Â鶹ԼÅÄ

Rownd a Rownd yn ymddiheuro bod stori wedi peri gofid

  • Cyhoeddwyd
Rownd a RowndFfynhonnell y llun, S4C

Mae un o wylwyr y gyfres deledu 'Rownd a Rownd' yn dweud ei bod wedi'i siomi gyda'r opera sebon am y ffordd mae stori am drawsblaniad aren yn cael ei chyfleu.

Mae Mali Elwy, 19, o Danyfron ger Llansannan yn aros am drawsblaniad aren ei hun ac yn dweud bod y stori ar Rownd a Rownd heb greu delwedd realistig o'r sefyllfa.

Mae cynhyrchwyr yr opera sebon yn dweud ei bod yn wir ddrwg ganddyn nhw os ydyn nhw wedi peri gofid i un o wylwyr Rownd a Rownd, a bod lles ac ewyllys da eu gwylwyr o'r pwysigrwydd uchaf iddyn nhw.

"Dwi yn ffan massive o Rownd a Rownd, ond, dwi jyst ddim yn teimlo bo' nhw yn cyfleu y profiad o gael trawsblaniad aren yn iawn o gwbl," medd Mali.

Ffynhonnell y llun, Mali Elwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali Elwy yn dweud nad yw'r stori ar Rownd a Rownd wedi creu delwedd realistig

Ar yr opera sebon, mae cymeriad 15 oed, hefyd o'r enw Mali, yn dechrau'r broses o weld os yw hi'n gymwys i roi aren i'w hanner chwaer fach, Miriam.

"I ddechrau ma'r cymeriad yn 15 oed, ac ma' rhaid i chi fod yn 18 oed i roi aren. Mae'r holl storyline yn anghywir ar sail hynny," meddai Mali Elwy.

"Dwi jyst yn teimlo bo' nhw'n andros o flippant am bod o ddim yn cyfleu sut mae o go iawn."

Mae Mali Elwy newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn astudio'r Gymraeg ym mhrifysgol Bangor ac yn dweud y bydd yn rhaid iddi gymryd blwyddyn allan y flwyddyn nesaf oherwydd ei chyflwr.

Roedd hi fod i gael trawsblaniad aren gan ei brawd, Morgan, ym mis Awst, ond oherwydd yr argyfwng coronafeirws mae'r trawsblaniad wedi'i ohirio.

Dyw hi ddim yn gwybod eto pryd fydd y trawsblaniad yn digwydd, felly mae hi'n disgwyl dechrau triniaeth dialysis cyn bo hir.

'Proses mor hir'

Mae hi'n teimlo bod cynhyrchwyr Rownd a Rownd wedi ei siomi hi, yn ogystal â dioddefwyr eraill sydd â phroblemau â'r aren.

"Maen nhw'n neud allan bod o jyst yn blood test a dyna ni. Mae o'n broses mor hir," meddai Mali.

"'Da chi'n gorfod siarad efo llwyth o bobl cyn hyd yn oed cael blood test i weld os 'da chi'n match. Ar ôl cael blood test a phrofion eraill i weld os 'da chi'n match, dim jyst hynna sy'."

Roedd mam Mali Elwy wedi mynd drwy broses i weld os oedd hi'n gymwys i roi aren i'w merch - proses oedd wedi cymryd wyth mis, medd Mali.

Ond hyd yn oed wedyn, roedd rhaid cynnal ymchwiliadau pellach, gyda'i brodyr yn cael eu profi hefyd.

'Ddim yn cyfleu o gwbl sut mae o go iawn'

"Mae brodyr fi wedi mynd drwy'r un broses - proses llethol a hir a draining," meddai Mali.

"Mae'n rhaid siarad efo llwyth o bobl i neud yn siŵr bod o ddim yn emotional blackmail na dim byd fel 'na. Mae'r procedures i gyd fel 'na.

"'Sna ddim byd fel 'na yn cael ei gyfleu. Dio jyst ddim yn cyfleu o gwbl sut mae o go iawn."

Dywedodd elusen Aren Cymru bod yn rhaid i glaf fod yn 18 oed er mwyn rhoi aren, a'i bod yn "anarferol i gael rhoddwr rhwng 18 a 21 oed".

Ffynhonnell y llun, Mali Elwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae brawd Mali, Morgan, yn gymwys i roi aren i'w chwaer

Teimlad Mali yw bod y cynhyrchwyr wedi colli cyfle i godi ymwybyddiaeth am gyflwr sydd ddim yn cael ei gyfleu yn aml mewn operâu sebon.

"I ddechrau o'n i'n meddwl, 'waw, mae'n brilliant maen nhw'n neud stori am rywun sy angen aren, mae hynna'n rili da'. Ond mae'r penodau dwetha' wir yn siomedig," meddai.

'Mae'n ddrwg iawn gennym'

Mewn datganiad mae cynhyrchwyr Rownd a Rownd o gwmni Rondo Media yn dweud eu bod wedi gwneud ymchwil trylwyr cyn taclo'r stori, gan holi nifer o arbenigwyr o fewn y maes rhoddi organau a haematolegydd.

Maen nhw'n dweud taw eu bwriad oedd sicrhau bod y sefyllfa yn un gredadwy a thebygol.

"Rydym yn ymwybodol o'n hymchwil mai prin iawn yw'r enghreifftiau o roddwyr organau o dan ddeunaw oed ond bod hynny yn bosib mewn rhai achosion," meddai'r datganiad.

"Ond, nid oedd ein stori ni yn cymryd fod y trawsblaniad ar y gorwel uniongyrchol (cyn i Mali fod yn 18) ac mae'n ddrwg iawn gennym os nad oedd hynny yn ddigon clir.

"Gwyddom fod oblygiadau dwys i unigolion yn y byd go iawn ac roedd yn fwriad gennym o'r dechrau i amlygu sefyllfa anffodus nifer fawr o blant a phobl ifanc sy'n disgwyl am arennau newydd.

"Gobeithio y gallwn redeg stori gyffelyb arall yn y dyfodol sydd o safbwynt person yn disgwyl am drawsblaniad ac y byddwn yn gallu portreadu y sefyllfa honno yn sensitif a chredadwy."

'Pwysig ei 'neud yn iawn'

Mae'r cynhyrchwyr wedi anfon eu datganiad yn bersonol at Mali a chysylltu â hi i ddymuno'n dda iddi. Mae hi'n dweud ei bod yn gwerthfawrogi eu hymateb yn fawr iawn.

"Achos bod o'n wbath prin mewn dramâu - pan mae o yn cael ei neud mae'n bwysig ei fod o'n cael ei 'neud yn iawn," meddai Mali.

"Pan mae'n cael ei drafod, mae'n bwysig gwneud yn fawr o'r amser yna a rhoi'r ffeithiau allan mewn ffordd gywir fel bod neb yn cael eu camarwain.

"Mi fydda i dal i wylio Rownd a Rownd yn sicr, ond rwy'n falch mod i wedi tynnu sylw at hyn."