Â鶹ԼÅÄ

Grwpiau o bedwar mewn bwytai a thafarndai wedi'r clo

  • Cyhoeddwyd
TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd canllawiau lletygarwch newydd ar gyfer tafarndai a bwytai yn caniatáu i grwpiau o bedwar o aelwydydd gwahanol gyfarfod dan do yn unig, ar ôl i'r cyfnod clo presennol ddod i ben ar 9 Tachwedd.

Gall aelodau o'r un cartref o bump neu fwy fynd i dafarn, gaffi neu'r bwyty gyda'i gilydd, ond mae'r pwyslais ar fynd mewn grŵp mor fach â phosib meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyfyngiad ar bedwar unigolyn yn berthnasol i aelodau o aelwydydd ar wahân, os yn ymbellhau'n gymdeithasol.

Fe fydd y rheol am atal gwerthiant ar alcohol wedi 22:00 hefyd yn parhau mewn grym o ddydd Llun nesaf ymlaen am y tro.

Gofynnodd y prif weinidog Mark Drakeford i bobl ymweld â thafarndai, bwytai a bariau mewn grwpiau lleiaf posib.

Bydd tafarndai a bwytai yn ailagor ar ddiwedd y cyfnod clo yng Nghymru, ond roedd yr amodau ar gyfer eu hail agor yn aneglur.

Dywedodd y prif weinidog y bydd ailagor yn "destun cyfyngiadau llym fydd yn cael eu trafod gyda'r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau gyda therfyn amser, a phroses adnabod a dilysu cwsmeriaid".

"Ein cyngor clir i bobl yng Nghymru yw y dylem ymweld â'r lleoedd hyn mewn grŵp mor fach â phosib, ac i lawer, dim ond y bobl rydyn ni'n byw gyda nhw fydd hyn," meddai yn y Senedd.

"Ond rydyn ni wedi gwrando ar bobl ifanc ac mae pobl sengl yn arbennig wedi dweud wrthym pa mor bwysig ydy hi iddyn nhw gwrdd â rhai ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu."

Croeso gofalus

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, mae prif weithredwr bragdy mwyaf Cymru, Brains, wedi croesawu'r newyddion ond mae wedi codi pryderon ynghylch "proses adnabod ddilys" i wirio cwsmeriaid.

Dywedodd Alistair Darby y gallai gymryd amser i weithredu system o wirio manylion pob cwsmer yn hytrach na'r person sy'n archebu'r bwrdd.

"Rwy'n falch y bu rhywfaint o lacio ymarferol o reol aelwydydd sengl," meddai, gan fod "tafarndai yn lleoedd lle mae pobl eisiau cymysgu â ffrindiau a theulu".

Dywedodd fod y rheol aelwyd sengl yn "anodd iawn, yn fy marn i, a gwelsom gwymp mawr iawn mewn gwerthiant pan roddwyd hynny ar waith".

Dywedodd pennaeth y bragdy fod y dull newydd yn "ofalus o synhwyrol".

Cododd bryderon ynghylch "y broses adnabod" cwsmeriaid gan ddweud nad oedd yn glir beth oedd yn ei olygu gan nad oes cardiau adnabod gan y mwyafrif o bobl, a gallai'r cynllun arwain at "rwystredigaeth" tuag at staff.

Ychwanegodd Mr Darby fod y cwmni'n cefnogi profi ac olrhain ond y byddai'n poeni y gallai'r system ddilysu arwain at wrthdaro rhwng staff a chwsmeriaid.