Ysgrifennydd Cymru 'heb gael gwybod' am gynllun Penalun

Disgrifiad o'r llun, Protestwyr yn gwrthwynebu derbyn ceiswyr lloches ym Mhenalun yn ddiweddar

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud nad oedd wedi cael gwybod am gynlluniau ei lywodraeth ei hun am y bwriad i gartrefu ceiswyr lloches mewn safle gwersyll milwrol yn ei etholaeth.

Dywedodd Simon Hart AS fod y Swyddfa Gartref wedi "cyfaddef" nad oedd y cynllun i gartrefu hyd at 230 o geiswyr lloches ar y safle ym Mhenalun ym Mhenfro wedi ei weithredu'n dda.

Ychwanegodd nad oedd "digon o barch" wedi ei ddangos i Lywodraeth Cymru a'r cymunedau lleol, oedd heb fod yn rhan o unrhyw ymgynghoriad o flaen llaw.

Yn dilyn protestiadau ar y safle dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod y datblygiad wedi bod yn darged i eithafwyr asgell dde.

Dywedodd y criw cyntaf o ddynion o Irac ag Iran oedd wedi eu cartrefu yno eu bod wedi eu dychryn gan gyflwr y safle ac mai dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu cartrefu mewn adeiladau milwrol ers cyrraedd y DU.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud yn flaenorol ei bod wedi "gweithio ar gyflymder" i "ddarparu llety addas."

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales, dywedodd Ysgrifennydd Cymru nad oedd yn "sefyllfa ddelfrydol i unrhyw un oedd yn rhan o hyn."

Dywedodd Simon Hart, sydd y cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Phenfro ei fod wedi clywed am y cynllun gan Gyngor Sir Benfro "oedd wedi gofyn os oeddwn wedi clywed, a doeddwn i ddim, na neb arall chwaith yn hynny o beth."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi codi'r mater gyda'r [Ysgrifennydd Cartref] Priti Patel ar dri os nad pedwar achlysur nawr, a hefyd y gweinidog mewnfudo.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Simon Hart AS nad oedd "digon o barch" wedi ei ddangos i Lywodraeth Cymru a'r cymunedau lleol yn yr achos yma

"Rwy'n deall y polisi ac rwy'n deall yr anawsterau gyda Covid a llety sydd yn cyd-fynd gyda gofynion Covid, rwy'n deall yr anawsterau ar hyn o bryd o ran cludiant a'r holl bethau eraill sydd wedi arwain at hyn.

"Ond y ffaith ydy ein bod i gyd wedi darganfod hyn ar ddamwain yn llwyr achos rhyw sylw ar Facebook. Doedd dim cyswllt swyddogol.

"Nid oedd camau ymarferol y saga hon wedi eu gweithredu'n dda ac mae'r Swyddfa Gartref wedi cyfaddef hynny.

"Ni ddylie bod ni'n darganfod y pethau hyn ar ddamwain a'r ffaith fod rhywun wedi postio rhywbeth ar Facebook. Fe ddylie fod ni wedi cael gwybodaeth o flaen llaw - rhyw ddealltwriaeth o'r ffactorau aeth i mewn i'r broses o benderfynu er mwyn i ni allu esbonio i bobl sydd efallai'n bryderus am y goblygiadau."

Ychwanegodd fod "trafodaeth barhaus" rhwng yr heddlu a'r Swyddfa Gartref am arian ychwanegol i ddelio gyda'r mater.