Â鶹ԼÅÄ

Y cyfnod clo newydd 'i achub bywydau, nid y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
CynhadleddFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ

Bwriad y cyfnod clo newydd sydd yn dod i rym am 18:00 nos Wener ydy i "achub bywydau, nid achub y Nadolig", meddai'r prif weinidog Mark Drakeford.

Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i'r wasg, ychwanegodd Mr Drakeford na fyddai'r pandemig "drosodd erbyn y Nadolig".

Nid oedd yn gallu cadarnhau a fyddai pobl sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU yn gallu teithio i Gymru ar gyfer yr ŵyl.

Daw ei sylwadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 13 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda Covid-19 yng Nghymru, a chadarnhau 761 o achosion newydd o'r feirws dros y 24 awr diwethaf.

Mae cyfanswm o 1,756 o bobl wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru bellach, ac mae cyfanswm yr achosion erbyn hyn yn 40,253.

Gallai'r gwir ffigyrau yn y ddau achos fod yn sylweddol uwch.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y cyfan yn "anghymesur ac y bydd mewn gwirionedd yn taro busnes ac yn taro'r economi yn galed iawn".

Dywedodd eu harweinydd Paul Davies: "Ni ddylai fod wedi dod i hyn yn y lle cyntaf."

Roedd Plaid Cymru'n cytuno gydag egwyddor y cyfnod clo fel modd o leihau cyswllt rhwng pobl, ond dywedodd eu llefarydd iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Mae cyfathrebu'r llywodraeth yn brin eto, a chredaf mai dyna fu'r stori trwy gydol y pandemig hwn."

'Amhosib rhagweld'

"Mae yna bethau y gallwn eu gwneud, ac y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd, i wneud yn siŵr bod y Nadolig o fath yn dal i gael ei ddathlu yma yng Nghymru," meddai Mr Drakeford.

"Mae'n amhosib rhagweld sut y bydd hynny'n cyd-fynd â'r anawsterau sy'n wynebu rhannau eraill o'r DU.

"Gadewch inni obeithio bod y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith mewn mannau eraill yn llwyddo hefyd, ac yna byddwn ni i gyd yn gallu cwrdd â theulu, gyda ffrindiau - cael rhyw fath o Nadolig, lle mae rhywbeth i ni i gyd ei ddathlu o hyd."

Dywedodd fod nifer y cleifion mewn ysbytai gyda symptomau coronafeirws wedi bron a dyblu yn ystod mis Hydref i'n agos at 900. Bellach roedd 47 o gleifion mewn gofal critigol, meddai.

Ychwanegodd fod y cyfnod clo 17 diwrnod yn hanfodol er mwyn atal ysbytai rhag cael eu llethu: "Mae hwn yn sioc fer, sydyn i'r feirws i droi'r cloc yn ôl ac i sicrhau nad yw ein GIG yn cael ei gor-redeg yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Dyma sioc fer, sydyn i achub bywydau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beirniadodd Mr Drakeford hefyd y rhai a awgrymodd fod y feirws yn "ffug" neu heb gael fawr o effaith, gan ddweud nad oedd yn rhaid i'r rhai a wnaeth yr honiadau wynebu perthnasau oedd yn galaru.

"Mae yna rai sy'n ceisio ein perswadio mai ffug yw'r risg o coronafeirws. Ei fod yn glefyd ysgafn ac nad yw'n gwneud unrhyw niwed," meddai.

"Nid yw'r bobl sy'n dweud hynny wrthych chi yn wynebu teuluoedd y bobl sydd wedi marw'r wythnos hon na fydd byth yn eu gweld a byth yn siarad â'u hanwylyd eto.

"Fyddan nhw byth yn wynebu'r cannoedd yn fwy o bobl yng Nghymru a fyddai'n marw oni bai ein bod ni'n gweithredu nawr i ddod â'r afiechyd marwol hwn yn ôl dan reolaeth."

Rheolau archfarchnadoedd

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "fater syml o chwarae teg" na fyddai archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau a werthwyd gan siopau y mae'n ofynnol eu cau yn ystod y cyfnod clo.

"Rydyn ni'n mynnu bod cannoedd o fusnesau bach yn cau ar y stryd fawr ledled Cymru," meddai.

"Ni allwn wneud hynny ac yna caniatáu i archfarchnadoedd werthu nwyddau nad yw'r bobl hynny'n gallu eu gwerthu."

Nod y clo, meddai, oedd "lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o'u cartrefi yn ystod y cyfnod o bythefnos".

"Nid yw hwn yn gyfnod i fod yn pori o amgylch archfarchnadoedd yn chwilio am nwyddau nad ydyn nhw'n hanfodol."

Wrth drafod y ddadl ynghylch manwerthu hanfodol, dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: "Ni ddylai fod wedi dod i hyn yn y lle cyntaf.

"Credwn fod cyflwyno'r clo cenedlaethol dros dro hwn yn anghymesur ac y bydd mewn gwirionedd yn taro busnes ac yn taro'r economi yn galed iawn, ac felly yn ein barn ni yn amlwg dylid caniatáu i fanwerthwyr annibynnol agor hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mynnodd Mr Drakeford yn y gynhadledd i'r wasg fod unrhyw awgrym bod y penderfyniad yn seiliedig ar ei gredoau gwleidyddol ei hun yn "hurt".

Dywedodd y bydd mesurau pellach yn cael eu cyhoeddi nes ymlaen heddiw i gefnogi pobl nad sy'n gymwys am gymorth yn sgil bylchau cynlluniau cefnogi incwm y DU.

Wrth gyhoeddi'r cyfnod clo byr sy'n dod i rym heno yng Nghymru, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddod â'r Cynllun Cefnogi Swyddi ymlaen o 1 Tachwedd, neu lacio cyfyngiadau'r cynllun ffyrlo, i osgoi diswyddiadau posib cyn diwedd Hydref.

Mae'r Trysorlys yn dweud fod Cymru wedi derbyn biliynau o bunnau mewn cymorth gan Lywodraeth y DU.

Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn gresynu na chafodd ateb i'w lythyr mwyaf diweddar ynghylch y mater, a bod "y CanghelIor wedi methu â chreu system unigol i helpu pobl drwy hynny".

'Cyfathrebu'n brin'

Yn y cyfamser mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi beirniadu diffyg cyfathrebu Llywodraeth Cymru.

Mae peth dryswch am beth sy'n cael ei ystyried yn nwyddau 'hanfodol'.

"Mae cyfathrebu'r llywodraeth yn brin eto, a chredaf mai dyna fu'r stori trwy gydol y pandemig hwn," meddai.

"Rwyf wedi bod yn dadlau ar ran busnesau yn fy etholaeth [Ynys Môn] yn ôl ym mis Mai, Mehefin, Gorffennaf, yn rhoi cynlluniau inni, yn rhoi syniad inni o'r hyn sydd o'n blaenau.

"Mae angen ailosod y cyfnod clo hwn ar gyfer y ffordd y mae'r llywodraeth yn cyfleu'r negeseuon hyn."

Ond dywedodd fod y llywodraeth yn iawn i ddod o hyd i ffyrdd o leihau cyswllt rhwng pobl yn ystod y cyfnod clo byr.