'Teimlo bod y byd yn fy erbyn' ar ôl gohirio trawsblaniad eto

Ffynhonnell y llun, Mali Elwy

Disgrifiad o'r llun, Mae brawd Mali, Morgan, yn gymwys i roi aren iddi, pan fydd modd cynnal y driniaeth
  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

"Mae o'n teimlo fatha fod y byd yn fy erbyn i efo'r trawsblaniad 'ma."

Mae trawsblaniad myfyrwraig 19 oed o Sir Conwy wedi ei ganslo am yr eildro oherwydd sefyllfa Covid-19.

Roedd Mali Elwy o Dan-y-fron ger Llansannan i fod i dderbyn aren gan ei brawd Morgan wythnos diwetha'.

Ond fe gafodd y llawdriniaeth ei chanslo funud olaf.

Roedd y trawsblaniad i fod i ddigwydd ar 19 Hydref, ac roedd Mali a Morgan wedi bod yn paratoi ers tro.

Roedd rhaid i'r ddau fynd am asesiad cyn y llawdriniaeth, ac ynysu am bythefnos wedyn.

Aeth Mali am brawf gwaed ar 16 Hydref, cyn derbyn yr alwad ar y ffordd adref i ddweud na fyddai'n cael y driniaeth.

Dywedodd ei fod yn "siom anferth" am ei fod "mor agos".

"Roedd hi'n ergyd drom tro 'ma, siom anferth, a Morgan a fi yn gutted.

"Ma' be' ma' Morgan yn ei wneud jest mor anhygoel a dwi mor ddiolchgar iddo fo, ond ar yr un pryd mae o mor rhwystredig gweld fod hyn yn chwarae efo'i fywyd o hefyd."

Disgrifiad o'r fideo, Rhannodd Mali ei stori am y tro cyntaf yn ôl ym mis Awst

Dyma'r eildro i'r Royal Liverpool ohirio'r driniaeth. Mae Covid-19 ar gynnydd, ac mae hi'n ormod o risg i Mali fynd i'r ysbyty.

Roedd hi wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ond penderfynodd gymryd blwyddyn allan oherwydd ei hiechyd.

"Cwbl 'da ni wedi ei glywed ers wythnosau ar y newyddion ydy'r sefyllfa yn Lerpwl, ond oedd pobl yn dal i gael mynd allan, a dal i gael cymysgu.

"A tra ma' nhw'n dal i gael 'neud hynny does 'na ddim byd yn mynd i newid.

"Mae rhifau yn dal i godi, nes yn y pen mae trawsblaniadau a triniaethau mawr fel hyn yn cael eu gohirio eto."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mali y byddai'r trawsblaniad yn newid ei bywyd

Yn dair oed, mi gafodd Mali ganser, ac ar ôl tynnu un aren adeg hynny, mi waethygodd cyflwr yr aren oedd ar ôl. 

Mae'r cyfnod clo newydd yn dro ar fyd unwaith eto i sawl un, ac i Mali - yn ergyd arall.

Mae'r meddygon yn dweud y byddan nhw'n ailedrych ar ei sefyllfa mewn chwe wythnos.

"Dwi yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd a dwi yn iawn, ond dwi ddim gant y cant, dwi'n blino lot.

"Dwi byth yn teimlo yn iawn, byth. Dwi'n sâl wir. Er fod pobl yn edrych arna i, a ddim yn meddwl 'mod i'n sâl.

"So, ma'n anodd rhoi i fewn i eiriau really - 'sa'r trawsblaniad ma'n newid fy mywyd i.

"Ond ma'n anodd pan mae o'n cael ei ganslo o hyd, mae'n anodd derbyn fod o'n mynd i ddigwydd achos mae o'n teimlo fatha fod y byd yn fy erbyn i efo'r trawsblaniad 'ma."