'Mwy optimistaidd' ynghylch datblygu brechlyn Covid-19

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru'n cymryd rhan yn y treialon i geisio datblygu brechlyn coronafeirws

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru'n dweud ei fod bellach yn fwy hyderus ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu brechlyn coronafeirws, ond mae'n amhosib awgrymu pa bryd fydd un yn barod.

Yn ôl Dr Frank Atherton mae "nifer o opsiynau calonogol", sy'n symud yn "sydyn" trwy'r profion ymchwil.

"Ry'n ni'n gobeithio ddechrau'r flwyddyn nesaf y gallwn ni weld brechlynnau yn cael eu cyhoeddi ond yn bendant ni fyddai ar gael i bawb yn syth," meddai.

Ychwanegodd y byddai pobl fregus yn cael blaenoriaeth er mwyn "diogelu ein system iechyd".

Disgrifiad o'r llun, Rhybuddiodd Dr Atherton y bydd yna alw "anferthol" ar draws y byd petai brechlyn yn cael ei ddatblygu

Mae byrddau iechyd, meddai, yn gwneud "llawer o gynllunio" ar sut i gyflawni rhaglen frechu, os fydd brechlyn ar gael.

Dywedodd Dr Atherton wrth gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru: "Rwy'n fwy optimistaidd ynghylch y posibilrwydd y bydd brechlyn effeithiol ar gael nag oeddwn i, ddwedwn, chwe mis yn ôl."

Ond rhybuddiodd na fyddai'n "daith esmwyth", ac, er bod y DU eisoes wedi archebu cyflenwadau, y bydd y galw rhyngwladol yn "anferthol".

Disgrifiad o'r llun, Mae achosion ar gynnydd ym Mangor

Cadw golwg fanwl ar Fangor

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o fesurau llymach ym Mangor, tebyg i'r rhai yn Llanelli, wedi cynnydd yn nifer achosion, dywedodd Dr Atherton eu bod yn cadw golwg fanwl ar yr ardal.

Ond fe rhybuddiodd eu bod yn ystyried cyfyngiadau lleol yng Ngwynedd, a bod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n ddyddiol.

Mae'r cynnydd yn yr achosion, meddai, yn gysylltiedig â chymuned myfyrwyr Bangor.

Ychwanegodd fod mwy o bobl hŷn yn dal Covid-19 yng Nghymru bellach, o'i gymharu â'r deufis diwethaf pan roedd achosion ar ei fyny ymysg pobl ifanc.

Yr ystadegau diweddaraf ar draws Cymru

Cafodd 752 o bobl brawf positif am Covid-19 ar draws Cymru yn y 24 awr diwethaf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac fe gafodd tair marwolaeth yn rhagor eu cofnodi.

O'r achosion newydd, roedd 108 yng Nghaerdydd, 93 yn Rhondda Cynon Taf, 76 yn Abertawe a 54 yn Sir y Fflint.

Cafodd 10,518 o brofion Covid-19 yng Nghymru eu prosesu yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae cyfanswm o 27,624 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach, a 1,643 o'r rheiny wedi marw.

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Donald Trump anfon yr aildrydariad yma ddydd Mercher

Yn y cyfamser, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi aildrydar beirniadaeth o gynlluniau i gyflwyno "mesurau un ar y tro" yng Nghymru dros y gaeaf.

Roedd newyddiadurwraig wedi trydar y byddai hyn yn digwydd yn America "o dan [Joe] Biden" - gwrthwynebydd Trump am yr arlywyddiaeth fis nesaf.

Cafodd Mr Trump - a fu'n yr ysbyty yn cael triniaeth am Covid-19 yr wythnos ddiwethaf - ei feirniadu ar ôl iddo alw ar ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol i beidio â bod "ofn Covid".

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher fe rybuddiodd Dr Atherton bobl yng Nghymru i beidio â dilyn negeseuon coronafeirws gan Mr Trump.

"Rwy'n credu bod pobl efallai ychydig yn fwy meddylgar na hynny," meddai.