Ralïau'n amlygu 'argyfwng y farchnad dai'

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth oddeutu 60 o bobl at ei gilydd yn y rali yn Llanberis fore dydd Sadwrn

Mae ymgyrchwyr iaith yn cynnal ralïau yn Llanberis, Aberaeron a Chaerfyrddin ddydd Sadwrn, i dynnu sylw at sefyllfa'r farchnad dai yng Nghymru.

Mae'r ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wneud bopeth o fewn eu gallu i daclo'r argyfwng", gan gynnwys rhoi grymoedd i awdurdodau lleol reoli'r farchnad dai a chyflwyno Deddf Eiddo.

Mae'r galwadau yn ran o ymgyrch 'Nid yw Cymru ar werth' Cymdeithas yr Iaith, sydd yn cynnwys deiseb gyfredol.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr angen i ddod o hyd i atebion fel nad yw pobl yn cael eu prisio allan o'u hardaloedd.

Mae ralïau yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin a Llanberis, ac mae ymgyrchwyr iaith yng Ngheredigion yn cerdded o Lanrhystud i rali yn Aberaeron.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith ac un o'r siaradwyr yn y rali yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin:

"Allwn ni ddim disgwyl nes etholiad llywodraeth newydd y flwyddyn nesaf, gan fod prisiau tai wedi codi gymaint yn yr ardaloedd gwledig fel bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi o'r farchnad.

"Mae angen i'r llywodraeth roi pecyn argyfwng o rymoedd i Awdurdodau Lleol yn awr i reoli'r sefyllfa. Mae'r ffaith fod dros 5,300 o bobl bellach wedi arwyddo'r ddeiseb yn pwysleisio'r angen yma am weithredu brys gan y Llywodraeth."

Sefyllfa 'dorcalonnus'

Ychwanegodd Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch 'Nid yw Cymru ar werth' Cymdeithas yr Iaith:

'Mae'r seyllfa bresennol yn un du hwnt i dorcalonnus. Mae'r hawl i fyw adra yn rywbeth gwbl allweddol i unrhyw gymuned fyw ond yn anffodus, mewn nifer gynyddol o ardaloedd yng Nghymru mae pobl ifanc yn ei chael yn gwbl amhosib i ymgartrefu yn eu cymunedau.

"Nid eu bai nhw ydy hyn wrth gwrs: mae'r broblem tu hwnt i'w rheolaeth nhw ac yn deillio o'r ffaith fod y system dai yn ran o'r farchnad agored sy'n golygu nad oes rheolaeth gyhoeddus ddigonol arno. Canlyniad hyn yw system dai sydd ddim yn gweithio er lles ein cymunedau a sydd bellach wedi datblygu i fod yn argyfwng."

'Oherwydd hyn, byddwn ni'n ymgyrchu ddydd Sadwrn i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres o fesurau argyfyngol, fyddai'n cynnwys rhoi'r grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai.

"Ac hyn yr hir-dymor, bydd angen i'r Llywodraeth gyflwyno cyfres o ddatrysiadau strwythurol, fel Deddf Eiddo, er mwyn sicrhau na fydd argyfwng o'r math yma'n digwydd eto a bod y farchnad dai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y materion y mae hyn yn eu hachosi mewn rhai cymunedau a'r angen i ddod o hyd i atebion fel nad yw pobl yn cael eu prisio allan o'u hardaloedd.

"Rydym yn parhau i weithio gyda chynghorau i sicrhau bod gwneud penderfyniadau lleol yn cael eu cyfuno â mesurau effeithiol ledled Cymru.

"Mae ralïau a phrotestiadau yn rhan annatod o'n democratiaeth, ond er bod gennym argyfwng iechyd cyhoeddus, mae yna reolau clir ar waith sy'n golygu na chaniateir cyfarfodydd mawr. Gofynnwn i bawb gadw at y rheolau hyn er mwyn cadw Cymru'n ddiogel."