Â鶹ԼÅÄ

Gwynedd yn trafod penodi swyddogion ymgysylltu Covid-19

  • Cyhoeddwyd
BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith ydy y byddai'r swyddogion yn "dod yn wynebau cyfarwydd" mewn ardaloedd fel Bangor

Bydd cynllun i recriwtio swyddogion coronafeirws i gynghori'r cyhoedd a busnesau am Covid-19 yn cael ei drafod gan Gyngor Gwynedd yn ddiweddarach.

Pwrpas y tri Swyddog Ymgysylltu Cymunedol fyddai "bod yn bresenoldeb gweladwy yn ein cymunedau a'n trefi, sydd yn cynghori a chynorthwyo busnesau a thrigolion ar faterion Covid-19, yn ogystal ag adrodd yn ôl ar faterion gall fod yn codi ar y pryd".

Fe fyddai'r swyddogion yn gweithio fel rhan o adran amgylchedd y cyngor am gyfnod dros dro hyd at 31 Mawrth 2022.

Y cais i'r cabinet ydy i'r cyngor gytuno i gyflogi'r swyddogion o 1 Rhagfyr 2020, fyddai'n costio cyfanswm o £113,220.

'Presenoldeb gweladwy'

Y gobaith ydy y byddai'r swyddogion yn "dod yn wynebau cyfarwydd yn ein cymunedau ac yn gyswllt uniongyrchol rhwng y Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd a thrigolion a busnesau Gwynedd", meddai adroddiad.

Mae'r cais yn nodi bod "yna ofyn am bresenoldeb gweladwy yn ein trefi" o ran cynghori a gorfodi rheolau Covid-19.

"Wrth i'r Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd fynd i'r afael gydag archwilio cwynion, cynghori a gorfodi lle bo cyfiawnhad gwneud hynny, mae'n hynod anodd darparu presenoldeb gweladwy a rheolaidd allan yn ein cymunedau i ymgysylltu gyda chymunedau a busnesau," meddai'r cais.

Dros yr haf fe wnaeth tensiynau godi rhwng trigolion ac ymwelwyr mewn rhai mannau yng Ngwynedd, wrth i'r niferoedd oedd yn heidio yno gynyddu yn sgil y pandemig.

Bu'n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru gynyddu eu presenoldeb yng nghymunedau'r sir yn dilyn pryderon mewn rhai ardaloedd, ac fe welodd Parc Cenedlaethol Eryri yr haf prysuraf erioed.

Bydd cabinet y cyngor yn trafod y cynnig gan Gynghorydd Plaid Cymru dros Y Felinheli, Gareth Wyn Griffith, brynhawn Mawrth.