Â鶹ԼÅÄ

Galw am roi pecyn ymwybyddiaeth iaith i bob prynwr tÅ·

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae gweld ardal Nefyn "fel mynwent" yn y gaeaf yn "drist ofnadwy" meddai Rhys Tudur

Dylai pawb sy'n prynu tŷ yng Nghymru dderbyn pecyn ymwybyddiaeth iaith wrth fynd drwy'r broses, yn ôl cynghorydd o Wynedd.

Dylai'r pecyn fod yn rhan o'r dogfennau arferol y mae gwerthwyr tai neu gyfreithwyr yn eu rhoi i ddarpar-brynwyr, meddai Rhys Tudur, sy'n aelod o Gyngor Tref Nefyn.

Mae'r cyngor wedi cefnogi cynnig ganddo i gynhyrchu pecyn o'r fath, gyda'r gobaith y bydd y syniad yn cael cefnogaeth y mentrau iaith a Llywodraeth Cymru.

Mae arwerthwr tai lleol wedi cefnogi'r syniad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

'Dim syniad am sefyllfa'r iaith'

Dywedodd y Mr Tudur fod nifer o bobl sy'n symud i mewn i ardaloedd Cymraeg heb fath o syniad am sefyllfa'r iaith yn gyffredinol.

Roedd ei gynnig hefyd yn galw ar y llywodraeth i'w gwneud hi'n orfodol i werthwyr tai ddarparu'r pecyn ymwybyddiaeth iaith i bob darpar brynwr tÅ· yng Nghymru.

"Does 'na ddim math o ddarpariaeth i wneud pobl yn ymwybodol o'r iaith - dydy rhai o'r bobl sy'n prynu eiddo yma ddim callach ei bod hi'n iaith fyw, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n ymwybodol o hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Tudur bod diddordeb mewn prynu tai yn ardal Nefyn yn "rhemp" yn ddiweddar

Dywedodd bod pobl ardaloedd Nefyn a Morfa Nefyn "yn poeni fod ein cymunedau ni yn mynd fel yr Abersoch nesa'".

"Mae 'na andros o ddiddordeb wedi bod ym mhryniant tai yma yn ddiweddar.

"Mae 'na wedi bod dros y degawdau wrth gwrs ond yn ddiweddar mae wedi mynd yn rhemp.

"Mae bron bob tÅ· sydd ar y farchnad ar y funud ym Morfa Nefyn ymhell allan o afael pobl leol.

"Mae hi fatha mynwent yn y gaeaf ac mae hynny jyst yn drist ofnadwy.

"Alla' i'm meddwl am llawer o fy nghyfoedion sydd yma rŵan 'efo tŷ yn y gymuned, mae'n amhosib fforddio tŷ yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pentrefi fel Abersoch yn gyrchfannau poblogaidd i ymwelwyr, ac mae cyfradd uchel o ail gartrefi yno

Nid yw ffurf na chynnwys y pecyn wedi ei benderfynu eto, ond mae'n debygol y byddai hanes yr iaith a'r diwylliant yn cael lle amlwg.

Gallai hefyd dynnu sylw at enwau tai - pwnc sydd wedi cael ei drafod yn helaeth yn ddiweddar oherwydd nifer o esiamplau o hen enwau Cymraeg yn cael eu newid gan brynwyr newydd.

"Mi fydd y cynnwys yn dod yn fwy amlwg wrth drafod efo'r Mentrau Iaith gobeithio, ond mae'n hollbwysig ei fod yn gynhwysol," meddai'r Cyng Tudur.

"Dwi'n dychmygu y gallai fod yn weddol hwylus i'w wneud, fel y gallai darpar-brynwyr ei lawrlwytho, ac felly does dim rhaid iddo olygu gwariant gwirion chwaith.

"Mae'r rhan fwyaf o werthwyr tai neu gyfreithwyr yn rhoi pethau fel Tystysgrif Perfformiad Ynni 'efo dogfennau eraill i ddarpar-brynwyr, felly pam ddim rhoi pecyn ymwybyddiaeth iaith iddyn nhw yr un pryd?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Wynedd fwy o ail gartrefi nag unman arall yng Nghymru

Dywedodd Rhian Chirgwin, sy'n arwerthwr tai ym Mhwllheli, ei bod yn gefnogol i'r syniad.

"Mae'n dibynnu beth sydd ynddo fo wrth gwrs, ond dwi ddim yn meddwl ei fod o'n ddrwg o beth o gwbl, a dwi'n siwr y bydd gwerthwyr tai lleol yn ei gefnogi hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Hunaniaith, menter iaith Gwynedd, eu bod eisoes yn cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i "greu pecyn croeso digidol ar gyfer mewnfudwyr i'r sir er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg".

"Rydym yn croesawu sylwadau Cyngor Tref Nefyn ac yn awyddus i gydweithio gyda hwy ac eraill i sicrhau y bydd y pecyn newydd yn cyrraedd cymaint ag sy'n bosibl o drigolion newydd Gwynedd er mwyn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg."

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.