Â鶹ԼÅÄ

23 o farwolaethau ysbyty yn gysylltiedig gyda Covid

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan fwyaf o lawdriniaethau wedi eu gohirio dros dro yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod yna 21 o farwolaethau yn gysylltiedig gyda Covid-19 wedi eu cofnodi bellach yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a dwy yn ysbytai eraill y bwrdd.

Dywedodd llefarydd bod yna 127 o achosion o'r haint hefyd wedi eu cadarnhau yn Llantrisant.

Mae'r cyfyngiadau ar wasanaethau yn yr ysbyty yn parhau mewn grym er mwyn ceisio rheoli'r sefyllfa yno.

Mae'r rhan fwyaf o lawdriniaethau, heblaw rhai canser brys, wedi eu gohirio am y tro.

Ar hyn o bryd mae achosion brys yn cael eu cyfeirio at ysbytai eraill, heblaw achosion yn ymwneud â phlant.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 17 o achosion yn Ysbyty'r Tywysog Charles yn Merthyr Tudful

O ran ysbytai eraill yn ardal y bwrdd, mae Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr wedi cadarnhau un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19.

Mae yna 17 o achosion positif wedi eu cofnodi yn yr ysbyty.

Yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd yna un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 wedi ei chadarnhau, gyda 15 o achosion positif.

Does dim tystiolaeth o achosion yn cael eu pasio rhwng yr ysbytai er y cynnydd, meddai'r bwrdd iechyd.

'Ddim ar frig y don eto'

Dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Cwm Taf: "Mewn cydweithrediad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn monitro achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Tywysog Charles ac Ysbyty Tywysoges Cymru.

"Mae diogelwch cleifion a staff yn parhau yn brif flaenoriaeth ac mae mesurau i reoli ymlediad y feirws wedi cael eu rhoi mewn lle."

Ychwanegodd nad oedd y cynnydd yn gwbl annisgwyl o edrych ar y sefyllfa mewn ysbytai eraill dros y wlad.

"Os ydyn ni'n edrych ar achosion mewn rhannau eraill o'r wlad yna mae'n anochel", meddai.

"Mae'n rhy gynnar i ddweud ein bod wedi cyrraedd brig y don. Mae'n rhy gynnar i ddod i gasgliadau, ac mae angen i'r ffocws fod ar ddiogelu'r ysbyty."