Gweithio o adre'n arwain at gynnydd mewn prisiau tai

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Er gwaetha pryderon am swyddi a'r economi, mae pobl yn dal i brynu tai

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn dweud bod prisiau tai yng Nghymru wedi codi er gwaethaf, neu efallai oherwydd, coronafeirws.

Rhan o'r rheswm, medd y gymdeithas, yw fod pobl yn chwilio am gartrefi mwy wrth iddyn nhw addasu i'r "normal newydd" o weithio o adre.

Yn ôl y mynegai prisiau tai, Zoopla, mae'r tueddiad yn debygol o barhau yn 2021, gan ragweld cynnydd o 2% yng Nghymru o gymharu ag 1% yn Lloegr.

Dywedodd Mike Jones o'r Principality y gallai pryderon am swyddi a'r economi wneud pobl yn llai parod i fentro i'r farchnad a phrynu am y tro cyntaf.

Ond mae'n credu bod ymestyn y cynllun ffyrlo a chynlluniau i ohirio taliadau morgais yn ddau ffactor sydd wedi rhoi hwb i'r sector.

Ychwanegodd: "Hefyd efallai bod rhai'n dyheu am newid eu ffordd o fyw, ac wedi sylweddoli yn y cyfnod clo ei bod yn bosib gweithio o adre ac osgoi'r angen i deithio i'r gwaith bob dydd.

"Mae'r galw am gartrefi mwy, gyda mwy o le y tu allan hefyd, wedi cynyddu. Ond gan bod diffyg tai newydd ar y farchnad, mae'r prisiau hefyd wedi cynyddu'n gyflym."

Disgrifiad o'r llun, Mae ardaloedd fel Abersoch wedi gweld cynnydd mawr mewn prisiau tai

Pan ddaeth cyfnod clo cyntaf Cymru i ben ym mis Mehefin, fe gododd prisiau tai ar draws Cymru o 3% i gyfartaledd o £196,165.

Ond erbyn Medi, roedd chwe awdurdod lleol wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed am bris cyfartalog tŷ - Pen-y-bont (£190,948), Caerdydd (£247,030), Sir Gaerfyrddin (£172,708), Gwynedd (£198,279), Casnewydd (£213,660) a Phowys (£222,992).

Gwynedd welodd y cynnydd mwyaf, gyda phrisiau tai yn codi o 14.6% o £250,000 i £280,000.

Mae hyn wedi achosi tensiwn mewn nifer o ardaloedd, ac fe gafodd Cyngor Tref Nefyn gyfarfod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gynharach yr wythnos hon i drafod y sefyllfa a'u pryderon am effaith hyn ar y cymunedau.

Er bod 2020 wedi bod yn flwyddyn "nad oedd modd rhagweld" dywedodd Dawn Guner o Gymdeithas Adeiladu'r Monmouthshire bod Covid-19 wedi newid y ffordd y mae llawer yn ystyried eu cartref.

"Mae'r cyfnod clo'n golygu bod llawer wedi treulio mwy o amser adre nag oedden nhw fel arfer, gyda'r cartref yn troi'n ofod proffesiynol a phersonol," meddai.

"Mae llawer wedi cymryd amser i ystyried y dyfodol, a sut mae amgylchedd eu cartrefi'n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a hefyd lleoliad am amgylchedd y cartref."

Ond dywedodd hefyd eu bod nhw fel cymdeithas wedi gweld cynnydd mewn prynwyr tro cyntaf.