Â鶹ԼÅÄ

22 achos o Covid-19 mewn ail ysbyty Cwm Taf Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog CharlesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae ward wedi'i chau yn Ysbyty'r Tywysog Charles yn dilyn y cynnydd mewn achosion

Mae ail ysbyty ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn delio gyda nifer o achosion Covid-19.

Mae 22 o gleifion coronafeirws bellach yn cael eu trin yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac mae ward yno wedi'i chau.

Daw wedi i lawdriniaethau oedd wedi eu trefnu o flaen llaw gael eu hatal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg er mwyn ceisio ymdopi gyda chynnydd mewn achosion o coronafeirws yno.

Mae 10 claf wedi marw ac 89 o achosion wedi cael eu cadarnhau yn yr ysbyty yn Llantrisant yn ddiweddar.

Dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Dr Kelechi Nnoaham nad oes cysylltiad rhwng yr achosion yn y ddau ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau dwy ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wythnos yn ôl wedi 34 achos o Covid-19

Daw wedi i ffigyrau ddangos bod nifer y cleifion Covid-19 sydd angen triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cynyddu 60% dros yr wythnos ddiwethaf.

Roedd 550 o gleifion coronafeirws angen gwely ysbyty yn yr wythnos ddiwethaf - 229 o'r rheiny ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Ledled Cymru roedd 34 o gleifion Covid-19 yn cael eu trin mewn unedau gofal critigol ar 29 Medi - 15 o'r rheiny yng Nghwm Taf Morgannwg.

Agor ysbyty maes

Yn dilyn y cynnydd mewn achosion yn Ysbyty'r Tywysog Charles, dywedodd y bwrdd iechyd bod mesurau i atal a rheoli lledaeniad y feirws yn cael eu dilyn a bod mwy o brofion yn cael eu cynnal yn yr ysbyty.

Mae mesurau llymach mewn grym yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a dim ond ychydig o lawdriniaethau canser brys fydd yn digwydd yn yr ysbyty am y tro.

Bydd yr adran damweiniau ac achosion brys ar agor i gleifion sy'n cerdded i mewn yno, ond bydd cleifion fyddai fel arfer yn cael eu cludo i'r adran frys yno yn cael eu hasesu mewn lleoliadau eraill.

Bydd ysbyty maes y bwrdd iechyd - Ysbyty Seren ym Mhen-y-bont - yn agor ar 8 Hydref.

Cleifion sydd ddim â Covid-19 fydd yn cael eu trin yno, gan greu mwy o gapasiti mewn ysbytai ar gyfer cleifion sydd angen gofal arbenigol.