Â鶹ԼÅÄ

Ffatri yn Wrecsam i gynorthwyo cynhyrchu brechlyn Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Labordy CP Pharmaceuticals
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith yn digwydd yn labordy CP Pharmaceuticals, is-gwmni Wockhardt

Mae cwmni fferyllol Wockhardt o Wrecsam wedi ennill cytundeb i gynorthwyo cynhyrchu brechlyn yn erbyn Covid-19.

Mae'r cytundeb 18 mis gyda llywodraeth y DU ar gyfer y gwaith o gwblhau'r gweithgynhyrchu.

Dyna'r gwaith o osod y brechlyn mewn ffiolau yn barod i'w dosbarthu.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn is-gwmni - CP Pharmaceuticals - yn Wrecsam, sy'n gallu darparu miliynau o ddognau o unrhyw frechlyn.

Fe fydd Wockhardt yn darparu'r gwasanaeth i lywodraeth y DU ac i gynhyrchwyr brechlyn o gwmpas y byd.

Dywedodd cadeirydd y gweithlu brechlyn, Kate Bingham, bod pedwar brechlyn bellach â phosibilrwydd o fynd i'r cam nesaf.

"Dim ond rhan o'r ateb yw darganfod brechlyn llwyddiannus," meddai. "Rhaid i ni hefyd fedru ei gynhyrchu."

Yn ôl sylfaenydd a chadeirydd Wockhardt, Habil Khorakiwala: "Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo i liniaru effaith fyd eang Covid-19."