnell y llun, Cymwysterau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru byddai canslo'r arholiadau'n "mynd i'r afael â'r anghysondebau" a welwyd eleni

Comisiynodd Kirsty Williams ymchwiliad annibynnol i'r hyn a aeth o'i le, a gofynnodd hefyd am gyngor ar sut y gallai tymor arholiadau'r haf nesaf edrych pe bai cyfnodau clo yn y dyfodol neu os oedd myfyrwyr yn hunan-ynysu.

Mae Cymwysterau Cymru yn argymell bod ysgolion a cholegau'n cael cyfnod eithaf hyblyg pan fydd asesiadau'n cael eu cynnal.

Ar gyfer Safon Uwch, yn ogystal â gwaith cwrs a thasgau gosod, byddai angen i fyfyrwyr sefyll un arholiad i bob pwnc ond gyda chyfle hefyd i sefyll yr arholiad ar amser arall os yw'r disgybl yn sâl neu'n hunan-ynysu.

Dywedodd y corff y byddai unrhyw fodel sydd yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn debygol o effeithio ar arholiadau 2022.

Ychwanegodd Cymwysterau Cymru nad oedd "mecanwaith cymedroli digon cadarn y gellir ei roi ar waith yn effeithiol ar gyfer yr haf nesaf".

Llythyr Cymwysterau Cymru

Mewn llythyr ymgynghorol at Kirsty Williams, dywedodd David Jones, cadeirydd Cymwysterau Cymru, a'r prif weithredwr Philip Blaker: "Pe byddech chi'n penderfynu dilyn y llwybr hwn, yna byddwn ni a (bwrdd arholi) CBAC yn gweithio i weithredu datrysiad mor gadarn ag sydd yn bosibl o dan yr amgylchiadau, ond ni allwn warantu y bydd yn mynd i'r afael â'r anghysondebau a'r annhegwch cynhenid ​​a brofwyd yn haf 2020."

Ychwanegodd y llythyr: "Rydym yn cynnig gwahanol drefniadau asesu sy'n darparu mwy o hyblygrwydd, heb yr angen am fesurau wrth gefn ychwanegol sylweddol.

"Ar y cyfan, mae ein cynigion yn symud i ffwrdd o ddibynnu ar arholiadau mewn amserlen ac mae pob un ohonynt yn cynnwys 'bancio' rhywfaint o dystiolaeth asesu cyn yr haf y gellid ei defnyddio i gynhyrchu canlyniadau pe bai ysgolion ar gau.

"Mae ein cynigion yn defnyddio mathau o gwestiynau sydd eisoes wedi'u cynnwys mewn manylebau, felly byddant yn gyfarwydd i ddysgwyr ac athrawon.

Ffynhonnell y llun, PA

"O ystyried y byddai'r trefniadau'n deillio o asesiadau cyfarwydd, mae ein cynigion yn darparu cymaint o sicrwydd â phosibl i ddysgwyr ac athrawon ar y cyfle cyntaf.

"Byddai darparu asesiadau cyffredin a ddyluniwyd gan CBAC yn osgoi cynyddu'r baich asesu ar gyfer staff addysgu gan ganiatáu iddynt wneud y mwyaf o'r amser addysgu a dysgu."

Ar hyn o bryd mae disgyblion Cymru ar eu gwyliau hanner tymor.

Bydd plant ysgolion cynradd a Blynyddoedd 7 ac 8 yn dychwelyd i'r ysgol ar 2 Tachwedd, tra bydd Blynyddoedd 9, 10, 11 a'r chweched dosbarth yn mynd yn ôl ar 9 Tachwedd.

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies AS: "Mae Cymwysterau Cymru yn glir na all system genedlaethol gael ei phrofi a bod yn barod mewn pryd i roi hyder mewn graddau sydd wedi'u pennu'n ganolog.

"Fodd bynnag, er fy mod yn falch o weld bod arholiadau yn elfen gref o ganfyddiadau Cymwysterau Cymru, rwy'n siŵr bydd arweinwyr ysgolion, rhieni a disgyblion am wybod pa gyfuniad o'r argymhellion fydd yn rhoi mwya' o hyder i'r cyhoedd.

"Rwy'n edrych ymlaen i glywed canlyniadau'r Gweinidog, ond yn ategu fy ngalwad fod angen iddi roi arweiniad clir ar y mater yma. Fedrwn ni ddim gadael i griw arall o bobl ifanc wynebu ansicrwydd am eu dyfodol fel y cafodd myfyrwyr eleni."

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Sian Gwenllian AS: "Mae Plaid Cymru wedi galw sawl tro am ddefnyddio graddau asesu canolog yn hytrach nag arholiadau yn 2021. Rydym yn croesawu gweld y Panel Adolygu Annibynnol yn dod i'r un casgliad a dylai'r Gweinidog dderbyn eu cyngor.

"Mae eu cynnig nhw yn rhoi lles y dysgwr wrth galon y system ac yn cydnabod effaith ddinistriol y pandemig ar y criw yma o ddysgwyr.

"Mae'r panel yn codi cwestiynau pwysig am degwch y system arholiadau presennol, a'r angen am ddull cyfannol. Fe nghred yw y dylai'r Gweinidog dderbyn argymhellion y panel annibynnol a gwrthod rhai Cymwysterau Cymru."