Y diwydiant twristiaeth 'angen eglurder ar frys'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Golygfeydd godidog fel hon yn Eryri sydd yn denu cannoedd o filoedd o bobl i'r rhanbarth bob blwyddyn

Mae angen eglurder ar frys ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru am yr hyn sydd i ddod ar ôl i'r cyfnod clo byr ddod i ben, yn ôl rhai o leisiau amlycaf y sector.

Mae teimladau ymysg y sector yn troi o "bryder i ddicter" mewn rhai rhannau o'r wlad, dywedodd un arweinydd.

Mae'n dilyn sylwadau gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddydd Llun y byddai rhybudd o leiaf wythnos o flaen llaw am yr hyn fydd yn dod nesaf ar ddiwedd y cyfnod clo.

Mae disgwyl i'r prif weinidog ddechrau amlinellu rhai mesurau o fewn dyddiau.

Ond dywedodd Jim Jones, rheolwr gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, fod angen i'r 1,000 o aelodau y mae'n eu cynrychioli wybod "fis yn ôl".

Dywedodd fod y rhan fwyaf o ogledd Cymru eisoes wedi cael ei roi dan gyfyngiadau clo lleol, a bod ymestyn y mesurau i gyfnod clo cenedlaethol yn "llym".

"Mae'r prif weinidog yn siarad am y sioc fer, finiog - rydyn ni'n siarad am y sioc hir, finiog i'n heconomi," meddai Mr Jones.

"Mae'r broses gloi bresennol yn wirioneddol annheg i fusnes.

"Rwyf bob amser wedi dweud o'r diwrnod cyntaf 'ie, yn hollol dylem fod yn amddiffyn bywydau' - ond ar yr un pryd dylem fod yn amddiffyn bywoliaeth pobl."

Ffynhonnell y llun, ukmanimal100

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd protest yn erbyn cyfyngiadau Covid-19 yn Llandudno ddydd Sul

Dywedodd Mr Jones fod yr effaith economaidd yn cael ei theimlo ar draws y sector lletygarwch yn y rhanbarth, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi sydd tu ôl i'r diwydiant twristiaeth.

"Rydyn ni eisoes yn clywed am ddiswyddiadau, neu golli swyddi, a chwestiynau a fydd busnesau'n agor," meddai Mr Jones.

"Yr ansicrwydd wrth symud ymlaen - a'r pryder sydd bellach yn troi at ddicter.

"Y diffyg gwybodaeth, y diffyg ymgysylltu yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd gyda Llywodraeth a busnesau Cymru.

"Ni yw'r olaf i gael darganfod unrhyw beth, ac eto ni yw'r rhai sy'n delio â phwysau'r cyfan."

Fe arweiniodd pryderon am y mesurau cloi at brotest dros y penwythnos yn Llandudno, un o'r prif gyrchfannau gwyliau ar arfordir gogledd Cymru.

Dywedodd Twristiaeth Gogledd Cymru fod y sector werth mwy na £3bn i'r rhanbarth bob blwyddyn. Ledled Cymru, roedd y diwydiant yn werth oddeutu £6.3bn mewn gwariant gan ymwelwyr yn 2018, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru.

Roedd hefyd yn cyflogi mwy na 132,000 o bobl - bron i un o bob 10 o weithlu Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ynys Llanddwyn ym Môn - ynys oedd wedi osgoi cyfnod clo lleol ond sydd nawr yn destun cyfnod clo cenedlaethol

Dywedodd perchennog gwersyll glampio Ynys Môn, Victoria Roberts, ei bod eisoes wedi rho'r ffidil yn y to am y tymor yma a chau ei gwersyll.

"Rwy'n gwybod ei bod hi'n fis Hydref, ond rydyn ni'n dal i gael galwadau am archebion - mae yna farchnad ar gael o hyd," meddai.

Ond gyda'r cyfnod clo yn ei le, dywedodd ei bod hi ac eraill mewn busnesau tebyg ar draws yr ynys wedi penderfynu aros ar gau tan y flwyddyn nesaf.

Mae hi hefyd yn rhedeg busnes llety gwyliau arall ond dywedodd nad oedd hi'n gwybod beth fydd y sefyllfa ar ôl i'r cyfnod clo byr ddod i ben ar 9 Tachwedd.

"Ga i archebu? A fydd y cyfyngiadau teithio yn dal i fod mewn grym? Beth am y rheol chwech - a fydd hynny'n dal i fod mewn grym?" gofynnodd.

Fel cyd-gadeirydd cymdeithas dwristiaeth yr ynys, dywedodd fod busnesau eraill yn yr un sefyllfa.

"Mae angen i bobl wybod - esboniad eglur a'i ategu gyda rhesymau pam," ychwanegodd.

"Mae angen i ni wybod erbyn diwedd yr wythnos. Mae angen i ni wybod beth yw'r cynllun a sut y bydd yn datblygu - a beth fydd y cam nesaf.

"A fyddwn ni o bosib yn edrych ar gyfnodau clo eraill yn y flwyddyn newydd?"

Trafodaethau

Dywedodd Mr Gething ddydd Llun y byddai trafodaethau'n parhau gyda rhanddeiliaid ar draws diwydiannau fel twristiaeth a manwerthu yn ystod yr wythnos.

"Mae yna sgyrsiau yn digwydd heddiw, yfory, dydd Mercher, dydd Iau a thu hwnt, ac yna byddwn ni'n disgwyl i'r cabinet ddod at ei gilydd a chytuno ar ystod o reolau," meddai.

"Rydyn ni eisiau bod mewn sefyllfa i roi o leiaf wythnos o rybudd i bobl ddeall y rheolau newydd sy'n mynd i fod ar waith."

Ychwanegodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru y byddai sgyrsiau yn parhau "i gefnogi ein paratoadau ar gyfer y camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben".